'Awch i glywed cerddoriaeth Gymreig' yn fyw ac yn iach dramor

- Cyhoeddwyd
Dw i wedi colli cyfri' ar sawl gwaith dw i wedi gweld Pedair yn perfformio. Dwi wedi'u gweld mewn neuaddau ysgol, ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mewn gigs niferus ar hyd a lled Cymru. Roeddwn i hyd yn oed yno yn y gig cyntaf – cyn eu bod nhw'n Pedair, yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod 2017.
Felly pan ges i wahoddiad gan Gorwelion/Horizons Cymru i deithio gyda'r band i'r Almaen i gynhyrchu rhaglen radio am y daith, ro'n i wedi pacio 'nghês cyn y gallech chi ddweud "Cân y Clo"!
Wedi cael gwahoddiad gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Rudolstadt oedd Pedair.

Lois yn nhref gyfagos Saalfeld gyda Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard
Gŵyl Rudolstadt yw gŵyl cerddoriaeth werin fwyaf blaenllaw Yr Almaen. Bydd hyd at 95,000 o bobl yn tyrru i dref fechan Rudolstadt yn Thüringa dros bedwar diwrnod i glywed y gorau o gerddoriaeth werin gwledydd Ewrop. Mae dros 300 o berfformiadau'n digwydd ar draws tua 25 o lwyfannau gwahanol gan gynnwys sgyrsiau a gweithdai.
Cyrhaeddais y dref ar bnawn Iau chwilboeth o Orffennaf ac roedd bwrlwm yr ŵyl i'w weld yn barod gyda pherfformwyr a bysgwyr ar gornel pob stryd a chlamp o lwyfan ar sgwâr y dref.
Byddai Pedair yn perfformio ar dri gwahanol lwyfan yn ystod yr ŵyl, ond y tro hwn dim ond fel triawd gan fod Siân James wedi cael anaf ar y pryd, ac wedi cael cyngor i beidio â theithio.
Ar nos Wener yr ŵyl, nhw oedd yn cloi un o lwyfannau mawr yr ŵyl yn y castell – Burg-Terasse. Palas baroc o'r 13eg ganrif yw Castell Heidecksburg ac mae'n edrych dros dref Rudolstadt, yn sefyll yn gadarn tua 60m uwchben y dref.

Roedd modd gweld tref Rudolstadt o deras y castell ac yn gyfle da am selffi!
Aethon ni yno i osod yr offerynnau ar y llwyfan a gwneud y prawf sain, ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl na faint o bobl fyddai'n dod. Ond buan y llenwodd y teras ac erbyn y daeth hi'n amser i berfformio, roedd y lle'n orlawn gyda phobl yn sefyll ar risiau'r palas yn gwylio a gwrando.
Dwi ddim yn meddwl i mi erioed weld gwrandawiad tebyg gan gynulleidfa mewn gŵyl yma yng Nghymru. Roedd yr Almaenwyr yno i wrando, ac i gael eu swyno gan gerddorion o bob cwr o'r cyfandir.
Wrth siarad efo Gwyneth, Meinir a Gwenan ar ôl y perfformiad fe ddisgrifion nhw'r gynulleidfa fel un a oedd yn ymateb iddyn nhw – nid dim ond i'r gerddoriaeth ond i'r sgwrsio rhwng caneuon a'r ychydig Almaeneg siaradodd y merched ar y llwyfan yn chwerthin ac yn dawnsio pan gwahoddwyd nhw i wneud hynny.
Fe'u galwyd nhw'n ôl i'r llwyfan gan waedd o ganmoliaeth a chymeradwyo, pawb ar eu traed yn barod i ddawnsio i encore: medlei o alawon gwerin Gymreig.

Perfformiad yn ystod y machlud ar deras Castell Heidecksburg
Dw i'n credu'i bod hi'n deg dweud nad oedd Pedair wedi disgwyl ymateb o'r fath. Daeth torf fechan at ochr y llwyfan i gael tynnu lluniau, dweud eu canmoliaeth a phrynu cryno ddisgiau wedi'u llofnodi.
Ar ôl gorffen, aethon ni i weld perfformiad terfynol yn noson ar brif lwyfan y palas, Ledisi, cantores soul o UDA, gyda symffoni Thüringer Symphoniker Saalfeld-Rudolstadt.
Dal yn gyffro wedi gwefr nos Wener, roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur arall gyda dau berfformiad a sgwrs.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Roedd golygydd y cylchgrawn Folker, Mike Kamp, wedi gweld Pedair mewn cynhadledd Celtic Connections yn Glasgow ddechrau 2024 ac wedi'i gyfareddu ganddynt.
Felly, pan ddeallodd bod y grŵp yn dod i ŵyl Rudolstadt fe ofynnodd iddynt fod yn rhan o un o'r sgyrsiau yr oedd o'n eu cynnal yn adeilad Shminkkasten. Eto fyth, roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer perfformiad agosatoch a sgwrs gyda'r band, lle cafodd y gynulleidfa gyfle i holi cwestiynau i'r merched.
Y Gymraeg oedd wedi sbarduno chwilfrydedd y rhai a ofynnodd gwestiynau – gyda phob un yn dweud bod y gerddoriaeth wedi cyffwrdd rhyw emosiwn ynddynt er nad oeddent yn deall gair oedd y merched yn eu canu. Nododd pob un bŵer yr harmonïau ac fe brynodd nifer gopi o'r albwm er mwyn cael mwynhau'r harmonïau hynny adref.

