Drama i gofio 80 mlynedd ers sefydlu Triawd y Coleg

Cedron Sion, Owain Arwyn, Manon Wilkinson, Owen Alun a Siôn Emyr
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 80 mlynedd ers i Driawd y Coleg gael ei sefydlu, ac i ddathlu hynny bydd drama arbennig yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru.
Cafodd y triawd poblogaidd, sef Cledwyn Jones, Meredydd Evans (Merêd) a Robin Williams (Rogw), ei ffurfio yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 1945.
Fe fuon nhw'n perfformio ar lwyfannau ar draws Cymru gan gyhoeddi sawl record.
Yn y ddrama, Stori Triawd y Coleg, sydd wedi'i hysgrifennu gan Ciron Griffiths, Cedron Sion sy'n chwarae Meredydd Edwards, Siôn Emyr yn chwarae Robin Williams ac Owain Arwyn yn chwarae Cledwyn Jones.
Dyma ragflas o ddrama Triawd y Coleg
Yn ogystal â'r tri mae Owen Alun yn chwarae rhan Sam Jones, cyn-gynhyrchydd dylanwadol y BBC. Manon Wilkinson sy'n chwarae Nan Davies – un a ddaeth yn ffigwr canolog ym myd adloniant teledu Cymraeg rhwng y 1950au i'r 70au,
Roedd doniau'r tri i'w clywed ar Nosweithiau Llawen y cyfnod a oedd yn cael eu darlledu ar donfeddi'r BBC.
Roedd un o'r actorion, Cedron Sion yn gwerthfawrogi'r cyfrifoldeb o chwarae rhan Meredydd Evans, dywedodd ar raglen Aled Hughes:
"Mae mawredd eu cyfraniad nhw fel triawd wedi gwawrio arna i fwy fwy yn ddiweddar.
"Mae hi'n anodd i ni amgyffred y dyddia' yma cymaint o chwa o awyr iach oedden nhw oedd i Gymru a'r gwrandawyr ar ôl erchylltra'r rhyfel ac mae ei ffrindgarwch nhw'n treiddio'r drwy'r sgript yma hefyd," meddai.
Triawd y Coleg yn perfformio Triawd y Buarth o'r rhaglen Cymru'n Galw yn 1967
Un her oedd yn wynebu'r actorion oedd ceisio peidio dynwaredu'r cymeriadau yn ormodol ac Owain Arwyn fu'n sôn am y ffin denau rhwng portreadu a dynwaredu.
"Be' sy'n bwysig i'w gael ydi trio cael y gwirionedd i'r geiriau ac i'r sgript, mae hynny yn reit bwysig a ti'n gneud cyfiawnhad wedyn i'r geiriau ac i'r cymeriadau."
Rhywbeth oedd yn sefyll allan i Sion Emyr oedd y ffaith fod gan y tri straeon unigryw eu hunain.
"Pawb dwi wedi sôn wrthyn nhw am y prosiect yma, mae eu hanes nhw yn bellach na'r hyn yr ydan ni'n neud. Maen nhw wedi cyffwrdd cymaint o fywydau a chymaint o bobl. Mae wedi bod yn chwa o awyr iach cael mynd yn ôl a gwrando arnyn nhw," meddai.
Mae modd gwrando ar y ddrama drwy glicio yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd

- Cyhoeddwyd31 Hydref
