Eirian Owen yn dathlu 50 mlynedd o arwain Côr Godre'r Aran

- Cyhoeddwyd
Mae'r arweinyddes a'r pianydd Eirian Owen wedi arwain Côr Godre'r Aran ers hanner cant o flynyddoedd. Yn y cyfnod hynny mae'r côr wedi perfformio a chystadlu mewn nifer o eisteddfodau a gwyliau cerddorol ac wedi mwynhau llwyddiannau mawr.
Bu Eirian yn siarad gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru am ei hatgofion a'r uchafbwyntiau dros hanner canrif, gan gychwyn drwy sôn am y sioc fod 50 mlynedd wedi mynd heibio ers iddi gychwyn gyda'r côr yn Llanuwchllyn:
Mae o'n synnu rhywun, mae o'n dychryn rhywun.
Pan o'n i'n cychwyn, o'n i'n cychwyn oherwydd bod Tom Jones oedd wedi sefydlu'r côr yn 1949 [yn gadael] ac oedd o wedi bod wrthi am chwarter canrif. A dw i'n cofio meddwl adeg hynny, 'Chwarter canrif! Oedd o'n cychwyn arni tua'r amser o'n i'n cael fy ngeni!'
Ac oedd o'n swnio'n rhywbeth ofnadwy o amhosib bod rhywun wedi bod wrthi ers chwarter canrif. Ond dyma fi rŵan, a hanner can mlynedd wedi pasio, ac mae yn fy nychryn i sylweddoli y peth.

Côr Godre'r Aran
Sain arbennig
Dwi'n credu bod sain y côr yn debyg iawn, wedi cadw'n debyg iawn ers blynyddoedd lawer. Mae o'n eitha' hawdd i'w 'nabod am ryw reswm.
Dwi ddim yn mynd ati i gadw'r sain yr un peth. Dwi'n trio mynd ati i weithio'n galed ar gadw sain dda, ddim o angenrheidrwydd i gadw o yr un peth ag oedd hi ugain mlynedd yn ôl.
Wrth gwrs roedd y côr yn llai pan gymerais i drosodd. Dwi ddim yn siŵr faint o nhw oedd ac oedd llawer o gerdd dant oeddan nhw wedi canu. A dydi sain cerdd dant ddim bob amser yn gweithio i ganu clasurol, canu corawl felly. Mae o'n ysgafnach sain.
Dwi wedi rhoi lot o sylw i sain y côr dros y blynyddoedd, ac mae o'n cymryd lot o ddyfalbarhad. Dyw o ddim yn rhywbeth mae rhywun yn ei wneud mewn wythnos, mis na blwyddyn na phum mlynedd, mae'n rhywbeth sydd yn datblygu'n raddol.
Rydyn ni'n gweithio'n dda ac yn gweithio lot fawr ar hynny. Ac wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn cael llonydd i ganu fel licia nhw!

Rhaglen ar gyfer y cyngherddau cofiadwy yn Awstralia yn 1981
Arwain
Mae eu croen nhw'n dew, mae'n gorfod bod i gael eu cymharu i bob math o bethau pan oeddan nhw ddim yn gwneud y sain dwi'n chwilio amdano fo neu phan oeddan nhw dim yn ymroi i ganu!
Mae'n steil gwahanol i gerdd dant, ac wrth gwrs, 'nes i ddal ati i wneud cerdd dant am flynyddoedd gan wybod go iawn ym mêr fy esgyrn mai ddim dyma lle oedd fy rhinweddau i er bod fi wedi bod yn canu cerdd dant fy hun, ac wedi bod yn myd cerdd dant yn Llanuwchllyn am flynyddoedd maith.
Ond o'n i'n gwybod mai nid fan'na oedd fy nghariad cyntaf i. Felly, mi gymerodd lot o waith i newid nhw mewn ffordd.
I fi, un o'r pethau pwysicaf ydi traw. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth iddo fo. Dwi'n gwybod fy mod i'n aflonyddu llawer iawn ar ei bywyd nhw drwy fynnu bod nhw'n gwneud o eto ac eto, a dal i drio nes bod y pitch wedi dod i'w le. Mae o'n anodd. Mae o'n drafferth ambell dro ond dwi'n gobeithio bod ni'n concro rhan fwya' o'r amser.

Rhaglen taith y côr i Awstralia yn 1983
Uchafbwyntiau
O ran profiadau, roedd rhai o'r cyngherddau arbennig yn Awstralia – un mewn neuadd gyngerdd Perth yn canu o flaen 2,000 o bobl a'r lle yn orlawn.
Hefyd, roedd rhai o'r profiadau gan gynnwys ennill yn ystod Eisteddfod Llangollen. A dwi'n cofio unwaith, roeddwn i wedi cael ymarfer yn un o'r capelydd cyn mynd i'r maes yn Llangollen. Ac oeddan ni'n canu y Pilgerchor allan o'r Tannhauser gan Wagner, ac roedd y pitch a'r donyddiaeth mor wael. O'n i'n methu cael nhw i ganu mewn tiwn yn y capel, roedd yn ofnadwy.
Ac oeddwn i'n dweud yn y diwedd, 'Oce, dyna fo, ewch a trïwch eich gorau'. Pan gyrhaeddon nhw'r llwyfan, roedd y pitch, roedd y donyddiaeth yn berffaith, a ges i ffasiwn wefr - a nhw hefyd wrth gwrs. Ac oeddwn i'n fy nagrau yn dod oddi ar y llwyfan, mor falch ohoni nhw.
Roedd yr adrenalin a'r wefr wedi codi nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd

- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