Llond neuadd yn barod i wrando ar Mike Kamp yn sgwrsio gyda Pedair
Wedi'r sesiwn honno, roedd angen mynd â'r offerynnau draw i'r lleoliad nesaf sef yr eglwys, Stadtkirche, ar gyfer y perfformiad olaf. Ond cyn hynny cefais i gyfle i fynd i siarad gyda bandiau eraill oedd yn perfformio yn yr ŵyl.
Cefais sgwrs gyda Yoko Pwno – band gwerin o'r Alban, dychmygwch NoGood Boyo Albanaidd – yn un o dafarndai'r dref, Luther's Pub. Roedden nhw'n perfformio yn y parc, ardal oedd yn denu to ifanc yr ŵyl. Roedd eu perfformiad yn un egnïol a chwyslyd iawn!
Bum i hefyd yn sgwrsio gyda Ganna, cantores o Wcráin a thriawd o Norwy, Kalejdoskop Trio ar gyfer y rhaglen radio.

Stadtkirche – Eglwys Sant Andreas, tref Rudolstadt
Mae'r eglwys yn un drawiadol iawn – wedi'i hailadeiladu yn y 15fed ganrif ar adfeilion eglwys o'r 12fed ganrif – ac mae llawer o hanes yn perthyn iddi. Roedd hi'n llawn dop ar gyfer perfformiad ola'r dydd, gydag ambell un wedi dod i weld Pedair am yr ail os nad y trydydd tro.
Gyda'r eglwys gyfan ar ei thraed i gymeradwyo Pedair, nid oedd ffordd well o ddod â thridiau yn yr ŵyl i ben.
Wrth deithio'n ôl ar y trên i Berlin yn golygu recordiadau a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, do'n i methu cael gwared ar y teimlad fod y trip wedi adnewyddu fy ngwerthfawrogiad o Pedair, ac o ganu gwerin Cymraeg yn benodol.
Mae'r awch i glywed cerddoriaeth Gymreig draddodiadol a'r dehongliadau cyfoes ohoni yn fyw ac yn iach ymhell tu hwnt i ffiniau'n gwlad fechan ni, ac mae cyfleoedd fel y rhai mae Gorwelion a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ei roi i'r bandiau hyn yn amhrisiadwy.

Tu mewn i eglwys Stadtkirche
Mae'n hawdd dod i arfer gweld bandiau yng Nghymru a'u cymryd yn ganiataol, a ges i fy atgoffa dros y tridiau yn Rudolstadt nad ydi bandiau fel Pedair yn rhywbeth cyffredin. Maen nhw'n dalent eithriadol ac yn cyfrannu at ddiwylliant gwerin byd-eang, nid dim ond ein swigen fach Gymraeg ni.
Fe gefais fy atgoffa gan yr Almaenwyr fod 'na ryw hud sydd i'w drysori yn digwydd pan mae Pedair yn perfformio gyda'i gilydd.
Mae'r brwdfrydedd, angerdd a dealltwriaeth sydd gan y merched o'u crefft yn syfrdanol, a'r proffesiynoldeb ac urddas sydd ganddyn nhw ar lwyfan – dim ots ei faint – i'w edymgu.
Ond, y peth wnaeth i mi deimlo fwyaf o dreulio amser yn eu cwmni oedd gweld y chwaeroliaeth, y parch, y gefnogaeth a'r cariad sydd rhyngddyn nhw – sy'n parhau oddi ar y llwyfan. Aeth 'na ddim perfformiad na phryd bwyd heibio heb iddyn nhw sôn am Siân. Mae'r cwlwm sydd rhwng y pedair yn un tynn, ac mae'r prawf o hynny i'w weld ar y llwyfan.
Bydd y rhaglen Pedair yn Rudolstadt ar BBC Radio Cymru nos Lun, Tachwedd 17 ac ar BBC Sounds wedi hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd11 Awst 2023

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
