Neil Foden: Beth ydyn ni'n gwybod hyd yma?

- Cyhoeddwyd
 
Bydd adroddiad hir-ddisgwyliedig Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru i droseddau Neil Foden yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Y llynedd, cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.
Hyd at ei arestio roedd yn ffigwr amlwg ym myd addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Cafodd ei ddyrchafu fel "uwch bennaeth" yng Ngwynedd, roedd yn arweinydd undeb ac yn aml yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cydnabod y bydd yr adroddiad yn "boenus" ond yn addo sicrhau bod "pob argymhelliad yn cael ei gyflawni'n llawn".
Neil Foden yn cael ei garcharu am 17 mlynedd
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
 
Cyngor Gwynedd: Achos Foden yn 'drasiedi na ddylai ddigwydd eto'
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
 
Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig ar y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd24 Medi
 
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi llunio amserlen o'r hyn rydyn ni'n ei wybod hyd yma.
Dyma rai dyddiadau allweddol sy'n bwrw golwg ar ei 40 mlynedd fel athro a phennaeth.
1979-2016
1979
Dechrau ei yrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
1985
Foden yn cael ei ddewis fel swyddog undeb yng Ngwynedd.
1989
Penodi Foden yn ddirprwy bennaeth Ysgol Friars, Bangor.
1994
Penodi Foden yn bennaeth Ysgol Isaf Friars.
1997
Foden yn cael ei benodi yn bennaeth ar Ysgol Friars gyfan.

