Ennill medal am redeg chwe marathon mwya'r byd

Beks gyda'i medalau o'i chwech marathon, a'r fedal fawr mae hi wedi ei dderbyn am wneud hynny
- Cyhoeddwyd
 
Mae rhedeg un marathon yn ddigon o her i nifer, ond mae Beks James wedi rhedeg naw, ac newydd dderbyn medal am ei bod wedi cwblhau'r Abbott World Marathon Majors, sef chwech marathon yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd; Llundain, Efrog Newydd, Berlin, Boston, Tokyo a Chicago.
Ar ôl cwblhau ei marathon cyntaf yn Llundain yn 2010, syrthiodd Beks mewn cariad â'r her o geisio cwblhau'r ras 26.2 milltir. Ac wedi iddi groesi'r llinell derfyn ym marathon Chicago ddechrau Hydref, mae hi wedi cwblhau breuddwyd sydd wedi cymryd 15 mlynedd iddi.
Ond nid yw'r rhedeg ar ben eto, meddai...
Amser i feddwl
"Mae rhedeg yn caniatau i fi adael fynd ym mhob ffordd," meddai.
Doedd Beks ddim wedi bwriadu gwneud un marathon, heb sôn am naw, meddai, ond daeth hi i'r amlwg yn eithaf sydyn ei bod yn "running addict".
"Roedd pellter marathon yn fy siwtio. Roedd yr her, y brwydro, y llwyddiant, y post marathon high bron iawn yn gyffur. Ac nid yn unig ydw i wrth fy modd yn gwthio fy nghorff i'r eithaf, dwi'n mwynhau yr amser meddwl mae'n ei roi i fi.
"Gallaf adael y tŷ gyda gofid ofnadwy ond erbyn diwedd yr awr (neu dair awr!) dwi wedi gweithio y broblem allan yn fy mhen.
"Dim ond pâr o sgidie rhedeg sydd angen arno chi - mae'n hawdd. Dwi'n trafaelio dros y byd gyda fy ngwaith a fy nheulu a wastad yn gwybod mod i'n gallu rhedeg unrhywle."

Mae medal yr Abbott World Marathon Majors "mor drwm, mae bron yn rhoi gwddw tost i ti" meddai Beks!
Ac mae Beks hefyd wedi teithio yn unswydd i redeg, gan hedfan o'i chartref yn Hong Kong ledled y byd i gwblhau rhai o farathonau mwya'r byd.
Nawr, a hithau wedi ennill medal Abbott World Marathon Majors, dyma allu edrych yn ôl ar y chwech marathon a enillodd y fedal arbennig iddi:
Llundain

"'Nes i fy marathon gyntaf yn Llundain 15 mlynedd yn ôl, a gwneud honna dair gwaith.
"Dwi'n caru Llundain gan fy mod yn adnabod y landmarks fel Big Ben, Tower Bridge, Buckingham Palace, ac mae rhedeg lawr y Mall i'r linell orffen yn wych.
"Mae hwn yn farathon dwi wedi wylio ar y teledu ar hyd fy oes. Ac mae wastad cefnogaeth da yn Llundain gan deulu a ffrindie. Atgofion bendigedig."
Efrog Newydd

"Os ti'n gwneud Efrog Newydd mae rhaid i ti fynd ar fws am ryw awr a hanner i'r dechreuad. Dwi'n cofio bod tu allan i Central Station a mynd ar fws allan i Staten Island am tua 4.30am!
"Mae Efrog Newydd yn un arbennig iawn hefyd; rhedeg drwy Staten Island, Brooklyn, Queens, y Bronx a gorffen ym mharc eiconig Central Park yn Manhattan. Mae'r dorf yn wych, ac mae blas gwahanol i bob borough.
"Roedd Dad wedi mynd â fi i Efrog Newydd ar fy mhenblwydd yn 18 ac roedd e'n ysu bod gyda fi i'r marathon. Dwi 'di colli fy nhad nawr a dwi mor ddiolchgar ei fod gyda fi ym marathon Efrog Newydd yn 2018.
"Ar ôl hwnna, dyma geisio mynd ati i goncro cyfres Abbott."
Berlin

