Disgwyl canfyddiadau ymchwiliad i sut roedd modd i Neil Foden gam-drin plant

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd
 
Bydd canfyddiadau ymchwiliad hirddisgwyliedig i sut roedd modd i brifathro yng Ngwynedd gam-drin plant yn rhywiol yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Cafodd Neil Foden - a oedd yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024.
Roedd wedi ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.
Fe wnaeth y dyfarniad sbarduno Adolygiad Ymarfer Plant, sydd dan reolaeth Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ac yn cael ei gadeirio gan Jan Pickles.
Bwriad yr adolygiad yw ystyried rôl yr asiantaethau a pha wersi sydd i'w dysgu.
Neil Foden: Beth ydyn ni'n gwybod hyd yma?
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
 
Cyngor yn dal i ddisgwyl am eglurhad dros ohirio adroddiad Neil Foden
- Cyhoeddwyd2 Hydref
 
Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig ar y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd24 Medi
 
Roedd yr adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi ar 24 Medi, ond fe gafodd Cyngor Gwynedd wybod ddiwrnod ynghynt na fyddai hynny'n digwydd.
Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ar 2 Hydref dywedodd prif weithredwr y cyngor, Dafydd Gibbard, nad oedden nhw wedi gofyn am ohirio cyhoeddi'r adroddiad, ac nad oedd yn gwybod pam fod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi gwneud hynny.
Yn yr un cyfarfod dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Nia Jeffreys, ei bod yn "siomedig iawn" nad oedd yr adroddiad wedi ei gyhoeddi.
Ychwanegodd ei bod yn rhagweld y bydd yr adroddiad yn amlygu methiannau i rwystro Foden, ac y bydd llawer o'r methiannau hynny yn dod o dan gyfrifoldebau Cyngor Gwynedd.
"Bydd cyhoeddi'r adroddiad yn gyfle i ddeall yn llawn be' ddigwyddodd, pa wersi sydd i'w dysgu a pha systemau sydd angen eu cryfhau i sicrhau bod ein plant mor ddiogel â phosibl yng Ngwynedd ac ar draws Cymru," meddai.
'Bwli' yn 'cuddio cyfrinach erchyll'
Wrth ddedfrydu Foden y llynedd dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei fod yn "fwli" a oedd yn "cuddio cyfrinach erchyll", sef ei "obsesiwn gyda merched ifanc".
Ychwanegodd y barnwr ei fod yn bryderus, pan gafodd pryderon eu codi i Gyngor Gwynedd am Foden am y tro cyntaf yn 2019 gan uwch aelod o staff, "eu bod wedi cael eu diystyru" ac na chafodd ymchwiliad ei gynnal.
Fe wnaeth ymchwiliad diweddarach gan BBC Cymru ganfod ei bod yn bosib bod Foden wedi cam-drin plant am dros 40 mlynedd.
Mae maes gwaith yr adolygiad wedi cynnwys trafodaethau gyda phanel o uwch-reolwyr o wahanol asiantaethau sy'n ymwneud â'r achos, a chreu "llinell amser o ddigwyddiadau".
Roedd Cyngor Gwynedd wedi addo cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad, ac "wedi llwyr ymrwymo i ddysgu o'r achos trasig hwn".

Roedd Cyngor Gwynedd wedi addo cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad
Yn ôl cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, Jenny Williams: "Bydd gwersi o'r adolygiad yn helpu i adnabod y gwelliannau sydd angen eu gwneud i systemau diogelu yn ogystal â threfniadau ar gyfer amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a cham-fanteisio."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y canfyddiadau'n "llywio unrhyw benderfyniadau ar gamau ehangach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys a oes angen ymchwiliad cyhoeddus llawn".
Gyda'r bwriad o sicrhau diogelwch a llesiant plant bregus ac atal achosion tebyg rhag digwydd eto, roedd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cynnwys ystyried "y diwylliant a alluogodd ei droseddu", "ymddygiad proffesiynol Neil Foden" a sut i "wella'r systemau a threfniadau ar gyfer amddiffyn plant rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.