Holl docynnau cyngerdd Cowbois a'r Gerddorfa wedi'u gwerthu mewn 20 munud

Brodyr Cowbois Rhos Botwnnog
- Cyhoeddwyd
Cafodd holl docynnau cyngerdd Cowbois Rhos Botwnnog a Cherddorfa'r BBC eu gwerthu mewn llai na hanner awr.
Roedd seddi i'r noson yn Pontio, Bangor, yn mynd ar werth am hanner dydd ar 19 Tachwedd, ac o fewn ugain munud roedd y cyfan wedi mynd.
Daw hyn wedi i'r band orfod gohirio'r cyngerdd y llynedd ar ôl i'w prif leisydd Iwan Huws gael ei daro'n wael mewn perfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2024.
Fe drefnwyd cyngerdd wahanol fis Hydref y llynedd gyda'r band Eden a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a'r gobaith oedd ail-drefnu'r cyngerdd gwreiddiol.
'Lle arbennig yn ein calonnau'
Dros yr haf fe wnaeth Cowbois ddechrau chwarae'n fyw unwaith eto, gan gynnwys yn y Sesiwn Fawr ac yn Y Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Nawr fe fydden nhw'n cael cyfle i chwarae eu caneuon gyda threfniadau cerddorfaol wedi eu gwneud gan arweinydd BBC NOW John Quirk mewn noson wedi ei threfnu gan BBC Radio Cymru.
Dywedodd uwch-gynhyrchydd Radio Cymru, Gareth Iwan Jones: "Mae'n dangos lle mor arbennig sydd gan Cowbois Rhos Botwnnog yn ein calonnau ni fel Cymry erbyn hyn, a'r ffordd mae eu cerddoriaeth anhygoel wedi cyffwrdd cynulleidfaoedd ar draws Cymru.
"Mae hi wedi bod mor braf gweld y band yn ôl ar lwyfannau dros y misoedd diwethaf, ac mi fydd y gig yma'n un arbennig ac emosiynol rwy'n siŵr."

Ffion Emyr yn perfformio yn Pontio yn ddiweddar gyda cherddorfa'r BBC i ddathlu pen-blwydd BBC Bangor yn 90
Dyma'r diweddaraf mewn nifer o nosweithiau tebyg yn Pontio, gyda cherddorfa'r BBC yn perfformio gydag artistiaid poblogaidd fel Pedair ac Elin Fflur.
Bydd cyfle i glywed perfformiadau nifer o gerddorion Cymraeg a'r gerddorfa fel rhan o ddathliadau BBC Bangor yn 90 ar Radio Cymru am 11:00, 29 Tachwedd.
Iwan Huws Cowbois: 'Teimlo fel cerddor eto'
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
Paratoi i arwain Eden a'r Gerddorfa
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.