Ateb y Galw: Rolant Tomos

- Cyhoeddwyd
Awdur a chynhyrchydd teledu o Ddolgellau sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Rolant Tomos newydd ryddhau nofel i blant o'r enw Raaarrr am fachgen ifanc sy'n darganfod ei fod yn hanner blaidd wrth geisio achub fferm ei deulu rhag y banc.
Dyma ei ail nofel i bobl ifanc, ar ôl iddo gyhoeddi Meirw Byw y llynedd.
Mae gan Rolant ddiddordeb mawr yn y byd ffantasïol ac yn gredwr mewn ysbrydion.
Dyma ddod i'w adnabod ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Llithro ar lechi yn Nhrefriw, dim clem pryd. Ond yn cofio'r cerrig, panig a lleithder.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Copa Cader Idris yn le arbennig. Mae 'na gymaint o lefydd gwych o amgylch Dolgellau, Foel Ispri a Dyffryn Mawddach heb sôn am lwybrau cudd Llanfachraeth.

Cwt ar gopa Cader Idris yw un o hoff lefydd Rolant
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gan hepgor priodasau/genedigaethau. Siarad tan y wawr efo Ulrik, Georg ac Anja cyn mynd am dro drwy'r coed ger Ebeltoft.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffurf bywyd carbon.

Mi fasai Rolant wrth ei fodd yn bod yn Flaidd am y dydd a dyma fo yn darllen ei nofel - Raaarrr
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Noson cwrw 'Annibynnol' yn hwyl ar sawl lefel.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi mewn stad parhaol o gywilydd felly yn trio peidio meddwl am hynny yn ormodol, tydi o ddim yn beth iach.

Rolant a'i fab Osian dan raeadr Sgwd yr Eira
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dagrau wedi dod yn weddol aml eleni, ond mae crïo yn neud byd o les. Mae'r distawrwydd wedi'r storm yn heddychlon.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gorfeddwl, peidio meddwl digon.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Stori fer Aberkariad o'i lyfr Open Up gan Thomas Morris. Syml, cymhleth, prydferth, hapus a thrist – a morfeirch.

Rolant gyda'i dad, y diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fy hun yn 14 mlwydd oed – i rannu cyngor, gobeithion a rhifau loteri, ac hefyd i gychwyn sgwennu yn gynt.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n ddibynnol ar sanau hud o Corris er mwyn ysgrifennu.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dringo Cader Idris.

Rolant gyda'i frodyr 'ôsym' Meilyr a Cai
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun efo'r brodyr, achos bo nhw'n ôsym.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fyswn i'n bod yn flaidd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021
