Adolygiiad ar gartrefi gofal gan Gomisiynydd Pobl Hŷn

  • Cyhoeddwyd
dwyloFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r adroddiad wneud argymhellion ymarferol ynglŷn â newid yn ôl yr angen

Cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru y bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r trefniadau ynglŷn ag eiriolaeth i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Bydd yr Adolygiad yn asesu a yw'r trefniadau presennol yn effeithiol o ran diogelu a hybu buddiannau pobl hŷn mewn cartrefi gofal, gan gasglu tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Bydd hefyd yn gwneud argymhellion ymarferol ynglŷn â newid yn ôl yr angen.

Dywedodd y comisiynydd Ruth Marks bod nifer o'r ymholiadau sy'n dod i law yn ymwneud â phrofiadau pobl hŷn o fyw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

"Mae'r diffyg darpariaeth wedi dod i achosi mwy a mwy o bryder i mi.

"Mae eiriolaeth yn hanfodol bwysig i helpu pobl i ddweud beth sydd ei eisiau arnyn nhw, i sicrhau eu hawliau, i gynrychioli eu buddiannau ac i sicrhau'r gwasanaethau angenrheidiol.

'Argymhellion'

"Mae'r gwaith rhagarweiniol yn dangos bod y ddarpariaeth ar gyfer y math hanfodol yma o gymorth yn aml yn brin, sy'n golygu bod rhai o'r bobl hŷn fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn methu cael yr help y mae arnyn nhw ei angen.

"Yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fy ngwaith i yw defnyddio fy mhwerau i sefyll dros bobl hŷn yng Nghymru ac fe fydda i'n gwneud argymhellion ymarferol fel rhan o'r Adolygiad i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch y trefniadau presennol ynglŷn ag eiriolaeth."

Rachel Rowlands yw Prif Weithredwr Age Concern Morgannwg, sy'n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

"Mae darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, lleol i bobl hŷn yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gwasanaethau, y driniaeth a'r parch y maen nhw'n eu haeddu.

"Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r sawl y mae ei lais wedi'i wanhau drwy afiechyd neu newid amgylchiadau.

"Mae sefydliadau Age Concern ledled Cymru'n gweld y gwir wahaniaeth y gall cymorth eiriolwr ei wneud drwy helpu rhywun hŷn i sicrhau newid cadarnhaol a gwella ansawdd ei fywyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol