Angen gwella iechyd y Cymry yn ôl y prif swyddog
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru yn rhybuddio y bydd pobl yn marw yn gynt na'r disgwyl oherwydd nad ydyn nhw'n byw bywyd digon iachus.
Dywed Dr Tony Jewell fod afiechydon yn cael eu hachosi gan ordewdra, ysmygu, alcohol a diffyg cadw'n heini.
Mae ef o'r farn nad yw un o bob tri o'r boblogaeth yn cael digon o ymarfer corff.
Yn ei adroddiad blynyddol mae'n croesawu'r newyddion fod llai o bobl ifanc yn ysmygu ac yfed, ond ychwanegodd fod ystadegau eraill yn llai calonogol.
"Yn anffodus mae lefel ysmygu ymhlith oedolion yn parhau yn weddol uchel ar 23%," meddai.
Ymarfer corff
"Mae tua 30% o oedolion yn gwneud digon o ymarfer corff dyddiol."
Ond ychwanegodd fod tua 22% o oedolion yn ordew.
Mae'n dweud fod rhannau eraill o Brydain ac Ewrop yn gweld gwell cynnydd o safbwynt iechyd pobl.
Er hyn, roedd yn croesawu'r ffaith fod yna leihad yn y nifer o bobl ifanc sy'n yfed neu'n ysmygu.
Mae yna awgrym yn yr adroddiad y dylid ychwanegu fflworid at ddŵr er mwyn gwella dannedd plant.
Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn rhoi brwsys dannedd i rai plant meithrin ac yn rhoi gwersi brwsio dannedd i blant cynradd.
"Cafodd anesthetig ei roi mewn 5,130 o achosion y llynedd er mwyn tynnu dannedd plant yn ne ddwyrain Cymru, ardal lle nad oes fflworid yn y dŵr," meddai Dr Jewell.
Mae'n dweud y dylid cymharu hynny a Birmingham - ardal o boblogaeth debyg, lle mae fflworid yn y dŵr.
"Yn Birmingham cafodd 2,700 o blant driniaeth debyg."
Ond mad rhai beirniaid yn dweud nad ydym yn gwybod beth yw sgil effeithiau hir dymor o roi fflworid yn y dŵr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011