Pobl yn 'fwy cyfforddus' bod yn hiliol ar-lein drwy guddio pwy ydyn nhw

Ameer Davies-Rana
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na ddiffyg atebolrwydd i bobl sy'n rhannu negeseuon sarhaus ar-lein, meddai Ameer Davies-Rana

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl wedi mynd yn "fwy cyfforddus" i ddefnyddio iaith hiliol a sarhaus ar-lein yn y blynyddoedd diwethaf am fod modd cuddio pwy ydyn nhw, yn ôl cyflwynydd teledu.

Daw sylwadau Ameer Davies-Rana wrth i ffigyrau newydd ddangos cynnydd yn nifer y troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr y llynedd, gyda'r mwyafrif yn ymwneud â hil.

Dywedodd y cyflwynydd, sydd wedi profi sawl achos o hiliaeth, bod yr hinsawdd wleidyddol a diffyg atebolrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ychwanegu at y broblem.

"Mae pobl gyda free pass i ddweud beth maen nhw moyn ar-lein, heb unrhyw repercussions o gwbl," meddai. "Mae hwnna'n bonkers."

13% yn fwy eisiau cymorth

Mae trosedd casineb yn cael ei ddiffinio fel atgasedd tuag at berson ar sail un o bum prif nodwedd – hil neu ethnigrwydd, crefydd, rhywioldeb, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.

Yn 2024/25 fe gafodd 115,990 trosedd o'r fath eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Heddlu'r Met yn Llundain) – 2% o gynnydd ar y flwyddyn gynt.

Mae'r nifer hwnnw wedi treblu o'i gymharu â degawd yn ôl, ond mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod hynny'n rhannol oherwydd bod yr heddlu "wedi gwella'r ffordd maen nhw'n adnabod troseddau casineb".

Mae elusennau hefyd wedi gweld cynnydd mewn achosion, gydag un yn dweud bod y nifer sy'n troi atyn nhw am gymorth bellach 13% yn uwch nag yr oedd y llynedd.

Yn ôl Ameer Davies-Rana mae ei brofiad o hiliaeth yn un sydd "wedi cwblhau'r bingo card", a hynny ers ei blentyndod.

Mae'n cofio un digwyddiad ar stryd yng Nghaerfyrddin pan gafodd ei sarhau gan grŵp o fechgyn, lle "nes i just droi'r cornel a cwympo mewn i ddagrau yn syth".

"Ble maen nhw'n cael y geiriau yma? Pwy sy'n dylanwadu nhw i ddweud y geiriau yma?" meddai.

Yn fwy diweddar, fe gafodd yntau a'r cerddorion Sage Todz a Lloyd Lewis, sydd hefyd o gefndir lleiafrif ethnig, eu sarhau ar-lein wedi i Mr Davies-Rana bostio llun o'r tri yn yr Eisteddfod ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Be' oedd yn dorcalonnus oedd pobl Cymraeg yn ateb y tweet yna'n dweud 'chi ddim yn Gymraeg', ac wedyn o'dd mwy a mwy o bobl yn camu mewn i ddweud eu darn nhw," meddai.

"Wedyn oedd y profiles mwya' far right fi erioed wedi gweld, i'r pwynt oedd pobl yn dangos lluniau Nazis, Hitler, y saliwt, ac wedyn sôn am y ffaith bod nhw isie lladd ni.

"[Roedd e'n] erchyll, a really torcalonnus – hwnna yw'r gwaetha' fi 'di profi."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Ameer Davies-Rana

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Ameer Davies-Rana

Yn ôl Mr Davies-Rana mae'n broblem sy'n parhau, a'r hinsawdd wleidyddol hefyd yn gwneud y sefyllfa'n waeth.

"Beth sydd wedi newid yn y pum mlynedd ddwetha' yn bennaf, mae pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i ddweud pethau hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.

