'Flashmob Cerdd Dant cyntaf erioed' yn rhoi teyrnged i'w hyfforddwr

Bethan Bryn ac un o drefnwyr y 'fflachfob', Bethan Antur
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth 'fflachfob' godi i ganu yn yr Ŵyl Cerdd Dant dros y penwythnos er mwyn talu teyrnged i un o enwau mawr y grefft yng Nghymru.
Roedd aelodau Côr Pantycelyn - enillwyr Côr Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 1983 - yn eistedd yn y gynulleidfa cyn iddyn nhw godi a dechrau canu fel fflachfob (flashmob) a cherdded ymlaen i'r llwyfan i gystadlu.
Cafodd ei ddisgrifio fel "o bosib y flashmob Cerdd Dant cyntaf erioed".
Gwyliwch 'y flashmob cyntaf erioed' mewn Gŵyl Cerdd Dant
Roedd y criw wedi dod at ei gilydd i ganu'r union osodiad ddaeth â buddugoliaeth iddyn nhw 42 mlynedd yn ôl.
Yr ysgogiad i wneud hynny oedd rhoi teyrnged i'r person wnaeth y gosodiad a'u dysgu nhw pan oedden nhw'n fyfyrwyr yn yr 1980au.
Roedd y cyfan yn sioc i Bethan Bryn, oedd wedi gosod englynion coffa Alan Llwyd i Saunders Lewis ar gyfer y côr buddugol yn '83.

Y côr yn ymarfer cyn cystadlu - Betsan Powys yn absennol gan mai hi dynnodd y llun!
Nos Wener fe gafodd Bethan Bryn syrpréis arall mewn dathliad pen-blwydd 80 pan gyflwynwyd awdl iddi wedi ei hysgrifennu gan un o aelodau'r côr - yr Archdderwydd a'r Prifardd Mererid Hopwood.
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Bethan Bryn: "Dwi'n berson sydd byth yn crio.
"Wna i byth ddangos lot o emosiwn heblaw mod i'n mynd yn flin efo pobl ddim yn canu'n iawn fel dwi isho nhw neud a phethe fel yna! Ond faswn i ddim wedi medru mynd ar y llwyfan atyn nhw ddydd Sadwrn.
"Roedd o jest yn anhygoel eu gweld nhw a'u clywed nhw'n canu eto."
Y Prifardd Mererid Hopwood yn cyflwyno ei hawdl i Bethan Bryn mewn dathliad pen-blwydd 80
Dywedodd un o drefnwyr y fflachfob, Bethan Antur, eu bod wedi penderfynu canu gan fod yr ŵyl yn ôl yn Aberystwyth, i gael esgus i ddod yn ôl at ei gilydd ac er mwyn dathlu cyfraniad Bethan Bryn ar achlysur pen-blwydd arbennig.
Meddai: "Be' oedd yn anhygoel oedd pan wnaethon ni ganu hwn yn '83 roedd o'n ddarn mor eiconig, englynion coffa Saunders gan Alan Llwyd, ac roedd y ffordd roedd Bethan Bryn wedi'n dysgu ni a'r gosodiad a bob dim roedd o'n dod yn ôl yn anhygoel.
"Mae pawb yn deud yr un fath bod o wedi bod yn brofiad anhygoel.
"Mae Bethan Bryn wedi gwthio ffiniau erioed a ro'n i'n meddwl gymaint o'n i yn ddyledus i Bethan Bryn ac isio diolch iddi hi.
"Achos 'da ni'n dda iawn am ddiolch i bobl ar ôl iddyn nhw ein gadael ni ond dwi'n meddwl bod o'n bwysig cofio diolch iddyn nhw tra maen nhw efo ni."

Roedd Bethan Bryn mewn sioc wedi i'r côr drefnu dathliad 80 iddi, gan gynnwys awdl gan Mererid Hopwood
Dywedodd un arall o aelodau'r côr, Betsan Powys: "Mae o jest yn braf cael ei gweld hi yma fel bod hi'n gwybod pa mor ddiolchgar i ni gyd iddi am yr ysbrydoliaeth wnaeth hi roi i gynifer ohonon ni sydd wedi dal i ganu am fod pobl fel Bethan Bryn yn fodlon rhoi o'i hamser bryd hynny.
"Yn Neuadd Pantycelyn nôl yn 1983 roedd cael ein hyfforddi gan Bethan Bryn yn anhygoel - doedden i ddim yn nabod hi ond mae ei dylanwad hi arna i yn aruthrol," ychwanegodd Branwen Cennard.
"Pan benderfynwyd bo' ni am 'neud hyn - o'dd pawb eisiau bod yma - ac mae hynny'n gweud popeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
