'Dim hyder bod gwersi wedi'u dysgu o'r pandemig' - meddyg teulu

Mae Dr Eilir Hughes yn poeni nad oes adnoddau digonol wedi'u clustnodi mewn ysbytai pe bai pandemig arall yn dod
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu blaenllaw o'r gogledd wedi dweud nad yw'n hyderus fod gwersi wedi'u dysgu o'r pandemig gan godi pryderon am gapasiti mewn unedau gofal dwys ar draws Cymru.
Dywed Dr Eilir Hughes sy'n feddyg teulu yn Nefyn ei fod yn poeni nad oes adnoddau digonol wedi'u clustnodi mewn ysbytai pe bai pandemig arall yn taro.
Ddydd Iau mi ddaeth ymchwiliad Covid-19 y DU i gasgliad bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "rhy ddibynnol" ar arweiniad Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod cynnar y pandemig a bod hynny wedi arwain at ymateb "rhy araf".
Wrth ymateb i gyhoeddiad yr ymchwiliad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig".

Dywedodd Dr Hughes mai'r "consyrn oedd y nifer o wlâu neu'r diffyg gwlâu gofal dwys" oedd yng Nghymru
Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu yn Nefyn ac mi weithiodd drwy gyfnod y pandemig.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Dr Hughes mai'r "consyrn oedd y nifer o wlâu neu'r diffyg gwlâu gofal dwys" oedd yng Nghymru.
"Yn wir mae hyn dal i barhau, Cymru sydd a'râ nifer lleiaf o welyau gofal dwys ym Mhrydain, a Phrydain sydd dal â'r nifer lleiaf per capita yn Ewrop.
"Mae hwnna'n isadeiledd basic iawn o sut da ni'n darparu ac yn gwneud yn siŵr bod ganddo ni fwy o hyder yn ein gwasanaethau ni i ddygymod â rhywbeth fel hyn eto."
Pan ofynnwyd i Dr Hughes a oedd ganddo hyder y byddai gwersi wedi neu yn cael eu dysgu, dywedodd "ar hyn o bryd, nagoes".
"Y consyrn sydd gen i ydy bod pethau ar lefel uwch wedi'u gwneud o ran sut mae asiantaethau yn siarad efo'i gilydd ond adnoddau ydi'r peth mawr."

Collodd Esmor Davies ei ferch, Christine, i Covid yn ôl ym mis Tachwedd 2021
Un arall sy'n poeni am yr ymateb yn dilyn yr ymchwiliad hwn ydi Esmor Davies o Fwcle a gollodd ei ferch, Christine i Covid 19 yn ôl ym mis Tachwedd 2021.
Roedd Christine Davies yn 53 ac yn byw â llid y cymalau (rheumatoid arthritis) ac felly'n fregus.
"Oedd hi'n gwybod bod hi mewn lle peryg ond ddim mor frawychus â byw am bedwar diwrnod," meddai Esmor Davies, ei thad.
"O'dd hi'n mynd mewn ar y dydd Sul [i'r ysbyty] ac erbyn dydd Mercher oedd hi wedi'n gadael ni.
"Oedda nhw di methu â gwneud dim byd iddi ac oedd hynny'n frawychus... ei rhoi hi mewn coma... a dan ni byth di gweld hi ers hynny."

"Oedd Christine a fi yn agos i'n gilydd ac oedd hi'n trafod bob peth," meddai Esmor Davies
Ag yntau wedi dilyn yr ymchwiliad, dweud mae Esmor Davies, 80, y dylai mwy o rybudd wedi'i roi i gleifion bregus am beryg y feirws ar ddechrau'r pandemig.
"Da ni'n teimlo i'r galon, 'sa nhw 'di gallu neud lot chwaneg mewn text messages neu llythyr coch ella i helpu Christine i ddeall... 'sa hi wedi cymryd hwnna yn bwysig dros ben â'i chalon a dyna'r person oedd hi."
Wrth ddisgrifio'r boen o golli Christine, mae Esmor Davies yn dweud bod y teulu cyfan wedi "colli ffrind".
"Merch ond ffrind gorau - roedd Christine a fi yn agos i'n gilydd ac oedd hi'n trafod popeth.
"Diwedd fy stori i ydi'r golled fawr i ni fel teulu a 'nai fyth rhoi fyny i baffio dros y Covid 'ma fel 'di o'm digwydd i neb arall."

"Rhaid i ni gael ymchwiliad i Gymru oherwydd bod cyn lleied o graffu ar Gymru yn yr adroddiad hwn," meddai Anna-Louise Marsh-Rees
Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees, sy'n arwain Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru ei bod hi'n "hynod siomedig" gyda'r adroddiad.
Mae hi'n un sy'n galw am ymchwiliad penodol i Gymru, gan ddweud nad oedd yr adroddiad wedi craffu'n llawn ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.
"Dyma oedd ein cyfle gorau i graffu'r penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru yn iawn oherwydd dyma'r unig ran o'r ymchwiliad a oedd wedi'i rhannu'n fodiwlau penodol i wledydd.
"Roedd gennym ddisgwyliadau isel o'r modiwlau eraill ond dyma oedd yr un felly rydym yn hynod siomedig nad yw hynny wedi digwydd.
"Rydym wedi bod yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru erioed ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gael ymchwiliad i Gymru oherwydd bod cyn lleied o graffu ar Gymru yn yr adroddiad hwn".
'Ymrwymo i ddysgu gwersi'
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb i'r pryderon penodol a gafodd eu crybwyll uchod.
Mewn datganiad dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad diweddaraf sy'n rhan o'r Ymchwiliad Covid.
"Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio bod nifer fawr o bobl wedi dioddef colled a dioddefaint enfawr yn sgil Covid 19. Rhaid i'n meddyliau ni fod gyda nhw uwchlaw popeth arall.
"Byddwn yn treulio amser yn darllen yr adroddiad a byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf i ystyried yr argymhellion a gweithredu arnynt.
"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig ac yn parhau i gymryd rhan weithredol yn ymchwiliad y DU."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
