Tair mlynedd dan glo am ladd dyn, 63, ag un pwniad

Steven VonkFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Steven Vonk yn treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar a'r gweddill ar drwydded

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei garcharu am ladd dyn 63 oed gydag un ergyd i'w wyneb tu allan i dafarn yn Abertawe.

Bu farw Timmy Matthews, o ardal Townhill y ddinas, yn yr ysbyty ddeuddydd ar ôl yr ymosodiad ger tafarn The Mill, Heol Brynymor, Brynmill, ar 25 Gorffennaf.

Mewn gwrandawiad blaenorol fe wnaeth Steven Vonk, 51, o Stryd Westbury, Brynmill, wadu cyhuddiad o lofruddiaeth ond fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ple ei fod yn euog o ddynladdiad.

Ddydd Llun, fe gafodd Vonk ddedfryd o dair blynedd yn y carchar.

Clywodd Llys y Goron Abertawe iddo ddyrnu Mr Matthews ar ôl iddo regi arno y tu allan i'r dafarn.

Timmy MatthewsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Timmy Matthews wedi syrthio a tharo ei ben ar y llawr wedi i Steven Vonk ei ddyrnu

Ar ran yr erlyniad, dywedodd William Hughes KC wrth y llys fod Mr Matthews wedi'i weld mewn lluniau teledu cylch cyfyng yn "codi bawd" at Vonk eiliadau cyn iddo gael ei daro "heb unrhyw reswm".

Ychwanegodd: "Fe wnaeth Mr Matthews gwympo yn ôl ar unwaith a tharo'r llawr. Mae'n debyg iddo gael ei daro'n anymwybodol gan rym yr ergyd."

Clywodd y llys fod Vonk, a oedd wedi treulio'r diwrnod yn yfed alcohol, wedi gadael Mr Matthews yn ddiymadferth ar y llawr a'i fod wedi cael ei arestio'r diwrnod canlynol.

Tafarn The MillFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Timmy Matthews tu allan i dafarn The Mill ar Heol Brynymor

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Caroline Rees KC wrth y llys nad oedd yr ymosodiad "wedi'i gynllunio ymlaen llaw" a bod y cyfan wedi digwydd mewn "ychydig eiliadau".

Dywedodd wrth y Barnwr Paul Thomas KC fod Vonk yn "flin iawn" am yr hyn a ddigwyddodd, a'i fod wedi pledio'n euog cyn gynted â phosib.

Clywodd y llys fod Mr Matthews wedi dioddef anaf difrifol i'r ymennydd a'r pen, a bu farw yn yr uned gofal dwys.

'Roedd Dad yn gymeriad cariadus'

Fe gafodd datganiad ar ran ei ferch, Serena Matthews, ei ddarllen yn y llys lle dywedodd fod ei byd wedi "newid am byth".

"Rwy'n teimlo poen wrth feddwl am yr hyn y gwnaeth fy nhad ddioddef... a pha mor unig ac ofnus y mae'n rhaid iddo fod wedi teimlo," meddai.

"Roedd Dad yn gymeriad cariadus. Mae ein teulu a phawb yn y gymuned mewn sioc. Fe oedd fy ffrind gorau."

Dywedodd y barnwr wrth Vonk y byddai'n treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar a'r gweddill ar drwydded.

"Fe wnaethoch chi, yn dreisgar, ddod â bywyd dyn 63 oed, a oedd â blynyddoedd lawer o fywyd o'i flaen, i ben" dywedodd.

"Mae'r llysoedd hyn yn gweld dro ar ôl tro, ar ôl tro, y gall, ac yn aml mae, un ergyd drom yn angheuol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.