Her newydd i bêl-droedwyr Cymru yn ôl y rheolwr
- Cyhoeddwyd
Dywed rheolwr tîm pêl-droed Cymru y bydd ei chwaraewyr yn wynebu math newydd o bwysau yn eu dwy gêm nesaf.
Yn ôl Gary Speed mae hyder y tîm wedi codi ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Montenegro a pherfformiad canmoladwy wrth golli i Loegr yn gynharach yn y mis.
Cyn y gemau hynny roedd Cymru yn wynebu beirniadaeth ar ôl gostwng i safle 117 yn rhif detholion y byd.
"Nawr mae'r disgwyliadau yn fwy, mae yna bwysau gwahanol," meddai Speed.
Bydd Cymru gartre yn erbyn Y Swistir ar Hydref 7 ac yn teithio i Fwlgaria pedwar niwrnod yn ddiweddarach.
Fe allai'r Swistir gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewro 2012 pe bai nhw'n gorffen yn ail yn y grŵp ac yn ennill y gemau ail gyfle.
Gobaith Cymru yw gorffen yn drydydd yn y grŵp.
"Mae'n rhaid i ni barhau i wella," meddai'r rheolwr.
"Mae'n mynd i i fod yn anodd ond parhau i wella ydi'r peth pwysig."