Sybil Burton - gwraig gyntaf Richard Burton a ddaeth yn frenhines y clybiau nos

Sybil a Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 10 Tachwedd yn nodi 100 mlynedd ers genedigaeth yr actor eiconig o Bontrhydyfen, Richard Burton.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd y wlad i ddathlu pen-blwydd un o gewri'r byd ffilm, gan gynnwys teithiau cerdded ac arddangosfa o arteffactau o'i yrfa ryfeddol yng Nghwm Afan.

Yn ogystal, cafodd Mr Burton ei ryddhau ynghynt eleni, ffilm Marc Evans sy'n darlunio'r berthynas rhwng Burton a'i athro dylanwadol, Philip Burton, gafodd ei bortreadu gan Toby Jones.

Bydd Matthew Rhys hefyd yn chwarae rhan yr eicon Cymreig yn nrama Mark Jenkins, Playing Burton, a fydd yn teithio'r wlad yn hwyrach yn y mis.

Ond tybed a wyddoch chi hanes Sybil Burton - gwraig gyntaf Richard Burton, a ddaeth yn rheolwr clwb nos dylanwadol yn Efrog Newydd?

Mae ei stori hi'n cael ei fwrw i'r cysgod gan hynt a helynt perthynas Burton â'i ail wraig, Elizabeth Taylor, y berthynas a arweiniodd at ysgariad Sybil a Richard - un o sgandalau mawr yr 1960au.

O Bendyrus i lwyfan y West End

PoblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard a Sybil Burton mewn parti yn 1953

Ganwyd Sybil Williams ar 27 Mawrth 1929 ym Mhendyrus, Cwm Rhondda, yn ferch i löwr ar aelwyd Gymraeg ei hiaith.

Pan roedd hi'n 10 oed, bu farw ei mam, a phum mlynedd yn ddiweddarach bu farw ei thad.

Symudodd Sybil felly i fyw yn Northampton gyda chwaer hŷn, lle y taniwyd ei chariad at actio, wrth iddi fynd i weld dramâu'n aml mewn theatr leol.

Aeth i astudio drama yn LAMDA (London Academy of Dramatic Arts) - un o'r colegau actio gorau yn y Deyrnas Unedig.

Yn 1948, yn ystod ei blwyddyn olaf yn y coleg, cafodd Sybil rôl extra yn y ffilm enwog The Last Days of Dolwyn.

Roedd un o'i hathrawon yn y coleg wedi ei hargymell i Emlyn Williams, cyfarwyddwr y ffilm, a oedd yn ddramodydd adnabyddus Cymreig o Ffynnongroyw, Sir y Fflint.

Un o brif actorion y ffilm, oedd ar y pryd yn enw anghyfarwydd, oedd Richard Burton. Hon oedd ei rôl ffilm gyntaf.

Cwympodd Sybil a Richard mewn cariad ar set The Last Days of Dolwyn, ac fe briodon nhw yn 1949, â Sibyl yn 19 a Burton yn 24 oed.

Gyrfa actio disglair wedi torri'n fyr

PoblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sybil a Richard mewn limwsîn ym Mharis yn 1962

Yn 1949, cafodd Sybil ran yn y ddrama Harvey yn theatr y Prince of Wales ar y West End.

Yn 1951, ymddangosodd Sybil a Richard gyda'i gilydd mewn cynhyrchiad enwog o Henry IV, Part 1 yn Stratford-upon-Avon. Roedd Richard yn chwarae rhan y Tywysog Hal - perfformiad cofiadwy a sefydlodd ef fel un o actorion theatrig gorau ei gyfnod.

Roedd Sybil yn chwarae rhan yr Arglwyddes Mortimer (merch i Owain Glyndŵr) - rhan a oedd yn gofyn iddi siarad Cymraeg yn unig.

Y tro olaf i Sybil actio oedd yn 1954, gyda'i gŵr yng nghynhyrchiad eiconig y BBC o ddrama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas - gyda Sybil yn chwarae rhan Myfanwy Price.

Yn fuan wedyn, ymddeolodd Sybil o actio tra roedd Burton wrthi'n dod yn seren ffilm byd-enwog.

Ganwyd eu plentyn cyntaf, Kate yn 1957 a'u hail blentyn Jessica yn 1959.

Symudodd y teulu o Lundain i fyw yn Céligny yn y Swistir, yn dilyn genedigaeth Kate, wrth i yrfa Richard Burton fynd o nerth i nerth.

Perthynas Burton ac Elizabeth Taylor

PoblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn Cleopatra

Yng Ngorffennaf 1961, symudodd Sybil a Richard gyda Kate a Jessica i fyw yn Rhufain tra roedd Richard yn ffilmio Cleopatra, un o ffilmiau mwyaf y cyfnod.

Hon oedd y ffilm ddrytaf i gael ei chreu erioed ar y pryd, gyda chostau cynhyrchu'n cyrraedd £44 miliwn - wnaeth bron iawn achosi i stiwdio cynhyrchu 20th Century Fox fynd yn fethdalwyr!

Yn ystod y ffilmio, fe gwympodd Richard a'i gyd-seren Elizabeth Taylor mewn cariad gyda'i gilydd.

Roedd y ddau'n briod, ac roedd eu perthynas yn sgandal ar dudalennau blaen papurau newydd ym mhedwar ban byd.

Cafodd y berthynas ei chondemnio gan Y Fatican hyd yn oed - galwodd y Pab y berthynas yn "erotic vagrancy".

Ysgarodd Sybil a Richard yn 1963, ac fe briododd Richard a Liz Taylor yn yr un flwyddyn.

Sefydlu clwb nos enwog Arthur

PoblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sybil Burton gyda'r dawnsiwr bale, Rudolf Nureyev, yn noson agoriadol ei chlwb nos Arthur yn 1965

Yn dilyn yr ysgariad, symudodd Sybil i fyw yn Efrog Newydd gyda'i phlant.

Roedd yn gyfnod heriol tu hwnt, ond roedd llawer o gefnogaeth i Sybil yn America gan bobl oedd yn cydymdeimlo â'i sefyllfa, ac yn gweld bai ar Richard Burton am y ffordd wnaeth ef ei thrin.

Dywedodd Sybil fod menyw wedi dod i fyny ati mewn gwesty yn Efrog Newydd a datgan "We, the women of America, are behind you".

Yn 1965, sefydlodd Sybil glwb nos o'r enw Arthur yn Manhattan ar East 54th Street.

Fe ddaeth Arthur yn un o glybiau nos mwyaf poblogaidd Efrog Newydd yn yr 1960au. Roedd yn denu llu o enwogion gan gynnwys Truman Capote, Tywysoges Margaret, Rudolf Nureyev, Andy Warhol, Angela Lansbury a Tennessee Williams.

PoblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Band roc yn chwarae yng nghlwb nos Arthur

Roedd Julie Andrews, Leonard Bernstein, Roddy McDowall a Stephen Sondheim yn gyfranddalwyr yn y clwb.

Y DJ enwog Terry Noel oedd yn troelli disgiau yno - ac yn Arthur fe ddyfeisiodd y dechneg arloesol o 'gymysgu' recordiau (mixing).

Mae nifer wedi galw Arthur yn Studio 54 ei gyfnod - clwb nos eiconig arall agorwyd ar yr un stryd yn 1977.

Agorodd Sybil glybiau nos tebyg yn Los Angeles, San Francisco, Dallas a Detroit.

Priodi seren roc

poblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sybil gyda'i hail ŵr, Jordan Christopher yn 1966

Priododd Sybil y canwr roc Jordan Christopher yn 1965, oedd yn canu'n aml yn Arthur gyda'i fand The Wild Ones.

Yn 1967, cafodd y cwpl blentyn o'r enw Amy.

Yn 1969 fe werthodd Sybil y clwb, ac fe symudodd i fyw yn Sag Harbor ar Long Island gyda'i gŵr a'i phlant, lle bu hithau'n byw am weddill ei bywyd.

Gyrfa fel rheolwr theatr

Sybil Christopher (yn gwisgo gwyn) gyda'r actorion Richard Kind, Emma Walton (merch Julie Andrews) a Stephen Hamilton mewn digwyddiad codi arian i'r Bay Street Theatre yn 2007Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sybil Christopher (yn gwisgo gwyn) gyda'r actorion Richard Kind, Emma Walton (merch Julie Andrews) a Stephen Hamilton mewn digwyddiad codi arian i'r Bay Street Theatre yn 2007

Yn Sag Harbor fe sefydlodd Sybil y Bay Street Theatre, a ddaeth yn theatr lwyddiannus o dan ei rheolaeth.

Mae nifer o actorion enwog wedi actio yno ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Alec Baldwin, Ben Gazzara, Mercedes Ruehl a Richard Dreyfuss.

Bu farw Sybil Christopher ar 9 Mawrth 2013, yn Efrog Newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig