Cynllun newydd i bobl ifanc mabwysiedig

  • Cyhoeddwyd
Senedd Cynulliad CymruFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn Y Senedd

Bydd elusen fabwysiadu yn lansio prosiect newydd wedi ei ariannu gan elusen Plant Mewn Angen.

Bydd TALKadoption, prosiect newydd sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc mabwysiedig (11-18 oed) ar draws de a gorllewin Cymru, yn cael ei lansio'n swyddogol yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Mae TALKadoption yn brosiect sydd wedi cael ei ddatblygu gan yr elusen fabwysiadu After Adoption gydag arian o gronfa Plant Mewn Angen y BBC.

Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd yn y lle cyntaf, ac mae wedi'i gynllunio er mwyn cynorthwyo pobl ifanc mabwysiedig i rannu eu profiadau am dyfu i fyny, archwilio eu hunaniaeth a magu eu hunanhyder drwy gyfrwng gweithgareddau hwyliog a chreadigol.

Bydd TALKadoption Cymru yn cael ei lansio'n swyddogol rhwng 11am-1pm.

Cymryd rhan

Bydd Lynn Charlton, Prif Weithredwr After Adoption; Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Marc Phillips, Plant Mewn Angen y BBC, yn siarad am y prosiect a'i effaith.

Bydd y lansiad yn gyfle i aelodau Llywodraeth Cymru, Penaethiaid Gwasanaethau Plant, timau mabwysiadu awdurdodau lleol a phenderfyniadau allweddol rhanbarthol, ddarganfod mwy am y prosiect a'r effaith y bydd yn ei gael, a sut y gallant gymryd rhan.

Daw'r lansiad wedi digwyddiad peilot llwyddiannus a gynhaliwyd y llynedd - gweithdy celf graffiti - pan ddaeth pobl ifanc mabwysiedig o bob rhan o'r rhanbarth ynghyd i rannu straeon, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Dywedodd Lynn Charlton, Prif Weithredwr After Adoption: "Mae TALKadoption Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig i helpu pobl ifanc mabwysiedig, ond hefyd pawb sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy dros y blynyddoedd - o'r gwasanaethau plant i ddarpar fabwysiadwyr.

"Wrth siarad am eu profiadau a chymryd rhan yng ngweithgareddau TALKadoption, mae'r bobl ifanc yn dod o hyd i lais i fynegi eu hemosiynau wrth bobl, gan helpu eraill i'w cynorthwyo yn y modd gorau posibl."

Mae TALKadoption Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc mabwysiedig gyfarfod ag eraill sydd yn deall ac yn rhannu eu profiadau drwy gyfrwng sesiynau grŵp, gweithgareddau wedi'u trefnu a gweithdai.

Cymorth

Mae'r cyfan yn digwydd mewn amgylchedd diogel, lle nad ydynt yn cael eu barnu, ac mae hyn o gymorth i leihau eu teimladau o arwahanrwydd a phryder.

Gall y bobl ifanc hefyd gymryd rhan drwy gynhyrchu amrediad o ddeunyddiau ar gyfer eu cyfoedion a gweithwyr proffesiynol, megis taflenni gwybodaeth a DVD, yn ogystal â siarad gyda darpar fabwysiadwyr am eu profiadau personol er mwyn gwella dealltwriaeth.

"Mae After Adoption bellach yn arwain y ffordd gyda'n prosiectau cymorth ar gyfer pobl ifanc," meddai Ms Charlton

"Rydym yn cynnig fforwm i bobl ifanc mabwysiedig rannu eu profiadau unigol ag eraill sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg.

"Mae'r adborth o'r grwpiau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r cyfuniad o sesiynau grŵp, gweithdai a gweithgareddau yn galluogi pobl ifanc i fagu hyder a gwneud ffrindiau newydd."

TALKadoption Cymru yw trydedd fenter After Adoption i gefnogi anghenion pobl ifanc mabwysiedig yn benodol.

Mae prosiect Getting it Together wedi bod ar waith yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr er 2007, a lansiwyd TALKadoption Llundain yn 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol