Cyngor: Ffordd osgoi yn llwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Ffordd osgoi Pentre'r EglwysFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Costiodd y ffordd osgoi £90m i'w hadeiladu

Mae ffordd osgoi yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei defnyddio ar gyfartaledd 20,000 o weithiau bob dydd.

Mae'r cyngor sir wedi datgan bod y ffordd newydd wedi arbed 7 miliwn siwrnai trwy Bentre'r Eglwys a bod y nifer o gerbydau sy'n teithio trwy'r pentref wedi gostwng 70%.

Costiodd y ffordd osgoi £90 miliwn i'w hadeiladu a chafodd ei hagor flwyddyn yn ôl, dolen allanol.

Hwn oedd y cynllun ffordd mwyaf a gafodd ei thalu gan gyngor sir ym Mhrydain.

'Diolchgar'

Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu tair pont ar gyfer , dolen allanol a gostiodd £190,000.

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Andrew Morgan: "Mae'r cymunedau lleol wedi gweld y gostyngiad sylweddol mewn tagfeydd traffig.

"Rwy'n gwybod fod trigolion yn ddiolchgar am y cynllun hwn."

Ychwanegodd Mr Morgan fod y ffordd osgoi wedi helpu datblygiad economaidd yr ardal.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol