Bale yw Chwaraewr Y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale

Cafodd Gareth Bale ei enwi'n Bêl-droediwr Gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol mewn seremoni arbennig yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Y chwaraewr 22 oed oedd seren Cymru yn y ddwy gêm ddiweddar yn erbyn Montenegro a Lloegr yn Euro 2012.

Mae bellach wedi ennill 30 o gapiau dros ei wlad ers cael ei gap cyntaf yn erbyn Trinidad & Tobago yn 2006.

Aeth y wobr am chwaraewr ifanc y flwyddyn i Joe Allen o glwb Abertawe yn dilyn tymor llwyddiannus a welodd ei glwb yn ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

Cafodd ei gyd-chwaraewr yn Abertawe - Ashley Williams - hefyd yn anrhydeddu gyda'r wobr am "Chwaraewr Clwb Gorau'r Tymor" am y drydedd flwyddyn o'r bron.