Ateb y Galw: Steffan Lloyd Owen

Steffan Lloyd OwenFfynhonnell y llun, Artan Hürsever
  • Cyhoeddwyd

Rhwng perfformio gyda Bryn Terfel yn Y Swistir a rhyddhau fersiwn newydd o gân eiconig Cymraeg, mae'r bariton Steffan Lloyd Owen wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar.

Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'r cerddor ar hyn o bryd yn treulio cyfnod fel artist ifanc yn y Tŷ Opera yn Zurich. Mae o hefyd wedi recordio fersiwn newydd o'r clasur Safwn yn y Bwlch gyda'r tenor opera Trystan Llŷr Griffiths.

Gyda'r ddau'n chwarae rygbi - Trystan gyda Chlwb Rygbi Crymych a Steffan gyda Llangefni – maen nhw'n galw ar gefnogwyr Cymru i sefyll gyda'i gilydd a chefnogi'r tîm cenedlaethol yn ystod Cyfres yr Hydref.

A heddiw mae Steffan yn Ateb y Galw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Steffan yn hogyn ifanc gyda'i deuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan gyda'i frawd Carwyn a'u rhieni

Un o fy atgofion cyntaf yw bod yn Sioe Môn gyda Mam, Dad a fy mrawd hynaf, Carwyn.

Dwi'n cofio cael fy ngwthio o gwmpas yn y pram a chofio dod wyneb yn wyneb gyda Nain a Taid Llandegfan.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys LlanddwynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Ynys Llanddwyn ar draws Bae Caernarfon tuag at fynyddoedd Dyffryn Nantlle a Phen Llŷn

Traeth Llanddwyn! Dyma i mi'r lle gorau yn y byd. Tydi hi ddim yn bell o fy nghartref ym Mhentre Berw.

Mae gen i atgofion da o seiclo yna gyda fy mrawd. Dyma'r lle perffaith i enaid gael llonydd.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Steffan yn perfformioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan yn perfformio Elijah gan Mendelssohn

Dwi'n meddwl pan ddaru mi ganu'r title role yn Elijah am y tro cyntaf yng Ngŵyl Biwmares yn 2024.

Roedd y dorf llond wynebau cyfarwydd a dwi dal i gael gwefr hyd heddiw gyda'r atgof o'r dorf yn codi ar ei thraed ac yn cymeradwyo hyd y diwedd. Dwi wastad yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth fy ffrindiau, fy nheulu a fy grŵpis yn Ynys Môn!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Sensitif, siriol a gonest.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Fydd rhaid iddo fod yn un o'r cyngherddau ddaru mi wneud gyda TRIO.

Ddaru 'na lot fawr o bethau doniol ddigwydd, rhwng anghofio siwt, anghofio sgidiau, troi fyny yn y venue anghywir a llawer mwy sydd ddim yn addas i'r cyfweliad yma!

Ond, mae 'na un stori sydd wastad yn gwneud i mi chwerthin.

Ar ôl gorffen cyngerdd lawr yn ne Cymru, ddaru 'na gwpl hŷn ofyn i ni os oedden ni angen lift i'r pyb lle'r oedd pawb yn mynd ar ôl y cyngerdd. Dyma ni'n deud "ia plîs" ac i mewn i gefn y car.

Ddaru'r car mond dreifio 20 metr lawr y lôn a thynnu fewn, dyma'r cwpl yn deud "'da ni yma".

Ddaru Emyr, Bedwyr a finnau neud dim byd o'n chwerthin trwy'r nos a'r cwpl methu deall pam o'n ni'n chwerthin gymaint.

Dwi'n methu'r hwyl a chwmni'r hogia. Gafon ni amser arbennig iawn gyda'n gilydd a dwi'n aml iawn yn meddwl am y diweddar Annette (Bryn Parri). Fysa fo ddim wedi bod yn bosib hebddi hi.

