O ffoi'r rhyfel yn Wcráin i astudio technoleg gofod yn 16 oed

Kateryna mewn dillad amddiffynnol gwyrdd golau sydd hefyd yn gorchuddio'i gwallt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kateryna wedi cael ei disgrifio gan ei darlithydd fel "myfyriwr eithriadol a rhagorol"

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 16 oed a wnaeth orfod ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, bellach yn gweithio gyda gwyddonwyr o fri ar dechnoleg gofod all helpu'r byd gyrraedd targedau sero net.

Mae Kateryna wedi cael ei disgrifio gan ei darlithydd fel "myfyriwr eithriadol a rhagorol".

Am 10 mis ar ôl cyrraedd Cymru yn 2022, bu'n byw gyda'i mam a'i nain mewn ystafell westy ond hi bellach yw'r disgybl ysgol cyntaf i gwblhau cyfnod preswyl yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-Dargludydd Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe.

Mae Kateryna yn ymchwilio i baneli solar yn y gofod ar gyfer medi ynni o'r haul, ac mae hi'n gobeithio bod yn ffisegydd damcaniaethol fel Albert Einstein a Stephen Hawking.

Dywed Kateryna mai canolbwynt ei gwaith yw lloerennau sy'n cylchdroi'r Ddaear ac yn profi "tymereddau uchel iawn" yn wyneb yr haul.

"Rhaid i ni sicrhau bod y lled-ddargludyddion (semiconductors) yn gweithio'n effeithiol yn y tymereddau hynny, ond hefyd bod y lloeren yn gallu cuddio tu ôl i'r ddaear lle fydd yn profi tymereddau oer iawn," dywedodd.

"Rhaid gwneud yn siŵr bod y lled-ddargludyddion yn gallu goddef yr ystod tymheredd yna a pharhau i weithio."

Mae cyfnodau preswyl CISM fel arfer yn cael eu cynnig i israddedigion trydedd flwyddyn sydd wedi astudio ffiseg am ddwy flynedd, a bydd project Kateryna'n destun ymchwil pellach gan fyfyrwyr sydd o leiaf bedair blynedd yn hŷn na hi.

Kateryna yn cynnal arbrawf lled-ddargludydd mewn blwch gyda'i breichiau mewn menyg rwber
Disgrifiad o’r llun,

Kateryna yn cynnal arbrawf lled-ddargludydd mewn blwch gyda'i breichiau mewn menyg rwber

Mae Kateryna yn fyfyriwr "eithriadol", medd Dr Gregory Burwell - uwch-ddarlithydd yn adran ffiseg Prifysgol Abertawe.

"Dyma'r cyfnod preswyl cyntaf o'r fath yn CISM, ac mae ei llwyddiant wedi gosod meincnod uchel ar gyfer rhaglenni'r dyfodol," dywedodd.

Cyfeiriodd at ei gwaith ar ffotofoltäig yn y gofod, lle mae ffotogelloedd yn troi golau haul yn drydan yn uniongyrchol.

Mae'r tywydd a chylch dydd a nos y Ddaear yn cyfyngu ar baneli ffotofoltaidd neu solar ar y tir ond mae paneli gofod yn wynebu'r haul ac yn gallu dal ynni solar 24 awr y dydd.

Byddai'r ynni sy'n dod o'r haul yn cael ei anelu i'r ddaear ble mae'n cael ei droi'n drydan.

Dywed Dr Burwell fod paneli solar ar doeau wedi eu gwneud o silicon "nad sy'n ddelfrydol yn y gofod oherwydd mae'n rhy drwm i amsugno digon o oleuni".

Y nod felly yw "datblygu ffotofoltäig haen denau i greu mwy o bŵer gyda llai o bwysau, sy'n bwysig wrth anfon lloerennau i'r gofod".

Ychwanegodd: "Mae gorchestion Kateryna'n dangos effaith rhoi adnoddau blaengar a mentora i fyfyrwyr talentog."

Kateryna yn gwneud gwaith cartref wrth fwrdd mewn ystafell gwesty, tra bod ei mam yn eistedd ar wely a'i nain mewn cadair wrth ei hymyl
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Kateryna wneud ei gwaith cartref yn yr ystafell wely y bu'n ei rhannu am gyfnod gyda'i mam a'i nain wedi iddyn nhw orfod gadael eu mamwlad

Mae llwyddiant Kateryna yn rhyfeddol o gofio i'r rhyfel yn Wcráin ei gorfodi, yn 13 oed, i adael ei chartref yn Kyiv gyda'i mam, Olena, 41, a'i nain 71 oed.

Bu'r dair yn byw mewn ystafell gwesty yn Abertawe am 10 mis, heb le neilltuol i Kateryna allu astudio.

"Rwy'n falch nawr y bu'n bosib i ni gael fflat cyn fy arholiadau TGAU a chael lle i astudio lle rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser," meddai.

Mae hi nawr yn dilyn pum cwrs Safon Uwch yn Ysgol yr Esgob Gore, Y Sgeti - Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg, Cemeg a Chyfrifiadureg - a'r Fagloraieth Gymreig.

Mae hi'n tynnu coes trwy ddweud bod gwersi'r ysgol "yn eithaf hawdd o'i gymharu â'r cyfnod preswyl".

Two women pack presents on a table in a hall for the UkraineFfynhonnell y llun, Valda Field
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr yn pacio anrhegion i Wcrain

Daeth 8,000 o Wcrainiaid i Gymru dan gynlluniau llywodraethau'r DU a Chymru, gan fynd yn y lle cyntaf i ganolfannau croeso - gwestai, yn aml, fel lloches gyntaf Kateryna a'i theulu.

Dydy Kateryna ddim yn rhagweld gallu dychwelyd i'w mamwlad yn y dyfodol agos, ac mae hi'n ddiolchgar am y gefnogaeth i'w gwlad.

Mae cannoedd o anrhegion Nadolig ar eu ffordd ar hyn o bryd o'r Bont-faen, Bro Morgannwg ar gyfer cartrefi plant amddifaid, ysbytai a chanolfannau lloches yn Wcráin.

Dywed Kateryna bod ymosodiadau Rwsia ar gyflenwadau trydan - ymosodiadau ar dargedau milwrol, medd y Rwsiaid - yn creu trafferthion mawr i bobl gyffredin, a bod sawl tref "heb ddŵr na nwy".

"Mae llawer o bobl Wcráin wedi gadael eu cartrefi oherwydd mae'r rhengoedd blaen yn dod yn fwyfwy peryglus, felly mae dal angen help ac mae'n bwysig i'w drafod," meddai.

Olena, Kateryna a'i nain yn eisted ar soffa wrth ymyl coeden Nadolig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu eisoes wedi addurno ar gyfer y Nadolig

Yng nghyd-destun tensiynau ar hyn o bryd ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU, dywed Kateryna y byddai'n hoffi astudio yn Rhydychen neu Gaergrawnt, ond mae hi'n ystyried ceisio mynd i brifysgolion yn Yr Alban neu Awstria.

"Rwy'n ffodus nad ydw i'n wynebu unrhyw ymddygiad cas," meddai, "ond mae'r holl drafod am anfon mudwyr o'r wlad a'r posibilrwydd o ddod â chefnogaeth ar gyfer ffoaduriaid Wcráin i ben yn fy mhoeni.".

Dywed Olena ei bod "yn falch ofnadwy" o'i merch.

"Mae Kateryna'n gweithio'n galed ac yn canolbwyntio'n llwyr ar ei hastudiaethau.

"Mae ei gweld yn llwyddo yn fy ngwneud i wir yn hapus ac yn falch bob un diwrnod.

"Rydym hefyd eisiau dweud diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth. Mae'n bwysig iawn i ni."