Y Gyllideb: 'Pob adran allweddol i gael mwy o arian'

Mae disgwyl i'r gwasanaeth iechyd weld cynnydd o 2.5% yn y flwyddyn nesaf dan gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
 
Bydd gwariant ar y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu ychydig dros 2% ar gyfer 2026-2027, yn ôl cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru.
Y gwasanaeth iechyd, yn ogystal â'r adran llywodraeth leol a thai, yw'r prif enillwyr gyda chynnydd o 2.5% a 2.3%.
Wrth gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fod y cynlluniau gwariant yma'n "dangos sut rydyn ni'n diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf".
Ar hyn o bryd mae chwyddiant yn 3.8% ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), yn rhagweld y bydd chwyddiant yn agosach at 2% y flwyddyn nesaf.
Ar ôl colli isetholiad Caerffili, does gan Lywodraeth Llafur Cymru ddim digon o aelodau yn y Senedd i basio cyllideb ar eu pen eu hunain, ac felly bydd rhaid dod i gytundeb gydag o leiaf dau aelod o'r gwrthbleidiau.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill yn y Senedd i greu cyllideb fwy uchelgeisiol byth."

Mae Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru wedi isetholiad Caerffili
Mae gan Lywodraeth Cymru £27.6bn i'w wario yn 2026-27, sy'n dod o grant bloc Llywodraeth y DU a'r arian sy'n cael ei gasglu o drethi datganoledig.
Ar hyn o bryd mae tua £380m heb ei glustnodi.
Mae mwy na 75% o gyllideb y llywodraeth yn cael ei wario ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a llywodraeth leol.
Bydd y gyllideb trafnidiaeth yn cynyddu o 4.3%, er mai cyfran fach o wariant y llywodraeth yw hwn.
Bydd newid hinsawdd a materion gwledig yn gweld cynnydd o 3.1%, tra bod addysg yn gweld cynnydd o 2.2%.
Mae'r cynnydd yn seiliedig ar gymhariaeth rhwng yr hyn y mae'r llywodraeth yn bwriadu ei wario'r flwyddyn nesaf a'r hyn sy'n cael ei wario yn y flwyddyn ariannol hon.

Y bwriad, medd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, yw sicrhau'r "sefydlogrwydd sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus"
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r cynlluniau gwario yma'n dangos sut rydyn ni'n diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf.
"Bydd pob adran allweddol yn gweld mwy o gyllid, gan ddarparu'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
"Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill yn y Senedd i greu cyllideb fwy uchelgeisiol byth.
"Mae'r drws yn dal ar agor i'r rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad i basio Cyllideb sy'n gweithio i bawb yng Nghymru."
Mae 'na bryder bod y cynnydd yma ddim ond yn ddigon i dalu am godiad cyflog yn y sector cyhoeddus sy'n gyfystyr â chwyddiant.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eisoes wedi rhybuddio am godiad serth yn nhreth y cyngor, neu doriadau, heb gynnydd sylweddol yn y gyllideb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi
 

- Cyhoeddwyd21 Hydref
 

