John Pierce Jones a Lois Elenid ar hysbyseb Nadolig Tesco

Golygfa o hysbyseb TescoFfynhonnell y llun, Tesco
  • Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi sylwi bod yr actorion John Pierce Jones a Lois Elenid yn ymddangos ar hysbyseb Nadolig Tesco eleni?

Do, mae'r frwydr am yr hysbyseb Nadolig orau rhwng y siopau mawr wedi cychwyn.

Ac eleni, That's what makes Christmas yw thema hysbyseb Tesco. Yn ôl John Pierce Jones fu'n chwarae rhan yr anfarwol Arthur Picton ar C'mon Midffîld, mae'r stori y tu ôl i'r hysbyseb "yn agos iawn at y gwir".

ffilmioFfynhonnell y llun, Lois Elenid
Disgrifiad o’r llun,

Cip ar y broses ffilmio

Tensiwn y Nadolig yn gyfle i ddefnyddio hiwmor

Meddai John Pierce Jones: "Mae hi fatha golygfa lle dwi wedi d'eud rwbath sydd wedi tynnu nyth cacwn ac mae'r wraig yn dod i mewn efo'r twrci a mi allwch chi dorri drwy'r tensiwn efo cyllell.

"Mae'n g'neud hwyl ar wirionadd y Nadolig, 'ylwch tu ôl i Santa Clôs a'r tinsel, fel hyn mae'r Nadolig go iawn', mae'r elfen o realaeth yn gryf."

Gwraig efo'r twrciFfynhonnell y llun, Tesco

"A'r gwir ydi, fel yna mae'r Nadolig. Mae o'n gyfnod llawn tensiynau bach dibwys am ddim byd.

"Yn ein tŷ ni mi fyddwn ni yn dadla' am bwy sy'n mynd â'r bwyd i'r bin neu bwy fydd yn plicio'r tatws.

"Tensiwn ydi o wrth i deuluoedd drio creu'r diwrnod perffaith ynde. Fydd y bwyd yn barod mewn pryd, fydd o'n iawn… Ac ar ôl bwyta mae rhywun yn gallu llonyddu ac agor ei felt ac mae bywyd yn braf eto."

TeuluFfynhonnell y llun, Tesco

A yw John yn rhagweld tensiwn ar ei aelwyd unwaith eto eleni?

"Mae'r tensiwn cyn y Nadolig wedi cychwyn yn barod! Mae'r mab, Iwan eisiau cig eidion a finna' isio gŵydd!"

"Fi sy'n g'neud y bwyd diwrnod 'Dolig. Dwi'n meddwl fod Iwan wedi ennill ac mai asennau cig eidion fyddwn ni'n ei gael a gŵydd ddydd Calan.

"Gŵydd fyddan ni'n ei gael bob 'Dolig ers blynyddoedd maith a pham oeddan ni'n fychan yn tyfu ar ffarm yn Sir Fôn, gŵydd oeddan ni'n ei gael, doedd twrci ddim yn ffasiynol nes o'n i'n rhyw chwech oed."

Hysbyseb cyntaf actores o Ben Llŷn

Er bod John Pierce Jones wedi ymddangos mewn sawl hysbyseb mawr o'r blaen gan gynnwys hysbyseb i'r cwmni yswiriant Go Compare a hysbyseb i gwmni seidr Strongbow, dyma hysbyseb cyntaf yr actores Lois Elenid.

Mae Lois Elenid wedi dod i amlygrwydd ers ei rhan yn y ddrama Craith ac fe fuodd hi hefyd yn chwarae rhan Tammy ar Rownd a Rownd.

Meddai Lois am ei rôl yn yr hysbyseb: "Dwi'n chuffed ac yn falch iawn o gael bod ynddo fo. Dwi newydd ddod allan o ysgol ddrama felly mae'n teimlo fel cam da.

"Dwi'n meddwl fod y thema yn rili clyfar ac maen nhw yn amlwg wedi talu rhywun i sgwennu sgript wreiddiol fydd dipyn yn gallu uniaethu hefo.

Cast yr olygfa yn y cartref CymreigFfynhonnell y llun, Lois Elenid
Disgrifiad o’r llun,

Cast yr olygfa yn y cartref Cymreig gan gynnwys Lois Elenid (trydydd o'r dde)

Fel John Pierce Jones, er mwyn cael ei chastio ar gyfer yr hysbyseb fe wnaeth Lois anfon fideo ohoni hi ei hun i griw cynhyrchu'r hysbyseb a chael ei dewis i glyweliad ar ôl cyrraedd y rhestr fer.

Ar ôl cael y rhan fe aeth Lois, John a chwech actor arall i Lundain i ffilmio'r olygfa yn y cartref Cymreig.

Meddai Lois: "Oedd pawb yn lyfli, fuon ni'n rili lwcus ein bod ni yn dod ymlaen yn dda. John a finna' oedd yr unig rai oedd yn siarad Cymraeg ond mi oedd yr actorion eraill yn ddysgwyr gan gynnwys Chris Jenkins a Geraint De Cavalho."

"Mi oedd yn braf iawn cyd-actio efo John am y tro cynta' a gwneud cysylltiadau gan fy mod i yn dod o Ben Llŷn a fynta efo teulu yn dod o Aberdaron."

Y cwestiwn mawr i Lois ydy a gawson nhw fwyta'r wledd ar y bwrdd sy'n dwyn dŵr i ddannedd ar ddiwedd y ffilmio?

"Naddo, a fasach chi ddim eisiau chwaith," eglurai Lois. "Mewn hysbyseb mae'r bwyd yn cael ei oleuo a'i baratoi i edrych yn anhygoel, roedd yna ryw fath o olew yn cael ei daenu arno fo bob hanner awr!

"Roedd yn brofiad difyr gweld y cyfan a pha mor wahanol yw'r broses o greu hysbyseb yn hytrach na golygfa i raglen."

Lois Elenid yn actio yn yr olygfa (cyntaf o'r chwith)Ffynhonnell y llun, Tesco
Disgrifiad o’r llun,

Lois Elenid yn actio yn yr olygfa (cyntaf o'r chwith)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: