'Dwi ond wedi rhoi un bag bin du mas eleni'

Heather JonesFfynhonnell y llun, Heather Jones
  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n caru siarad gyda phobl am finiau!" meddai Heather Jones o Sblot, Caerdydd.

Dyna sut ei bod hi wedi dechrau sgwrsio am finiau ac ailgylchu gyda'r cyflwynydd radio, Huw Stephens mewn ciw yn ddiweddar.

"Roedd y pwnc jest wedi codi," meddai. "Neu falle mai fi oedd wedi codi'r peth..." chwarddodd.

Mae Heather yn angerddol am y pwnc o ailgylchu, ac yn credu ei fod yn rhywbeth mae pawb yn gallu ei wneud.

"Dwi'n trio gwneud fy ngorau i ddiogelu'r byd drwy sut dwi'n byw yn fy mywyd; dwi'n figan, does gen i ddim car, dwi ddim wedi cael plant.

"Ond mae ailgylchu yn hawdd i'w wneud ac yn rhywbeth mae pawb yn gallu ei wneud, achos mae pawb yn cynhyrchu gwastraff."

Un bag bin

Ers i system ailgylchu newydd ddechrau yn Nghaerdydd yn 2023, mae Heather a'i phartner wedi dechrau ailgylchu mwy, a rhoi llai o fagiau bin 'cyffredinol' allan bob blwyddyn.

"Yn 2023, roedden ni wedi rhoi tua chwech mas, y llynedd roedd e lawr i bedwar, ac eleni, 'dyn ni ond wedi rhoi un; un bag o wastraff allwn ni ddim ei ailgylchu, ac mae popeth arall yn cael ei ailgylchu."

Bag bin Heather JonesFfynhonnell y llun, Heather Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond un bag bin o sbwriel sydd methu cael ei ailgylchu mae Heather wedi ei daflu hyd yma eleni

Mae pethau fel cardfwrdd, poteli gwydr a chaniau metel yn cael eu casglu gan y cyngor bob wythnos, ond mae Heather yn ailgylchu pethau eraill yn ei bywyd hefyd, er mwyn lleihau faint o sbwriel sydd yn cael ei greu yn ei chartref.

"Mae'r rhan fwyaf o'n gwastraff bwyd ni'n mynd i'n bin compost, fel pliciadau llysiau, ond hefyd cardfwrdd, papur brown, y tu mewn i bapur toiled.

"Ar gyfer popeth arall, mae 'na lawer o gynlluniau fel ailgylchu batris a phlastig meddal fel bagiau mewn archfarchnadoedd. Ac mae 'na gynlluniau er mwyn i ti ailgylchu blister packs tabledi, a ti'n gallu cael pwyntiau a thalebau am eu wneud."

Ail natur

Yn ôl Heather, unwaith mae gennych chi 'system' mewn lle, a lle i bopeth, mae'n dod yn rhan o fywyd.

"Mae gennyn ni botyn ar yr oergell ar gyfer ailgylchu hen fatris, a bag bach ar gyfer blister packs. Pan maen nhw'n llawn, rydyn ni'n mynd â nhw i'w hailgylchu, neu os ydyn ni'n mynd i siop, rydyn ni'n gweld os oes rhywbeth allwn ni ei ailgylchu yr un pryd.

"Mae e am gael system ac unwaith mae'n gweithio, ti ddim yn gorfod meddwl llawer amdano fe."

Cwpwrdd bwyd llawn jariauFfynhonnell y llun, Heather Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heather hefyd yn prynu llawer o fwyd o siop dim gwastraff ac yn ailddefnyddio jariau gwydr a phecynnau

Pan newidiodd y system finiau yng Nghaerdydd, roedd pobl yn poeni, meddai Heather, oherwydd bod ganddyn nhw ddim lle i storio biniau. Felly roedd hi'n rhannu lluniau ar ei grŵp cymuned ar Facebook o'i system finiau hi, a sut roedd o'n gweithio.

"Mae pobl weithiau ofn newid, ond roedd e'n iawn. Weithiau mae braidd yn boen, ond unwaith ti'n dod i arfer gyda fe, mae'n dod fel ail natur.

"Mae pawb yn gallu ailgylchu; dydy e ddim yn anodd."

Newidiadau bach

Mae Heather yn cydnabod, efallai ei bod hi'n haws yn eu tŷ nhw gan fod ganddyn nhw ddim plant nag anifeiliaid sy'n cynhyrchu mwy o wastraff, ond mae'n dweud bod gwneud newidiadau bach yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

"Mae'n siŵr ein bod ni wedi adeiladu ein bywydau o'i amgylch, ac mae jest yn dod yn haws ac yn llai o drafferth; mae'n dod yn rhan o'ch bywydau.

"Dewis efallai peidio prynu y bwyd hwnnw achos ei fod e mewn rhywbeth sydd yn anodd i'w ailgylchu, neu mewn llawer o blastig, fel pecynnau creision unigol; well gen i brynu un bag mawr, yn lle cael bag allanol mawr a chwech bag bach.

"Dwi'n ailddefnyddio pecynnau, a dydw i ddim yn ailgylchu jariau gwydr llawer, achos dwi'n mynd â nhw i fy siop dim gwastraff lleol ar gyfer pobl eraill.

"Rydyn ni'n trio ffeindio ffyrdd eraill o ddefnyddio pethau.

"Os ydych chi'n gwneud newidiadau bach, mae e jest yn dod yn arfer."

Beth yw cyngor Heather?

  • Ceisio creu llai o wastraff - "Rydyn ni'n yfed llaeth ceirch, ac roedden ni'n mynd drwy lawer o tetrapaks. Ond rydyn ni wedi dod o hyd i bowdr mewn bag yn lle, sydd yn cymryd lle tua wyth tetrapak."

  • Cael bin compost - "Os ydych chi'n garddio, mae'n gompost am ddim; rydych chi'n cael gwared ar un peth i greu un arall. Rwyt ti'n gallu arbed arian a phlastig drwy beidio prynu bag o gompost o'r siop."

  • Mynd i siop diwastraff – "Mae'n gallu bod yn llawer rhatach i ail-lenwi hylif golchi llestri neu sebon dwylo mewn siop dim gwastraff (zero waste), ac rydych chi'n arbed potel blastig bob tro."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig