Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan ger Caernarfon

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Caernarfon ger Bontnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 64 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan ar ffordd osgoi Caernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A487 ger Bontnewydd tua 20:30 nos Sul.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y digwyddiad yn ymwneud â dyn oedd ar droed, a fan.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae'r llu yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Maen nhw'n enwedig eisiau siarad ag unrhyw un a welodd ddyn yn cerdded ar ochr y ffordd osgoi cyn y digwyddiad.