Teulu wedi eu 'llorio' yn dilyn marwolaeth merch 21 oed yn Aberteifi

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Netpool
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch 21 oed a gafodd ei chanfod yn farw yn Aberteifi wedi eu "llorio" yn dilyn eu colled.
Cafodd Corinna Baker, 21 oed, ei chanfod yn farw yn iard gychod Netpool yn Aberteifi tua 12:35 brynhawn Sadwrn.
Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal yr iard gychod, neu a welodd unrhyw un yno, ers 21:00 nos Iau 13 Tachwedd.
Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Aberteifi
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Fel teulu, rydym wedi'n llorio yn dilyn colli Corinna annwyl.
"Roedd yn cael ei charu'n fawr, a bydd ei theulu a'r rheini y cafodd y fraint o'i hadnabod yn gweld colled aruthrol ar ei hôl.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i roi gwybod.
"Rydym yn gofyn i bawb i barchu ein preifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn, a'n gadael ni i alaru mewn heddwch."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.