Dyn i fyw mewn fan dros y gaeaf gan fod ei fflat mor damp

Dywed David Barlow bod problem lleithder wedi dod i'r amlwg ddyddiau yn unig wedi iddo symud i'w gartref yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn dweud y bydd yn byw mewn cartref modur o flaen ei gartref y gaeaf hwn gan fod yna leithder yn y tŷ ei hun.
Fe brynodd David Barlow, 65, fflat ar brydles ym mhentref Murton, Abertawe ym mis Tachwedd 2023 ac mae'n dweud iddo sylwi ar "streipen ddu ofnadwy" yn y lolfa o fewn dyddiau.
Fe gwynodd i reolwyr yr eiddo, FirstPort, bron i ddwy flynedd yn ôl ond dyw'r sefyllfa heb ei datrys, ac mae Mr Barlow'n dweud bod ei iechyd meddwl yn dirywio o'r herwydd.
Dywed FirstPort eu bod yn cefnogi Mr Barlow a pherchnogion eiddo eraill sy'n hawlio iawndal yn dilyn problemau wedi i British Gas insiwleiddio waliau dwbl 11 mlynedd yn ôl.
Ond mae Osborne Energy, y cwmni sy'n delio â chwynion ar ran British Gas, yn gwadu cyfrifoldeb.
Iawndal am ddifrod insiwleiddio yn 'annhebygol'
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
Yn ôl Mr Barlow, sy'n hanu o Sheffield, "gwael" fu'r cyfathrebu gan FirstPort ers iddo roi gwybod bod yna damprwydd, gydag oedi a negeseuon yn gwrthddweud ei gilydd.
Mae fel "troi mewn cylchoedd fel bochdew ar olwyn", meddai.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 10 o reolwyr gwahanol o gwmni FirstPort wedi delio â'i achos.
Er iddo fynd â'r mater i sawl proses gwyno a thribiwnlys ac i ombwdsmon, mae'r teimlo bellach ei bod "wedi dilyn pob trwydydd posib" ac "wedi fy ngadael mewn tywyllwch llwyr".

Y "streipen ddu ofnadwy" ar un o waliau'r lolfa oedd man cychwyn pryderon David Barlow ynghylch ei gartref newydd
Dywed Mr Barlow nad yw wedi dadbacio ar ôl symud i'r eiddo gan ofni y byddai'r lleithder yn eu niweidio, a'i fod "â gormod o gywilydd" gwahodd ffrindiau yna.
Mae'n dweud ei fod ar dabledi cwsg a meddyginiaeth atal iselder, a bod ei optegydd y ofni taw tamprwydd sy'n achosi llid llygaid cyson.
Dywed na allai gweithio o'i gartref, a'i fod yn aros rywle dros nos yn ystod shifftiau 24-awr fel swyddog gofal plant preswyl.
"Pan rwy' bant rwy'n teimlo'n iawn," dywedodd, "ond y foment trwy'n dreifio'n ôl mae'n fy nharo unwaith yn rhagor."
Ag yntau'n wynebu trydydd gaeaf heb gartref "y galla'i fyw ynddo" mae Mr Barlow nawr yn bwriadu cysgu mewn cerbyd modur ar ei dramwyfa (drive), wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan y fflat, os nad yw'r sefyllfa'n gwella cyn diwedd Tachwedd.

Ddwy flynedd ar ôl symud i mewn, mae David Barlow yn ofni dadbacio ei holl bethau rhag i'r lleithder eu niweidio
"Gweithio, aros a bodoli" yw ei holl fywyd bellach, meddai.
"Rwy'n gwneud fy ngorau i gario ymlaen, ond mae hyn wir yn dal fy mywyd yn ôl.
"Rwy'n caru fy nghartref a sa'i mo'yn ei werthu.
"Rwy' mo'yn creu gwreiddiau yma, ond nes y galla'i fyw yna'n iawn, ni allai fyw yna.
"Mae'n sefyllfa hurt."

Fe brynodd David Barlow y fflat, ar brydles, ar gyfer ei ymddeoliad
Dywedodd llefarydd ar ran FirstPort eu bod yn deall "pa mor heriol yw'r sefyllfa yma" ac yn gwneud "popeth y gallwn ni i gael datrysiad mor fuan â phosib".
Yn gynharach eleni, fe ddatgelodd y cwmni bod arolwg annibynnol wedi cadarnhau nam o ran insiwleiddio waliau dwbl tai'r datblygiad 11 mlynedd yn ôl.
Er i Osborne Energy wrthod cais cychwynnol am iawndal, dywed FirstPort bod y gwaith insiwleiddio dan warant 25-mlynedd.
Mae FirstPort wedi ceisio am gefnogaeth ariannol ac yn cefnogi cais grŵp i sicrhau "datrysiad cost effeithiol a dibynadwy" ar ran preswylwyr.
Mae'r cwmni, medd y llefarydd, yn delio'n ffurfiol â chwyn Mr Barlow ers 27 Awst 2025, ac mae rhelowr y datblygiad mewn cysylltiad ag e yn wythnosol.
Ychwanegodd y bydd FirstPort yn cysylltu'n uniongyrchol ag Osborne Energy i drafod a phenderfynu sut orau i symud ymlaen.

Dywed Mr Barlow ei fod â gormod o gywilydd i wahodd ffrindiau i'w gartref oherwydd ei gyflwrs
Yn ôl Debbie Lewis o Osborne Energy, fe gyflwynodd Mr Barlow adroddiad tamprwydd ym Mehefin 2024, ac roedd yna adroddiad pellach wedyn ar ran grŵp o bum eiddo yn y mis Medi.
Eglurodd mai trwy FirstPort yr oedd disgwyl iddyn nhw drafod wedi hynny, yn hytrach na gyda Mr Barlow ei hun.
Ym mis Tachwedd, fe nododd arolwg gan Osborne Energy sawl ffactor cynnal a chadw cyffredinol yn hytrach na nam insiwleiddio, ond ni chafodd yr adroddiad hwnnw ei adolygu wedi i reolwr adael y cwmni.
Fe ymddiheurodd FirstPort maes o law, meddai, a chyflwyno adroddiad ym mis Gorffennaf nad oedd yn profi'n "derfynol" gysylltiad rhwng y tamprwydd a phroblem insiwleiddio.
Ychwanegodd Ms Lewis bod Osborne Energy wedi codi cwestiynau ym mis Medi ynghylch dyfynbrisiau gan FirstPort ar gyfer tynnu insiwleiddio saith eiddo pellach, a'u bod yn dal yn disgwyl am ateb i'r cwestiynau hynny.
Dywedodd British Gas, a osododd yr insiwleiddio, nad oedd gyda nhw "unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at ddatganiad Osborne Energy".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.