£5m ar gyfer hybu bywyd gwledig Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Bydd £5m ar gael i hybu prosiectau bywyd gwledig yng Ngheredigion yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf.
Bydd ail gam Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, sy'n cael ei lansio ar Hydref 10, yn hwb i brosiectau mewn pum maes cyffredinol.
Mae'r prosiectau'n cynnwys cynllun £795,000 i uwchraddio bloc llety ac adeiladu 28 ystafell en suite newydd i 140 o aelodau yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.
Hefyd bydd cynllun Ceredigion ar gefn Ceffyl gwerth £182,000 yn datblygu rhwydwaith o bum llwybr ar gyfer ymwelwyr.
£112,000
Yn ogystal bydd cynllun gwerth £112,000 yn helpu marchnata rasio harnais yng Ngheredigion drwy ffurfio cwmni Ceredrotian.
Bydd cynllun arall gwerth £190,000 yn adfer a gwella cyfleusterau'r saith gorsaf ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol.
Ariennir y prosiectau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Roedd cam cynta Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn gweithredu rhwng 2008 a 2011.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y cafwyd cryn lwyddiant hyd yma, gan gynnwys darparu hyfforddiant i fwy na 300 o bobl, diogelu mwy na 27 o swyddi, a rhoi hwb o £171,419 i elw'r mentrau hynny sydd wedi derbyn cymorth.
Bydd amrywiaeth o fudiadau'n trefnu'r gweithgareddau, gan gynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, RAY Ceredigion, Ecodyfi, RSPB, yr Urdd a Menter Aberteifi.
Bydd y Cynllun Datblygu Gwledig yn darparu £3.1 miliwn o gyllid, a bydd £2.1 miliwn yn dod o ffynonellau eraill.