Anafiadau'n rhoi cur pen i Speed
- Cyhoeddwyd
Mae tri aelod o garfan Cymru ar gyfer gemau ragbrofol olaf Euro 2012 wedi tynnu nôl oherwydd anafiadau.
Ni fydd Joe Ledley, James Collins na Danny Collins ar gael i wynebu'r Swistir nos Wener na Bwlgaria y nos Fercher ganlynol.
Doedd Ledley ddim yn nhim Celtic a gollodd i Hearts brynhawn Sul oherwydd anaf i'w forddwyd.
Ond chwaraeodd y ddau Collins 90 munud llawn i'w clybiau ddydd Sadwrn - James i Aston Villa a Danny i Sunderland.
Mae enwau Jonathan Williams o Crystal Palace a Lewin Nyatanga o Bristol City wedi cael eu hychwanegu i'r garfan yn lle'r ddau.
Bydd chwaraewr canol cae Wolves, David Edwards, yn rhan o garfan pêl-droed Cymru am y tro cyntaf o dan reolaeth Gary Speed.
Bydd Speed hefyd heb wasanaeth Danny Gabbidon a Robert Earnshaw.
Cafodd Gabbidon anaf i'w ben-glin yn ystod gêm ei dîm QPR yn erbyn Wolves, ac mae gan Earnshaw anaf i'w forddwyd.
Methodd Earnshaw gyfle gwych allai fod wedi sicrhau pwynt i Gymru yn erbyn Lloegr yn Wembley ddechrau'r mis.
Mae Edwards wedi methu saith gêm ddiwethaf ei wlad oherwydd anaf i'w gefn.
Dim ond yn ddiweddar yr enillodd ei le yng ngharfan Wolves unwaith eto, ond mae'n dod yn syth i mewn i'r garfan ryngwladol.
Er mai dim ond triphwynt sydd gan Gymru yn y grŵp wedi eu buddugoliaeth dros Montenegro, gall Cymru orffen yn drydydd yn y grŵp o hyd os fyddan nhw'n curo'r Swistir yn Stadiwm Liberty a Bwlgaria yn Sofia yr wythnos ganlynol.
Carfan Cymru
Hennessey (Wolves), Myhill (Birmingham);
Blake (Caerdydd), J.Williams (Crystal Palace), Nyatanga (Bristol City), Gunter (Nottingham Forest), Matthews (Celtic), Taylor (Abertawe), A.Williams (Abertawe);
Allen (Abertawe), Bale (Tottenham Hotspur), Collison (West Ham), Crofts (Norwich), Edwards, (Wolves), King (Caerlyr), Ramsey (Arsenal - Capten), Vaughan (Sunderland), Robson-Kanu (Reading);
Bellamy (Lerpwl), Church (Reading), Morison (Norwich), Vokes (Wolves).
Gemau Grŵp G - Euro 2012
Cymru v. Y Swistir - Stadiwm Liberty, Abertawe; Nos Wener, Medi 7; 19:45
Bwlgaria v. Cymru - Stadiwm Vasil Levski, Sofia; Nos Fawrth, Medi 11; 19:05 (amser Cymru)