Galw am "seibiant" o sŵn tyrbinau gwynt

  • Cyhoeddwyd
Tyrbinau gwynt (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeiseb yn galw am ddiffodd tyrbinau gwynt mawr fel bod trigolion gerllaw yn cael rhywfaint o "seibiant" o'r sŵn

Mae deiseb yn galw am ddiffodd tyrbinau gwynt ar brydiau er mwyn rhoi "seibiant" i bobl sy'n byw gerllaw wedi'i chyflwyno i wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Roedd dros 1,000 o bobl wedi cefnogi'r alwad i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar y sŵn sy'n cael ei gynhyrchu gan y tyrbinau.

Maen nhw'n galw am orfodi "cyfnodau o seibiant" ar dyrbinau sydd dros 1.3 megawat.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i gadeirydd y pwyllgor deisebau, William Powell, ar risiau'r Senedd fore dydd Mawrth.

Pwnc llosg

Mae'r ddeiseb yn galw am amrywio'r cyfnod y byddai'r tyrbinau yn cael eu diffodd, gan ddibynnu ar ba mor agos ydyn nhw at gartrefi a chymunedau.

Mae ffermydd gwynt yn parhau yn bwnc llosg, ac yn gynharach y mis hwn fe ddisgrifiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones rhai o'r penderfyniadau cynllunio ar ffermydd gwynt mawr fel "ergyd" i Gymru.

Dywedodd wrth Aelodau Cynulliad fod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru wedi cael eu gwrthod gan San Steffan, gan agor y drws i'r posibilrwydd o gael ffermydd gwynt mawr ar y tir unrhyw le yng Nghymru.

Mae Aelodau Cynulliad wedi gofyn am ragor o dystiolaeth ynglŷn â'r sŵn sy'n cael ei gynhyrchu gan dyrbinau gwynt ac mae disgwyl iddyn nhw drafod y mater eto ym mis Tachwedd.

Deisebau

Ymhlith y deisebau eraill a drafodwyd gan y pwyllgor fore dydd Mawrth oedd deiseb yn galw am gofnod gwbl ddwyieithog o drafodion y cynulliad.

Dyw cyfieithiadau Cymraeg o drafodion Saesneg ddim wedi'u cynnwys yn y cofnod swyddogol o ddadleuon ers mis Medi 2010.

Nododd y pwyllgor bod disgwyl penderfyniad ynglŷn â'r mater hwn gan gomisiynwyr y cynulliad yn fuan.

Roedd deiseb arall yn galw am gofnod o drafodion cynghorau Cymru.

Bydd y mater hwn hefyd yn cael ei drafod ymhellach ym mis Tachwedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol