Lluniau o hwyl Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2025

CFfI Felinfach, Ceredigion, ddaeth yn fuddugol yn y Meimio i Gerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Roedd digon o hwyl a chystadlu yn Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc dros y penwythnos wrth i aelodau ar draws Cymru ddod at ei gilydd yn y Drenewydd.
O ganu ac adrodd i ddawnsio ac adloniant ysgafn, roedd Theatr Hafren yn llawn o naw y bore tan hwyr y nos.
Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod CFfI gael ei chynnal yn Sir Drefaldwyn ers 26 o flynyddoedd ac roedd yn benllanw'r cystadlu wedi i'r rowndiau sirol gael eu cynnal yn gynharach yn y flwyddyn.
Dyma flas o rai o'r uchafbwyntiau.

Enillwyr y deuawd neu driawd doniol oedd Llywela a Ceridwen, CFfI Clwyd

Roedd enillydd y Goron, Fflur Hâf James o CFfI Eglwyswrw, wedi teithio draw o dde Ffrainc, lle mae hi'n byw am flwyddyn fel rhan o'i gradd

Daniel O'Callaghan yn morio canu - a chipio Cwpan Eirlys Davies

Côr Cymysg Meirionnydd wnaeth ennill Cwpan Dyffryn Tywi eleni

Cari Lovelock, o Fôn, oedd enillydd Cwpan Joy Cornock

CFfI Felinfach, Ceredigion, gyda'u sgets buddugol

Mared Jones, yn cynrychioli Ynys Môn, oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair - yr ail yn olynol iddi ennill yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc

CFfI Tregaron aeth â hi yn y gystadleuaeth Parti Llefaru 28 neu iau

Dawnsio Disgo, Hip-Hop neu Stryd - a CFfI Penybont, Maesyfed, yn fuddugol

Roedd danwsio mwy traddodiadol hefyd - gyda CFfI Llanddarog yn dod i'r brig yn y Dawnsio Gwerin

Nansi Fychan, CFfI Maldwyn, oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Sioe Gerdd - 17 neu iau

Lowri, Lleucu, Cadi ac Elan o CFfI Meirionnydd aeth â hi yn y gystadleuaeth Deuawd, Triawd neu Pedwarawd Cerdd Dant - 28 neu iau

Fe aeth Tarian Elonwy Phillips am y nifer uchaf o bwyntiau llwyfan i Sir Gâr

Ac roedd 'na ddathlu mawr ymysg aelodau Sir Gâr wrth iddyn nhw gipio gwobr Enillwyr y Dydd hefyd
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Ionawr

- Cyhoeddwyd28 Hydref

- Cyhoeddwyd3 Chwefror
