Nathan Gill: Negeseuon WhatsApp wedi datgelu ei fod wedi'i lwgrwobrwyo

Nathan GillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tad i saith o blant o Sir Fôn, sy'n 52 oed, wedi cyfaddef wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo

  • Cyhoeddwyd

Mae negeseuon WhatsApp wedi datgelu sut y cafodd gwleidydd o Gymru ei lwgrwobrwyo fel rhan o ymgyrch o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop.

Mae disgwyl i Nathan Gill, cyn-aelod o Senedd Ewrop a chyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, gael ei garcharu am gymryd arian gan rywun sydd â chysylltiadau honedig ag asiantaeth ddiogelwch Rwsia.

Cafodd Gill dâl gwerth miloedd o bunnoedd i roi cyfweliadau teledu a gwneud areithiau yn Senedd Ewrop rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

Mae'r tad i saith o blant o Sir Fôn, sy'n 52 oed, wedi cyfaddef wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener.

Farage wedi ei 'syfrdanu'

Roedd Gill yn aelod o Senedd Ewrop am chwe blynedd, yn gyntaf dros UKIP, ac wedyn i Blaid Brexit Nigel Farage.

Dywedodd Farage ei fod wedi ei "syfrdanu" gan gyfaddefiad Gill, nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth am ei "weithgareddau cywilyddus" a'i fod yn eu "condemnio" yn llwyr.

Ar ôl stopio Gill ym maes awyr Manceinion yn 2021, daeth yr heddlu o hyd i sgyrsiau WhatsApp ar ei ffôn gyda dyn o'r enw Oleg Voloshyn - cyn-aelod o senedd Wcráin dros blaid a oedd yn gefnogol o bolisïau Rwsia.

Voloshyn oedd yn gosod tasgiau i Gill ac yn ei dalu, meddai erlynwyr.

Nigel Farage a Nathan Gill yn ymgyrchu gyda'i gilydd ar ran Plaid Brexit ym Merthyr Tudful yn 2019Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage a Nathan Gill yn ymgyrchu gyda'i gilydd ar ran Plaid Brexit ym Merthyr Tudful yn 2019

Roedd un o'r negeseuon ar ffôn Gill yn dweud y byddai'n cael ei "wobrwyo'n deg" am drefnu digwyddiad yn Senedd Ewrop yn Ngorffennaf 2019.

Cytunodd Gill gynnal cyfarfod yn Strasbourg er mwyn i Viktor Medvedchuk – aelod blaenllaw arall o blaid Voloshyn sy'n ffrind i Vladimir Putin – gyflwyno cynllun oedd i fod i ddod â heddwch i Wcrain.

Ddiwrnod wedi'r cyfarfod aeth Medvedchuck i weld Putin yn St Petersburg ble wnaeth yr arlywydd gymeradwyo y cynllun.

Aeth Gill i Wcráin ym mis Mai 2018.

Yno fe aeth i ddigwyddiadau i goffáu trechu Natsïaeth yn yr Ail Ryfel Byd gyda Voloshyn.

Cafodd y daith honno i Wcráin – y gyntaf o dair gan Gill i'r wlad yn 2018 – ei threfnu gan ddyn o Wlad Pwyl o'r enw Janusz Niedźwiecki. Mae e'n wynebu cyhuddiadau yng Ngwlad Pwyl o ysbïo dros Rwsia.

Nathan Gill yn cael ei holi gan y cyfryngau, gan gynnwys Meleri WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill yn cael ei holi gan y cyfryngau y tu allan i'r Old Bailey yn Llundain ym mis Mawrth

Dywedodd yr erlynwyr bod Gill wedi cyflawni ei drosedd gyntaf ym mis Rhagfyr 2018.

Maen nhw'n honni i Voloshyn ddefnyddio geiriau cod fel "anrhegion Nadolig" a "chardiau post" i gyfeirio at arian parod mewn negeseuon WhatsApp at Gill.

Y mis yna, mewn dadl yn Senedd Ewrop fe ddarllenodd Gill o sgript y gwnaeth Voloshyn ei roi iddo, ac roedd yn codi pryderon am fygythiadau yn Wcráin i gau dwy sianel deledu - 112 Ukraine a NewsOne.

Roedd Gill wedi ymweld â'r gorsafoedd gyda'i gyd-aelodau o'r Senedd, David Coburn a Jonathan Arnott, ym mis Hydref 2018 a siaradodd y ddau ohonyn nhw dros y darlledwyr yn yr un ddadl.

