Ceidwadwyr Cymru: 'Edrych ymlaen'
- Cyhoeddwyd
Mae Ceidwadwyr Cymru yn ffyddiog y bydd cefnogaeth i'r blaid yn cynyddu eto, er gwaetha toriadau gwariant y llywodraeth yn San Steffan.
Yn ôl Paul Davies, fu'n arweinydd dros dro i'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad, roedd pleidleiswyr yn deall fod angen delio â'r ddyled gyhoeddus.
Yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai enillodd y Ceidwadwyr 25% o'r bleidlais, gan lamu o flaen Plaid Cymru i'r ail safle.
Ar noswyl cynhadledd y blaid ym Manceinion, dywedodd Mr Davies, AC Preseli Penfro, wrth BBC Cymru: "Mae wedi bod yn flwyddyn dda i ni.
Dyled strwythurol
"Ry' ni wedi cynyddu nifer ein seddi yn y Cynulliad, ac rydyn ni'n edrych 'mlaen yn fawr iawn i etholiadau'r flwyddyn nesa', sef etholiadau llywodraeth leol.
"Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd cyn etholiadau'r Cynulliad, ac fe fuon ni'n llwyddiannus iawn yn yr etholiadau hynny.
"Mae'n cynghorwyr ni a'n hymgeiswyr ni yn edrych ymlaen yn fawr i fynd ar y stepen ddrws a chael y neges drosodd ein bod ni ar eu hochor nhw."
Mae'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan wedi mynnu nad oes bwriad i newid cwrs, gan lynu at gynlluniau i ddileu'r ddyled strwythurol cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Tyfu o 0.2% wnaeth yr economi yn ail chwarter 2011, gyda'r Blaid Lafur yn honni fod hyn yn tanlinellu'r angen i newid polisi.
Ond dywedodd Mr Davies: "Mae'r bobl dwi'n siarad â nhw yn deall pam ry'n ni'n gorfod gwneud y penderfyniadau anodd yma."
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cloi'r gynhadledd gydag araith ddydd Mercher.
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ac arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn annerch y gynhadledd ddydd Sul.
Mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol yn erfyn ar Mr Cameron i gymryd agwedd mwy ymosodol tuag at yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd i ddileu'r dreth 50c ar incwm uchel.