"Does dim llun proffil gyda nhw, dim enw, dim ffordd o wybod pwy sydd wedi gweud nhw, o ble maen nhw wedi dod.

"Ddylai pobl ddim cael cyfrif heb ryw fath o vetting i wneud yn siŵr bod y person yma yn berson go iawn, ddim yn cuddio tu ôl i gyfrif lle maen nhw'n gallu rhoi unrhyw eiriau allan yna.

"Does dim byd gwaeth na gweld pobl ar-lein yn dweud beth maen nhw eisiau, a chael get away gyda fe.

"Fi'n deall bod free speech yn bwysig, ond dyw hwnna ddim yn meddwl dyle chi gael free pass."

Dafydd Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na "bolareiddio" gwleidyddol allai fod yn cyfrannu at y broblem, meddai Dafydd Llywelyn

Yn ôl un llais amlwg ar blismona, mae'r "newid yn niwylliant gwleidyddol y wlad" yn rhywbeth allai fod yn cyfrannu at gynnydd mewn troseddau casineb.

"Falle bod 'na bolareiddio barn [sydd wedi] codi bwganod," meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

"Fi'n credu bod unigolion yn cynyddu'r tensiynau drwy'r iaith maen nhw'n ei ddefnyddio yn wleidyddol, ac mae'n bwysig bod unigolion yn sefyll yn erbyn hynny."

Ond ychwanegodd bod cynnydd yn nifer y troseddau casineb hefyd yn dod o ganlyniad i bobl sydd bellach yn fwy parod i "godi gofidion" gyda'r heddlu.

Dirywiad 'cymdeithasol' yn cyfrannu

Cafodd 2,200 achos o droseddau casineb eu cyfeirio at elusen Victim Support yng Nghymru rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025 - 13% o gynnydd ar y flwyddyn gynt.

Roedd dros hanner yr achosion yn ymwneud â hil, ond gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn achosion yn ymwneud â rhywioldeb.

"Ni'n gweld twf mewn trais casineb i wneud gyda chrefydd ac anabledd hefyd," meddai Tom Edwards, dirprwy gyfarwyddwr yr elusen.

"Rhan fawr o'r gwaith ni'n 'neud yw nid just cefnogi pobl sydd 'di cael profiad anodd, ond... codi ymwybyddiaeth am drais casineb ac annog pobl i adrodd.

"Mae lot o bobl yn teimlo embaras o'r hyn sydd wedi digwydd, a ni moyn pobl i ddod drwyddo i siarad gydag arbenigwyr er mwyn cefnogi pawb sydd wedi cael eu heffeithio gan drais casineb – nid just hil, ond pob math arall hefyd."

Mae Sioned Williams AS yn aelod o bwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol y Senedd, ac yn credu bod dirywiad mewn "cydlyniant cymdeithasol" (social cohesion) wedi arwain at dwf mewn troseddau casineb.

"Mae 'na grwpiau asgell dde sy'n corddi'r casineb yma hefyd," meddai.

"'Dyn ni'n gwybod bod y gymuned draws yn dioddef yn fawr iawn o hyn ar hyn o bryd, ac hefyd mudwyr.

"Dwi 'di cael gwaith achos i fy swyddfa o bobl yn dweud eu bod nhw wedi dioddef ymosodiadau hiliol oherwydd lliw eu croen, eu hymddangosiad, eu crefydd.

"Ni'n gwybod bod hynny'n deillio'n uniongyrchol o lot o gamwybodaeth sy'n cael ei roi ar-lein, ac mae hwnna'n ffactor arall yn nhwf troseddau casineb."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i fod yn "benderfynol o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030", gyda'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi camau clir tuag at newid parhaol.

Ychwanegodd fod Cymru eisoes yn arwain y ffordd drwy wneud addysgu hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol mewn ysgolion, gan ddweud fod newid systemig yn cymryd amser ond fod "sylfaen gref ar waith ar gyfer cynnydd hirdymor".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.