'Mae gan Gymru le i ddiolch i Tim Davie,' medd cyn-gadeirydd bwrdd BBC

Y Fonesig Elan Closs Stephens DBE
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Fonesig Elan Closs Stephens DBE bod ganddi'r "parch mwyaf" at gyfraniad Tim Davie a Deborah Turness

  • Cyhoeddwyd

Mae gan Gymru le i ddiolch i gyn-gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, meddai cyn-gadeirydd bwrdd y BBC, y Fonesig Elan Closs Stephens DBE.

Fe wnaeth Mr Davie a Deborah Turness, pennaeth newyddion y gorfforaeth, ymddiswyddo nos Sul yn dilyn beirniadaeth o bennod o'r rhaglen Panorama, a'r modd y cafodd un o areithiau'r Arlywydd Donald Trump ei golygu.

Dywedodd y Fonesig Elan Closs Stephens fod ganddi'r "parch mwyaf at gyfraniad y ddau" - oedd yn y ddwy swydd uchaf o fewn y BBC.

"O ran Tim Davie roeddwn ar ei bwyllgor penodi pan wnaeth osod allan strategaeth Across the UK.

"O ganlyniad, mae BBC Cymru wedi cael comisiynau sydd wedi ehangu'r gorfforaeth yng Nghymru yn fawr iawn ac wedi noddi'r diwydiannau creadigol," meddai.

Ychwanegodd fod gennym, yng Nghymru, "ddiolch iddo am ei gefnogaeth".

Tim Davie a Deborah TurnessFfynhonnell y llun, PA/Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Tim Davie a Deborah Turness o'r BBC nos Sul

Mae disgwyl i gadeirydd y BBC, Samir Shah gynnig ymddiheuriad pan fydd yn rhoi tystiolaeth gerbron pwyllgor seneddol yn ddiweddarach.

Fe gyhoeddodd y Telegraph fanylion e-bost mewnol, oedd yn awgrymu fod y rhaglen wedi golygu dwy ran o araith yr Arlywydd Donald Trump ac achosi iddi ymddangos ei fod e'n uniongyrchol wedi annog y terfysg yn Capitol Hill ym mis Ionawr 2021.

Mae arweinwyr gwleidyddol yn y DU yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y diswyddiadau'n arwain at newid, tra bo'r Arlywydd Trump wedi croesawu'r penderfyniad.

Dywedodd Tim Davie bod "camgymeriadau wedi'u gwneud ac fel cyfarwyddwr cyffredinol mae'n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb eithaf".

Arwel Ellis Owen yn 1985
Disgrifiad o’r llun,

Bu Arwel Ellis Owen [llun o 1985] yn gweithio i'r BBC am 30 mlynedd

Dywedodd Arwel Ellis Owen, cyn-bennaeth y BBC yng Ngogledd Iwerddon, ar Dros Frecwast fore Llun nad oedd yn siŵr os oedd angen i'r ddau ymddiswyddo.

"Dwi'm yn siŵr am y ddau, ond yn sicr oedd angen i un ymddiswyddo. O'n i'n disgwyl y byddai'r pennaeth newyddion yn mynd."

Ychwanegodd fod yr hyn ddigwyddodd "yn gamgymeriad golygyddol sylweddol iawn, yn tanseilio hygrededd y BBC".

"Ond wedyn 'da chi'n meddwl bod cyfarwyddwr cyffredinol y BBC hefyd yn brif olygydd, hwyrach bod 'na ryw fath o reswm bod dau wedi mynd, lle o'n i'n disgwyl un mewn gwirionedd."

'Mater eithaf difrifol'

Yn ôl Karl Davies, cyn-bennaeth llywodraethu BBC Cymru, mae'r sefyllfa yn gadael y gorfforaeth "mewn lle bregus iawn iawn".

Disgrifiodd y sefyllfa o golli'r cyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth newyddion yn "fater eithaf difrifol".

"Bydd y siarter brenhinol yn dod i ben yn 2027," meddai Mr Davies, gan ddweud mai hwn fydd yn penderfynu maint a rôl y BBC.

"Flwyddyn nesa' fydd y penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud o ran y siarter honno.

"Os ydy'r BBC mewn lle yn agored i'w gelynion hi, yna bydd ei gelynion yn chwilio am gyfleoedd wrth i'r siarter frenhinol gael ei rhoi at ei gilydd, i'w lleihau hi a'i thanseilio.

"Da chi'n gweld pwy sy'n llawenhau heddiw o weld y BBC mewn lle gwael, pobl ar yr asgell dde."

Karl Davies
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Karl Davies fod colli'r cyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth newyddion yn "fater eithaf difrifol"

Dywedodd Karl Davies mai "integrity golygyddol y BBC ydy hanfod ei chredadwyedd a hanfod ei gwerth hi ydy newyddion diduedd".

"O ydy'r hyn sy'n cael ei ddweud am yr e-bost 'ma a golygu cyfweliad Donald Trump yn wir, yna mae hwnnw yn cael ei danseilio.

"Mae gan bobl - ni dalwyr ffi'r drwydded - reswm i ofyn am gael pethau i gael eu rhoi yn eu lle."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn cofio'r "argyfwng mwyaf cyn hwn o bosib", pan oedd rhaid i'r cyfarwyddwr cyffredinol, Greg Dyke, ymddiswyddo yn 2004 yn sgil adroddiad Hutton yn beirniadu ymdriniaeth golygyddol y BBC o ryfel Irac.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.