Cymdeithas bêl-droed Cymru heb benderfynu ynghylch rôl noddwr

Y Frenhines ElizabethFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Frenhines Elizabeth ym mis Medi 2022

  • Cyhoeddwyd

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch rôl y noddwr (patron) a gyflawnwyd diwethaf gan y Frenhines Elizabeth II.

Roedd y ddiweddar Frenhines hefyd yn noddwr Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ac yn dilyn ei marwolaeth ym mis Medi 2022 penododd y gymdeithas honno Dywysog Cymru - y Tywysog William - yn noddwr ym mis Gorffennaf 2024.

Gwrthododd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wneud sylw ar y swyddogaeth.

Mae BBC Cymru yn deall bod y gymdeithas wedi trafod a oes angen noddwr arni o gwbl, nid dim ond a oes angen noddwr Brenhinol.

Tywysog Cymru a Thywysoges CymruFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogodd Tywysog Cymru a Catherine, Tywysoges Cymru, wahanol dimau yng ngêm rygbi'r Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn gynharach eleni

Mae Tywysog Cymru hefyd yn noddwr Undeb Rygbi Cymru, tra bod ei wraig Catherine, Tywysoges Cymru, yn noddwr Undeb Rygbi Lloegr.

Denodd deiseb yn 2023 yn galw am "ddim mwy o nawdd Brenhinol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru" 1,883 o lofnodion.

Lansiwyd y ddeiseb gan gyn-gomisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru ar gyfer gogledd Cymru, Arfon Jones.

Roedd yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru "i ddirwyn i ben y drafodaeth ynglŷn ag apwyntio Llysgennad Brenhinol fel llysgennad dros y gymdeithas".

"Gofynnwn yn bellach i'r gymdeithas benodi rhywun sydd yn angerddol tros Gymru a neith hybu pêl-droed Cymru ar bob lefel ac sydd yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ymysg ein dinasyddion.

"Dylai'r llysgennad fod ar flaen y gad yn uno ein cenedl a ddim yn rhwygo ein cymdeithas fel mae Llysgenhadon Brenhinol yn ei neud mor aml."

Mae carfan Cymru yn paratoi ar gyfer gemau olaf rownd ragbrofol Cwpan y Byd 2026, i ffwrdd yn erbyn Liechtenstein ac adref yn erbyn Gogledd Macedonia y mis hwn.