"Yn anffodus 'nath Covid ddod â'r ymgais i ben am rai blynyddoedd, ond 'nes fynd ati i fwrw Berlin yn 2023.
"O'dd gwneud Berlin yn rhwydd iawn; o'n i'n medru cerdded o'r gwesty a bod ar y llinell cychwyn o fewn hanner awr. Er mae'n cymryd lot o amser i lwytho dy fag, a bod yn y lle cywir mewn pryd; mae 'na lot o aros o gwmpas gyda rhedeg marathon.
"Ti wastad yn mynd â lot o ddillad ychwanegol gyda ti i dy gadw di'n gynnes, a ti'n taflu rheiny ar yr ochr cyn i ti ddechrau. Maen nhw'n cymryd y dillad i gyd a'u rhoi nhw i'r digartref.
"Dwi wedi cael sawl drama cyn ac ar ôl marathons, fel cysgu ar lawr maes awyr Berlin ar y ffordd i'r ras ac ar y ffordd adref oherwydd streic baggage handler!"
Boston

"Mae pob marathon yn unigryw, ond mae Boston yn sefyll mas: "The holy grail of marathons!"
"Mae hi'n andros o anodd i gael lle yn Boston ac mae rhaid i chi gal amser da i ennill lle ynddo. Roedd rhaid i mi adael Boston am ddwy flynedd oherwydd Covid felly roeddwn i'n ysu i redeg hon yn 2024.
"Yn anffodus, yr wythnos cynt cefais i ddamwain a chwympo tra mas yn rhedeg. Roedd gen i 30 pwyth yn fy mraich a chleisiau di-ri' ar waelod fy nghefn.
"Roeddwn i mewn dipyn o boen ac yn ansicr os i fynd amdani tan y funud ola' - ond hon oedd un o fy hoff farathons! Mae Boston yn llawn rhiwiau; lan a lawr fel rollercoaster, sydd yn fy siwtio i gan fy mod yn gyfarwydd â mynyddoedd Hong Kong.
"'Nes i amser cloi yno heb feddwl bydden i hyd yn oed yn medru rhedeg!"
Tokyo

"Wnes i Tokyo ym mis Mawrth eleni. Roedd Rhod y gŵr gyda fi ac mae hynny'n gwneud lot o wahaniaeth. Os ti ar filltir 20 a ti'n clywed rhywun yn gweiddi 'C'mon Beks!', mae'n gwneud gymaint o wahaniaeth pan ti jyst mo'yn cwpla a chydio mewn gwydraid o siampên a'i gael e drosodd, a pheidio gorfod deffro bob bore Sadwrn a rhedeg 30km...
"O'dd y marathon yn neis ond mae Tokyo yn anodd iawn i fynd o un pen i'r ddinas, oherwydd natur y cwrs, a dwi'n meddwl fod Rhod yn teimlo fel ei fod e wedi rhedeg marathon mwy na fi!"
Chicago

"Roedd 55,000 yn rhedeg yn Chicago, a cafodd 150 o bobl fedal arbennig yr Abbot World series. Roedd e'n wych.
"Mae'r ddinas yn fendigedig gyda gymaint i'w weld, ac mae'n berffaith os wyt ti'n dwlu ar redeg; mae hi wedi ei hadeiladu fel grid, felly mae'n hawdd i ddod i 'nabod y ddinas yn gloi iawn.
"Does dim dal ar y tywydd yr adeg yma o'r flwyddyn, ac roedd e wastad yng nghefn fy meddwl i 'ydw i ddim am gael y chwech seren oherwydd y tywydd?' Ond roedd y tywydd yn berffaith.
"Ac mae torf Chicago yn gwbl wych; dwn i ddim faint o weithiau 'nes i glywed 'you got this Beks!'

Coflaid ar ddiwedd y ras
"Roeddwn i'n saethu am y chweched seren yn Chicago felly roedd hon yn ras unigryw i mi ac yn wahanol i'r lleill. Doeddwn i ddim yn mynd am amser anghredadwy; ro'n i'n mwynhau fy nhaith home run i.
"Gymerodd hi sbel i fi gwblhau'r cwbl, ac i gael y chwech seren dwi wedi bod yn breuddwydio amdanyn nhw ers blynydde, ond o'r diwedd, mae e 'da fi – mae'r fedal trwm iawn 'da fi!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
 

- Cyhoeddwyd3 Hydref
 

- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
 
