Apêl i ganfod eitemau a gafodd eu dwyn o Sain Ffagan

Aur Capel IsafFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o bum eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Gapel Isaf, Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl arall am wybodaeth er mwyn ceisio canfod eitemau a gafodd eu dwyn o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan fis diwethaf.

Cafodd gemwaith aur o'r Oes Efydd ei ddwyn o arddangosfa yn y prif adeilad tua 00:30 fore Llun, 6 Hydref.

Wrth wneud apêl i'r cyhoedd am wybodaeth, mae'r heddlu wedi datgelu'r eitemau a gafodd eu dwyn am y tro cyntaf.

Mae Gavin Burnett, 43, a Darren Burnett, 50, o Northampton wedi'u cyhuddo o ladrata ac yn parhau yn y ddalfa.

Mae dynes 45 oed o Sir Northampton yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad.

Aur LlanllyfniFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lwnwla aur o'r Oes Efydd Gynnar o Lanllyfni, Gwynedd

Beth gafodd ei ddwyn?

  • Casgliad o bedair breichled aur o'r Oes Efydd Ganol o Lanwrthwl, Powys;

  • Casgliad o bum eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Gapel Isaf, Sir Gaerfyrddin;

  • Casgliad o dair eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Landdewi-yn-heiob, Powys;

  • Lwnwla aur o'r Oes Efydd Gynnar o Lanllyfni, Gwynedd.

Aur HeyopeFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o dair eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Landdewi-yn-heiob, Powys

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers o Heddlu De Cymru: "Er bod dau ddyn wedi cael eu cyhuddo, mae'r ymchwiliad yn parhau.

"Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i'r eitemau sydd wedi'u dwyn fel y gellir eu dychwelyd i'w cartref cywir.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."

Aur LlanwrthwlFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o bedair breichled aur o'r Oes Efydd Ganol o Lanwrthwl, Powys

Dywedodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru: "Hoffem ddiolch i'r heddlu am eu hymchwiliad parhaus i geisio canfod yr eitemau amhrisiadwy ac unigryw yma sy'n rhan o hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru.

"Hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am eu lleoliad i ddod ymlaen at yr heddlu fel y gellir eu dychwelyd i'w cartref cywir o fewn casgliad cenedlaethol Cymru i bawb eu gweld a'u mwynhau."