Llun Trio gydag Annette Bryn ParriFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan gyda gweddill TRIO - Emyr Gibson a Bedwyr Gwyn Parri, a'r diweddar Annette Bryn Parri

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Dwi'n cofio troi fyny i'r ysgol ar ddiwrnod 'dillad eich hunain' mewn gwisg ysgol.

Dad oedd yn mynd â fi i'r ysgol diwrnod yna, dyma fi'n sylwi wrth yrru trwy giatiau'r ysgol mod i wedi gwneud y camgymeriad. Ddaru mi grefu efo Dad i fynd a fi adra i gael newid yn sydyn. Dyma Dad yn troi ata i a deud "Have a good day, son".

Eshi allan o'r car a dyma fo'n mynd. Fi odd yr unig berson trwy'r ysgol gyfan oedd wedi anghofio. Mae hi'n saff i ddweud ddaru mi byth wneud y camgymeriad yna eto… ond dwi byth wedi maddau i Dad hyd heddiw!

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n andros o ddrwg am adael pethau tan funud ola' i'w dysgu. 95% o'r amser mae o'n gweithio allan… well gen i beidio sôn am y 5% arall!!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Un o fy hoff ffilmiau erioed yw Bohemian Rhapsody.

Dwi'n ffan anferth o Freddie Mercury a Queen. Dwi'n cofio eistedd mewn distawrwydd (rhywbeth sydd byth yn digwydd i mi) ar ôl gwylio golygfa olaf y ffilm yn y sinema. Actio arbennig!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Dwi'n hogyn emosiynol iawn, felly dwi'n crio weddol aml. Y tro dwytha i mi grio oedd dweud hwyl fawr wrth fy mab, Edi, cyn hedfan nôl i Zurich.

Steffan yn cerdded gyda'i blentyn bach yn gafael llawFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan gyda'i fab, Edi

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Syr Bobby Robson. Dwi'n gefnogwr anferth Newcastle United.

Un o fy atgofion cyntaf fel cefnogwr oedd gweld Bobby yn hyfforddi'r tîm pan odden ni'n chwarae gemau Champions League (yn fwy cyson pryd hynny!).

Dwi mond wedi darllen un llyfr yn wirfoddol yn fy mywyd, a llyfr hunangofiant Bobby oedd hwnnw. Dyn hynod o ffeind a gostyngedig a dwi'n siŵr fysa ganddo storïau arbennig i'w rhannu.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i weithio fel cogydd cynorthwyol i gwmni gwneud hufen iâ ar Ynys Môn am chwe wythnos dros yr haf. O'n i'n helpu gwneud yr hufen ac yn danfon yr holl gynnyrch i siopau dros gogledd Cymru.

Mi fysa chi'n meddwl bod gweld faint o siwgr sydd mewn un twb hufen iâ yn fy nhroi i ffwrdd o fwyta peth byth eto… tydi'r dydd yna heb gyrraedd eto!!

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Cael fy nheulu a ffrindiau i gyd at ei gilydd a chael parti mawr!

Llun Steffan yn graddio gyda'i deuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Y llun yma ddaru ffrind i mi wneud o fy niwrnod graddio o'r coleg.

Un o'r pethau anodda' am y diwrnod graddio oedd peidio cael Mam yna. Ddaru Deian drosglwyddo llun o Mam o ddiwrnod graddio fy mrawd a'i rhoi ar fy llun i.

Mae o'n hollol, hollol arbennig ac yn amhrisiadwy. Mae'r llun yma wedi dod â lot o gysur i mi.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Eddie Howe ar ddiwrnod gêm yn hyfforddi Newcastle yn St James' Park.

Dwi wedi bod yn y dorf fel cefnogwr sawl gwaith ond faswn i wrth fy modd yn cael y profiad o weithio tu ôl i'r llenni, sgwrsio gyda'r chwaraewyr a cherdded allan ar y cae tra bod Going Home gan Mark Knopfler yn cael ei chwarae dros y stadiwm!

Steffan a'i frawd Carwyn yn St James' ParkFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Toon Army... Steffan a'i frawd Carwyn yn St James' Park, cartref Newcastle United

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: