Ryff geid i Ddinas Llên UNESCO 'Aberystwyth Ceredigion'

Un o lenorion Aberystwyth - Yr Archdderwydd Mererid Hopwood gyda rhai o aelodau'r Orsedd
- Cyhoeddwyd
Wrth i Aberystwyth a Cheredigion ddathlu ennill statws Dinas Llên UNESCO, Cymru Fyw sy'n edrych ar rai o'r cysylltiadau oedd yn hwb i'w cais llwyddiannus.
Lleisiau'r gorffennol
Mae gan ardal Ceredigion ei siâr o lenorion Cymraeg, a dim syndod o ystyried bod cymaint wedi astudio neu ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae sawl lle yn gallu hawlio cysylltiad efo TH Parry-Williams; Rhyd-ddu, Rhydychen, Freiburg, Paris - ond fe dreuliodd rhan fawr o'i fywyd yn Aberystwyth. Roedd y bardd yno fel myfyriwr cyn gweithio yn yr adran Gymraeg rhwng 1919 ac 1952.
Yn debyg i Parry-Williams, roedd Gwenallt yn heddychwr ac aeth i astudio Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1919. Ar ôl cyfnod o ddysgu mewn ysgol yn Y Barri, aeth nôl i Aberystwyth i'r adran Gymraeg fel academydd rhwng 1927-1966.
Mae bedd Gwenallt yn y dref ac mae plac coffa iddo ar ei gartref ym Mhenparcau.
Wyres Gwenallt yn canfod 'trysorau' wrth glirio'r tŷ
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
Enwau eraill adnabyddus o'r byd llenyddiaeth Cymraeg sydd efo cysylltiad gydag Aberystwyth ydi: y bardd Prosser Rhys - wnaeth sefydlu Gwasg Aberystwyth yn 1928, Waldo Williams - wnaeth raddio mewn Saesneg yno yn 1926 (mae Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo Williams yn cael ei gynnal yn y dref), T Gwynn Jones - fu'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac adran Gymraeg y Brifysgol, y bardd a'r sosialydd TE Nicholas neu Niclas y Glais - fu'n weinidog yng Ngheredigion cyn symud i weithio fel deintydd yn Aberystwyth.

Roedd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, yn arloeswr mewn sawl maes
Tu hwnt i Aber, mae 'na enwau mawr hefyd.
Yng Ngheredigion magwyd y llongwr a'r bardd Cranogwen. Hi oedd y ddynes gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol - a hynny yn Aberystwyth yn 1865.
Pwy oedd Cranogwen?
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
Nodi 50 mlynedd ers marwolaeth Waldo Williams
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
Dylanwad Prosser Rhys, canrif ers ei gerdd feiddgar
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
A Dafydd ap Gwilym? Un o Geredigion. Yn ôl traddodiad fe gafodd y bardd - un o'r pwysicaf ar draws Ewrop yn y Canol Oesoedd - ei gladdu yn Nhalyllychau neu Ystrad Fflur.
Archdderwyddon
Mae sawl Archdderwydd efo cysylltiad gydag Aber - gan gynnwys yr unig ddwy ddynes i ddal y swydd.
Cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth Christine James oedd y fenyw gyntaf i fod yn Archdderwydd, rhwng 2013-2016.
Yr ail ydi'r person sy'n dal y swydd ar hyn o bryd - Mererid Hopwood. Ac mae hi'n gweithio....ie, yn adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Lle Oeddwn i: Christine James a'i henwebiad Archdderwydd
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
Pump peth difyr am yr Archdderwydd newydd Mererid Hopwood
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2024
Llenyddiaeth gyfoes
Nid Mererid Hopwood ydi'r unig brifardd efo cysylltiad cryf efo Aberystwyth a Cheredigion.
Mae rhai o'r beirdd ddaeth i'r amlwg yn yr 1980au a'r 1990au wrth boblogeiddio barddoniaeth drwy berfformio eu cerddi yn gyn-fyfyrwyr y Coleg ger y Lli - Twm Morys, Myrddin ap Dafydd a'r diweddar Iwan Llwyd. Felly hefyd y prifardd Ceri Wyn Jones, Meuryn rhaglen Y Talwrn, sydd hefyd yn frodor o Aberteifi, yng Ngheredigion.
Fy Stafell i: Ceri Wyn Jones
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
Mae cefn gwlad a thirwedd Ceredigion yn amlwg yng ngwaith yr awdur Caryl Lewis, er enghraifft Martha, Jac a Sianco.
Mae'r awdur, sy'n gyn-fyfyriwr Aberystwyth ac yn dal i fyw yng Ngheredigion, hefyd wedi sgriptio'r gyfres deledu Y Gwyll.

Enillodd Caryl Lewis deitl Llyfr y Flwyddyn am yr eildro yn 2016 am ei nofel Y Bwthyn, wedi iddi ennill yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco
Dwy lyfrgellwraig ac ymchwilydd academaidd fel prif gymeriadau a'r Llyfrgell Genedlaethol yn ganolbwynt i'r cyfan - mae Aberystwyth yn amlwg iawn yn nofel Fflur Dafydd Y Llyfrgell, sydd bellach hefyd yn ffilm a chyfres deledu.
Astudio Saesneg yn y Brifysgol wnaeth yr awdur, a bu'n dysgu sgriptio yno yn ddiweddarach hefyd.
Lle oeddwn i: Fflur Dafydd a Y Llyfrgell
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2016
Tref glan môr Aberdyddgu ydi enw lleoliad Dan Gadarn Goncrit, sydd wedi bod yn waith gosod Lefel A ers sawl blwyddyn, ond Aberystwyth, heb os, ydi'r ysbrydoliaeth.
Yr awdur ydi Mihangel Morgan, un o brif nofelwyr modern Cymraeg, ac fe fu'n darlithio yn adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am flynyddoedd.
Bardd y Dref
Does 'na'm llawer o drefi efo bardd swyddogol - ond mae gan Aberystwyth un.
Yn 2023 fe wnaeth Cyngor Tref Aberystwyth benderfynu creu'r swydd er mwyn dathlu digwyddiadau'r dref.
Eurig Salisbury - ei hun yn ddarlithydd yn adran Gymraeg y Brifysgol ac yn gyn-fyfyriwr yno hefyd - oedd y cyntaf i ddal y swydd.
Bardd y Dref eleni ydi Dr Hywel Griffiths sy'n darlithio yn yr Adran Daearyddiaeth.
Y Llyfrgell Gen
Gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a chartref Archif Lenyddol Cymru ymysg pethau eraill, roedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn siwr o gryfhau cais statws dinas llên 'Aberystwyth Ceredigion'.

Mae gan y llyfrgell, sy'n rhan o'r ymgyrch Dinas Llên, yr hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon
Wedi ei sefydlu yn 1907 - ar ôl ymgyrch 30 mlynedd - mae'r adeilad urddasol ar Ffordd Penglais, sy'n edrych dros dref Aberystwyth, hefyd yn gartref i nifer o lawysgrifau pwysig, fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin.
Hyrwyddo a chyhoeddi
Diolch i'w murlun anferth, mae'n anodd teithio o'r gogledd i Aberystwyth ar hyd yr A487 heb sylwi ar wasg Y Lolfa, gafodd ei sefydlu yn yr 1960au yn Nhalybont. Mae Gwasg Gomer hefyd yng Ngheredigion.
Yn Aberystwyth mae Cyngor Llyfrau Cymru ac mae digon o ddigwyddiadau llenyddol yn cael eu cynnal drwy'r flwyddyn - fel Gŵyl Crime Cymru - sy'n dathlu llenyddiaeth trosedd, noson barddoniaeth Cicio'r Bar, a gŵyl barddoniaeth flynyddol sy'n cael ei drefnu gan siop annibynol Bookshop by the Sea.
Mae hon yn fersiwn o erthygl a gyhoeddwyd gyntaf yn 2024.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.