Neil Foden yn cyfrannu i raglen BBC yn y 1990au
2010 – 2012
Yn ystod ei achos daeth i'r amlwg fod Foden wedi chwilio am ddeunydd yn ymwneud â merched a pasio dŵr rhwng 2010 a 2012.
Clywodd y llys yn ddiweddarach fod hwn yn fetish y bu'n gorfodi ar ei ddioddefwyr.
Medi 2014 - Tachwedd 2015
Penodi Foden yn bennaeth strategol Ysgol y Gader, Dolgellau.
Awst 2015
Llywodraethwr Ysgol Friars yn cyflwyno cwyn gyda 21 o bryderon, sy'n cynnwys achosion o fwlio gan Foden.
Mai 2016
Panel cwynion Cyngor Gwynedd yn cadarnhau mai dim ond un o'r 21 pryder sy'n cael ei dderbyn, gan ddatgan y gallai Foden efallai "fod wedi peryglu gweithrediad priodol y Corff Llywodraethol".
2017
2017
Cyngor Gwynedd yn colli dau dribiwnlys cyflogaeth yn dilyn honiadau a wnaed gan ddau gyn-athro Ysgol Friars.
Mae Foden yn cael ei feirniadu am fwlio a methu dilyn canllawiau.
Mawrth 2017
Tablau Pisa yn cyhoeddi fod Ysgol Friars wedi'i henwi ymhlith y gorau yn y byd.
Mawrth 2017
Foden yn cefnogi arweinyddiaeth Ysgol Uwchradd Treffynnon, Sir Y Fflint ar gais GwE (Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, a ddaeth i ben ym Mai 2025).
Mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad ei fod wedi gweithio am gyfnodau i GwE fel Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant.
Bu hefyd yn cefnogi Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Syr Richard Gwyn.
2017 – 2024
Foden yn Uwch Swyddog Diogelu dynodedig Ysgol Friars, yn ôl cofnodion Cyngor Gwynedd.
2017 – 2023
Mae 'Jo' - a siaradodd gyntaf ar raglen ddogfen BBC Wales Investigates yn Hydref 2024 - yn dweud bod Foden wedi meithrin perthynas amhriodol â hi o 2017 hyd at Fedi 2023.
18 Rhagfyr 2017
Ar ôl yr achosion yn y tribiwnlys, rhoddodd llywodraethwyr Ysgol Friars bleidlais unfrydol o hyder yn Foden a'r uwch dîm rheoli.
Yn ôl cofnodion y mae Newyddion S4C wedi eu gweld, nododd y cadeirydd na fyddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd oherwydd arolygiad Estyn da ac asesiad cadarnhaol gan yr awdurdod lleol a GwE.
2018
5 Gorffennaf 2018
Tribiwnlys yn dyfarnu y dylai llywodraethwyr Ysgol Friars neu Gyngor Gwynedd dalu £8,000 i athro (oedd ynghlwm ag un o'r tribiwnlysoedd yn 2017).
Nododd y barnwr fod Foden a rhai aelodau o'i uwch dîm wedi gweithredu yn erbyn yr athro mewn ffordd "bitw a dialgar".
25 Awst 2018
Cymwysterau Cymru, sy'n monitro safonau arholiadau, yn cefnogi dwy gŵyn am ffrae dros ganlyniadau arholiadau Ysgol Friars.
Nododd y corff nad oedd honiadau o gamymddwyn yn yr ysgol wedi'u trin yn gywir.
Medi 2018
Foden yn penodi ei hun yn bennaeth diogelu a bugeiliol Ysgol Friars.
2019
2019 - 2022
Foden yn meithrin perthynas amhriodol â Plentyn E (fel y cyfeiriwyd ati yn achos llys 2024).
Ionawr 2019
Penodi Foden yn aelod gweithredol o undeb athrawon NEU Cymru.
Mawrth 2019
Cyngor Gwynedd yn comisiynu Pwyllgor Cwynion Annibynnol i edrych ar sefyllfa Ysgol Friars yn sgil colli dau dribiwnlys cyflogaeth.
12 Ebrill 2019
Dim ymchwiliad gan Gyngor Gwynedd ar ôl i uwch aelod o staff Ysgol Friars godi pryder am agosatrwydd Foden â rhai merched ifanc.
Mae BBC Cymru yn deall bod pedwar aelod o staff Cyngor Gwynedd yn rhan o'r penderfyniad.
Mai/Mehefin 2019
Adroddiad y Pwyllgor Cwynion Annibynnol yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd.
Dywedodd yr awduron fod corff llywodraethol Ysgol Friars yn "or-ddibynnol" ar farn y pennaeth neu uwch staff.
Un o'r nifer o argymhellion oedd penodi "cyfaill beirniadol" i helpu'r llywodraethwyr a'r pennaeth.
Haf/Hydref 2019
Ail bryder diogelu yn cael ei godi am Foden gan weithiwr allweddol Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae hyn yn cael ei gyhoeddi ar ôl ymchwiliad gan Newyddion S4C wnaeth ddarganfod ei bod hi'n debygol fod y pryder wedi ei rannu â Chyngor Gwynedd, ond na chafwyd ymchwiliad ffurfiol.
2020
5 Chwefror 2020
Foden yn annerch Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd.
Drwy groesgyfeirio cofnodion llys a'r Senedd, mae BBC Cymru wedi darganfod bod Foden wedi treulio'r noson gynt yn cam-drin Plentyn E mewn ystafell westy.
Medi/Hydref 2020
Cafwyd Foden yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Clywodd panel honiadau ei fod wedi bwlio tri aelod o staff rhwng Ebrill 2014 a Hydref 2016.
2021
Mawrth 2021
Foden yn cael ei ddiarddel o undeb yr NEU.
19 Mawrth 2021
Mewn llythyr y mae Newyddion S4C wedi ei weld, mae Cyngor Gwynedd yn cadarnhau fod "cyfaill beirniadol annibynnol" wedi ei benodi i helpu Ysgol Friars, ac er bod "cynnydd priodol" wedi ei wneud, doedd y gwaith ddim ar ben.
26 Ebrill 2021
Cofnodion Fforwm Cyllideb Ysgolion Gwynedd yn nodi bod Foden wedi rhoi'r gorau i'w rôl fel cynrychiolydd yr NEU.
Ni soniwyd fod Foden wedi cael ei ddiarddel gan yr undeb. Cytunodd yr aelodau i anfon nodyn o ddiolch "am ei wasanaeth a'i gyfraniad".
14 Mehefin 2021
Cysylltiad Foden ag Ysgol Dyffryn Nantlle yn dechrau.
Mae cofnodion llywodraethwyr yn dangos bod "cynllun ymyrraeth" wedi'i dderbyn ar ôl gofyn am help gan Gyngor Gwynedd i redeg yr ysgol.
Mae Newyddion S4C wedi gweld cofnodion y cyfarfod sy'n nodi fod pennaeth addysg Gwynedd, Garem Jackson wedi esbonio fod swyddogion yr awdurdod wedi penderfynu bod "angen cryfhau arweinyddiaeth yr ysgol ar y lefel uchaf", ac yn enwi Foden ar gyfer y gwaith.
Eglurodd fod Cyngor Gwynedd "wedi cytuno cymryd rôl fel rheolwr llinell" i Foden er mwyn arbed llwyth gwaith ychwanegol i'r cadeirydd.
21 Mehefin 2021
Foden yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle.
Mae Newyddion S4C ar ddeall mai Foden oedd wedi gosod telerau ei hun na fyddai'n atebol i gorff llywodraethol yr ysgol.

Roedd Neil Foden yn arweinydd undeb ac yn aml yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd
Medi 2021
Mam o Fangor yn dweud bod Foden wedi ymosod ar ei mab 11 oed yn Ysgol Friars.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn ddiweddar dywedodd ei bod wedi gweld tystiolaeth fideo, a ffilmiwyd gan staff, yn dangos Foden yn dal ei mab - oedd ag anghenion addysgol arbennig - i'r llawr yn "fygythiol", gan benlinio ar ei ben.
11 Tachwedd 2021
Sgandal cinio ysgol Ysgol Dyffryn Nantlle yn ffrwydro dros y cyfryngau.
Roedd Foden wedi ysgrifennu at rieni yn dweud na fyddai cinio'n cael ei roi i'r plant os oedd ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyled.
Tachwedd 2021
Yn ôl ffynonellau, mae Cyngor Gwynedd yn cynghori y dylai Foden gael ei wahardd dros dro tra bo ymchwiliad yn parhau i ddull dadleuol o atal (restrain) disgybl.
Mae Newyddion S4C yn deall fod cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Friars wedi dewis peidio â gwahardd Foden, a'i gynghori i weithio o gartref am gyfnod.
2022
Chwefror 2022
Fideo yn cael ei rannu ar-lein yn dangos Foden yn cydio mewn disgybl Ysgol Dyffryn Nantlle.
Dywedodd Cyngor Gwynedd ar y pryd eu bod yn ymwybodol o'r fideo a bod yr ysgol yn delio â'r mater "yn unol â'u gweithdrefnau mewnol eu hunain a'r canllawiau cenedlaethol perthnasol".
31 Awst 2022
Cyfnod Foden yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn dod i ben.
2023
2023
Foden yn meithrin perthynas amhriodol gyda, a cham-drin Plentyn A (fel y cyfeiriwyd ati yn yr achos llys).
Mawrth 2023
Tri athro yn trafod agosrwydd Foden at Blentyn A.
Awgrymodd un y dylid codi'r pryder gyda Chyngor Gwynedd, ond dywedodd athro arall na fyddai hynny'n briodol oherwydd diffyg ymchwiliad blaenorol.
Anfonwyd e-bost at Foden gan y tri yn dweud ei fod yn "annoeth".
Mehefin 2023
Gweithiwr cymdeithasol Plentyn B yn ymweld ag Ysgol Friars ar gyfer cyfarfod a drefnwyd oherwydd pryderon fod y plentyn yn ymweld â swyddfa Foden yn ormodol.
Mehefin 2023
Arolygiad Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Cyngor Gwynedd.
Mae'r corff arolygu addysg yn nodi bod y trefniadau diogelu yn "gadarn", a bod arweinwyr yr adran yn deall eu cyfrifoldebau statudol.
6 Medi 2023
Foden yn cael ei arestio.
2024
22 Ebrill 2024
Yr achos yn erbyn Foden yn dechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
30 Ebrill 2024
Cyngor Gwynedd yn cadarnhau ymddeoliad Foden.
15 Mai 2024
Rheithgor yn cael Foden yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
1 Gorffennaf 2024
Dedfrydu Foden i 17 mlynedd dan glo.
Cafodd Neil Foden ei arestio gan yr heddlu yn Ysgol Friars
8 Hydref 2024
BBC Wales Investigates yn darlledu rhaglen ddogfen My Headteacher the Paedophile, gan ddatgelu y gallai Foden fod wedi bod yn cam-drin plant ers 1979.
10 Hydref 2024
Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Foden.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd yr aelod Plaid Cymru nad oedd am weld ymchwiliad cyhoeddus na chwaith ymchwiliadau i brosesau mewnol y cyngor, gan nodi ei fod yn hyderus y byddai'r holl dystiolaeth yn cael ei chyflwyno i'r tîm Bwrdd Diogelu Plant.
"Mae gen i staff ardderchog oddi fewn i'r cyngor yma," meddai. "Dwi'n gresynu fod yna unrhyw amheuaeth ar eu proffesiynoldeb nhw."
11 Hydref 2024
Dyfrig Siencyn yn ymddiheuro "yn ddiffuant" i holl ddioddefwyr Foden, gan ddweud ei fod bellach yn cefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus.
Mae pedwar cynghorydd Plaid Cymru - Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker - yn ymddiswyddo o gabinet Cyngor Gwynedd oherwydd sylwadau gwreiddiol Dyfrig Siencyn.
17 Hydref 2024
Dyfrig Siencyn yn ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd.

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024
14 Tachwedd 2024
Newyddion S4C yn datgelu fod Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd o gam-drin yn ymwneud â'r cyn-bennaeth, a bod Cyngor Gwynedd yn cael trafferth penodi pennaeth newydd i Ysgol Friars.
27 Tachwedd 2024
Newyddion S4C yn adrodd fod dau aelod o staff wedi eu gwahardd o Ysgol Friars.
6 Rhagfyr 2024
Arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys, yn dewis cabinet newydd.
Does dim lle i'r pedwar a ymddiswyddodd ganol Hydref, er eu bod wedi ymgeisio.
16 Rhagfyr 2024
Newyddion S4C yn datgelu fod data a rannwyd gan swyddog undeb yr NEU yn dangos bod Foden wedi cael "rhyddid" i recriwtio tua 80 o weithwyr heb naill ai gyfweld, hysbysebu nac ymgynghori â llywodraethwyr.
2025
21 Ionawr 2025
Cabinet Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo cynllun ymateb i ymchwilio i'r holl wersi i'w dysgu yn sgil troseddau Foden.
Mae cynnig ymddiheuriad personol i ddioddefwyr Foden yn un amcan.
22 Ionawr 2025
Arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys, yn cadarnhau i Newyddion S4C na chynhaliwyd unrhyw ymchwiliadau mewnol i brosesau'r cyngor mewn cysylltiad â Foden tan ar ôl Hydref 2024.
Mawrth 2025
Penodi Sally Holland i gadeirio'r bwrdd sy'n goruchwylio ymateb Cyngor Gwynedd i droseddau Foden.
Ebrill 2025
Cyngor Gwynedd yn cadarnhau i Newyddion S4C na fydd adroddiad annibynnol gan fargyfreithiwr o Lundain, oedd yn edrych ar sut wnaeth yr awdurdod drin pryderon am Foden yn 2019, yn cael ei gyhoeddi oherwydd ei gynnwys "sensitif".
Mai 2025
Newyddion S4C yn datgelu fod dau o benaethiaid Adran Blant Cyngor Gwynedd "i ffwrdd o'u gwaith", ond ni chafwyd esboniad.
Gorffennaf 2025
Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod angen mwy o staff ac adnoddau i ymateb i argymhellion adroddiad y Bwrdd Diogelu Plant.