Dywedodd Arnott wrth y BBC pe bai Gill wedi cynnig arian iddo y byddai wedi mynd at yr heddlu. Dywedodd Arnott hefyd ei fod wedi beirniadu Rwsia yn ei araith.

Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â Coburn, cyn arweinydd UKIP yn yr Alban, ond heb gael ymateb.

UDA'n galw Voloshyn yn 'pawn' i'r FSB

Cafodd Gill ei dalu hefyd i roi datganiadau cefnogol ynglŷn a Medvedchuk i sianel 112.

Ar ddau achlysur, fe wnaeth Voloshyn ofyn i Gill ddod o hyd i aelodau eraill o'r Senedd a allai wneud yr un peth.

Roedd yna addewid y byddai'n derbyn taliadau gwerth isafswm o €10,000 am hynny.

Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl stopio Gill ym maes awyr Manceinion yn 2021, daeth yr heddlu o hyd i sgyrsiau WhatsApp ar ei ffôn gyda dyn o'r enw Oleg Voloshyn

Mewn negeseuon e-bost gyda'r BBC, dywedodd Voloshyn fod Gill yn cael ei dalu fel rhan o "ymgyrch eiriolaeth" ("advocacy campaign") a'i fod yn "helpu gorsafoedd teledu'r gwrthbleidiau i ymladd dros oroesiad".

Ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin yn 2022, cafodd Medvedchuk ei gipio gan Wcreiniaid a'i gyfnewid â Moscow wrth gyfnewid carcharorion.

Credir bod Voloshyn, gafodd ei ethol i senedd Wcráin yn 2019, wedi gadael y wlad am Belarus.

Yn ei e-byst gyda'r BBC, mynnodd Voloshyn nad oedd Rwsia yn rhan o achos Gill.

"Ni wnaethom erioed adrodd i unrhyw un ym Moscow ac ni wnaeth neb yno ofyn i ni unrhyw beth a oedd yn gysylltiedig â'n cydweithrediad â Gill," ysgrifennodd Voloshyn.

Gosododd llywodraeth yr Unol Daleithiau sancsiynau ar Voloshyn yn 2022 a'i alw'n "pawn" i'r FSB, sef gwasanaeth diogelwch Rwsia, a'i gyhuddo o danseilio llywodraeth Wcráin.

Gill yn 'wallgof' i ymweld ag Wcráin, medd Farage

Yn 2022, gosododd llywodraeth y DU sancsiynau ar Voloshyn a Medvedchuk hefyd, gan gyhuddo'r ddau o "ansefydlogi Wcráin".

Yn 2021 cafodd aelodau Tŷ'r Cyffredin yn San Steffan eu rhybuddio rhag siarad â Voloshyn a Niedźwiecki.

Mae yna lun o wraig Voloshyn, Nadia Sass, gyda Farage y tu allan i Senedd Ewrop, ond mae pawb a oedd yn gysylltiedig yn dweud mai digwyddiad unigryw oedd hwn.

"Mae Nigel Farage yn cwrdd â miloedd o bobl bob blwyddyn," meddai llefarydd ar ran Reform UK.

"Mae cannoedd ohonyn nhw'n gofyn am gael tynnu llun gydag ef."

Dywedodd Farage wrth y BBC eleni bod Gill wedi ei wahodd i Wcráin yn 2019, ond gwrthododd fynd gan ddweud bod Gill yn "wallgof" i ymweld â gwlad mor "llygredig".

Dywedodd Voloshyn hefyd nad oedd gan Farage "ddim o gwbl i'w wneud" â'i berthynas gyda Gill a bod e "ddim wedi cwrdd ag ef erioed yn fy mywyd".

Mewn cyfweliad diweddar, dywedodd Farage fod y cyhuddiadau ei fod yn "feddal" ar Rwsia yn "lol".

Ychwanegodd fod Putin yn "ddyn drwg iawn" a dywedodd y byddai'n saethu lawr awyrennau milwrol Rwsiaidd pe bai'n nhw'n hedfan mewn i ofod awyr NATO.

Dywedodd pennaeth uned gwrthderfysgaeth y Met fod achos Gill "yn mynd at galon ein gwerthoedd democrataidd".

"Ni fyddwn yn oedi cyn ymchwilio a tharfu ar unrhyw un sy'n ceisio niweidio neu danseilio'r gwerthoedd hyn a'n diogelwch cenedlaethol," meddai'r Comander Dominic Murphy.

Aeth y BBC i gartref Gill ar Ynys Môn i ofyn am sylw ond fe wrthododd y cais.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.