Meibion mam sengl â chanser yn codi miloedd ar gyfer uned cemotherapi

Meinir a'r hogiau
Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith i'r dde) Lewis, Meinir, Iestyn, Rhys ac Ioan

  • Cyhoeddwyd

Mae meibion mam sengl o Abertawe sydd â chanser y fron wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer yr uned cemotherapi fu'n ei thrin dros y misoedd diwethaf.

Roedd Meinir Morgan, 45 oed, o Gellifedw ger Abertawe, ar ei gwyliau gyda'i phedwar mab yn Florida pan sylwodd fod ganddi lwmp ar ei brest.

"Es i i'r dŵr i nofio ac o'n i yn teimlo'n anghyfforddus. Erbyn diwedd y dydd oedd e eitha' tost, ac wedyn yn y gawod yn y nos nes i archwilio'r frest a meddwl bo fi'n teimlo lwmpyn," meddai.

Ar ôl dod adre aeth i weld ei meddyg teulu yn syth, ac o fewn deuddydd roedd yn cael ei gweld yn uned canser y fron Ysbyty Singleton a'r meddygon yn dweud wrthi eu bod 95% yn siŵr fod ganddi ganser y fron.

"Es i drwy broses o sgans a phrofion, ac wedyn diwedd Tachwedd y llynedd nethon nhw gadarnhau bod 'da fi canser ar y fron. Wedyn mwy o tests a dechre trafod y driniaeth a'r cynllun o ran be fydde yn digwydd nesa."

Meinir Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymateb ei meibion ar ôl cael gwybod am y diagnosis canser "yn arbennig", meddai Meinir

Ar ôl cael diagnosis ffurfiol o ganser y fron HER2+, roedd rhaid iddi wedyn ddweud wrth y bechgyn, ac wythnos cyn Nadolig y llynedd fe gasgluodd y teulu ynghyd i dorri'r newyddion.

"Fe gethon ni sit down bach a dweud y newyddion ofnadwy i'r bois, ond ar yr un pryd sicrhau nhw bod plan gyda fi, a bo'r tîm iechyd yn hyderus yn y plan a bo fi yn hyderus yn y tîm.

"Ac felly bo' ni mynd i gael Dolig bach neis ac wedyn ar y cyntaf o Ionawr bydde ni yn dechre cemotherapi."

Fe gychwynnodd Meinir ar bedwar mis o driniaeth cemotherapi, ac wedi hynny llawdriniaeth a radiotherapi.

Fe wnaeth hi hefyd ddechrau cwrs blwyddyn o imiwnotherapi, ac fe fydd hi yn gorfod cymryd meddyginiaethau tymor hir am gyfnod o 10 mlynedd.

"Roedd y bois yn arbennig gyda fi ar hyd yr amser. Roedden nhw yn wych yn y tŷ, yn 'neud bwyd, golchi llestri a dillad, glanhau, a buodd mam yn helpu.

"S'dim amheuaeth, roedd e yn lot o bwysau iddyn nhw gario ac yn ofnadw o drwm. Mae e yn rhywbeth s'dim un rhiant mo'yn dweud wrth ei phlant."

Meinir MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Meinir ei bod wedi "ffocysu ar y positif a cadw fynd" yn ystod ei thriniaeth

Ar hyd yr amser roedd Meinir yn benderfynol o fod yn bositif ac yn hyderus.

"Nethon ni lefen lot ar y dechre, ond o'n i yn hyderus yn y cynllun a'r tîm a bod y driniaeth mynd i weithio.

"Felly o'n i yn ffocysu ar y positif a cadw fynd. Ond, yn anffodus, unrhyw beth i 'neud â chanser, yr unig beth ma' plant yn gw'bod yn aml iawn yw bod pobl yn gallu marw.

"Doedd gwella a iachâd ddim yn rwbeth o'n nhw yn gw'bod amdano. Hyd yn oed bo fi yn dweud bod y driniaeth yn mynd i weithio, o'n i yn gw'bod yn eu meddwl nhw roedd amheuon. Ond nes i gadw yn bositif, a ni 'di mynd drwyddi."

Disgrifiad,

'Môr falch o fy meibion yn codi miloedd dros fy uned cemotherapi'

Roedd ei meibion Lewis, 18, Rhys, 17, Ioan, 15, a Iestyn,13, yn gefn i'w mam ar hyd y daith, ac yn awyddus iawn i godi arian i gefnogi'r uned lle'r oedd Meinir yn derbyn triniaeth.

Dywedodd Lewis: "Ym mis Mawrth nethon ni agor tudalen ar y we i godi arian i'r uned cemotherapi a gofal y frest yn Ysbyty Singleton.

"O'n i'n meddwl bydde hynna'n g'neud gwahaniaeth a rhoi r'wbeth yn ôl i'r bobl oedd yn helpu mam.

"Roedd y pedwar ohonon ni yn teimlo yn drist pan dd'wedodd mam wrthon ni am y canser, ac oedd e'n r'wbeth anodd i ddelio â fe, ond nethon ni benderfynu yn syth bo' ni ishe neud r'wbeth i helpu."

Ioan, Rhys a LewisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ioan, Rhys a Lewis ar ôl cwblhau ras pum cilomedr

Roedd y bechgyn yn greadigol wrth godi'r arian. Gyda chefnogaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, fe fuon nhw'n coginio ar gyfer ffair gacennau.

Maen nhw hefyd wedi codi arian mewn ras 5k ac wedi trefnu te prynhawn gydag un o ffrindiau Meinir.

Dywed Ioan fod y bechgyn i gyd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth maen nhw wedi ei chael.

"Ni gyd yn licio cadw yn ffit felly roedd mynd i redeg yn grêt ac yn ffordd dda i allu dweud diolch wrth godi arian i helpu. Dyw e ddim yn beth neis i unrhyw deulu fynd trwyddo."

'Meddwl i chi eich hun bod popeth mynd i fod yn iawn'

Er eu bod yn brysur gyda gwaith ysgol ac yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, fe sefydlodd y bechgyn dudalen codi arian ar-lein gan osod targed o £500.

Er pryder na fydden nhw'n codi gymaint â hynny, fe gawson nhw eu syfrdanu pan gyrhaeddodd y cyfanswm £3,150.

Mae Iestyn yn edrych ymlaen nawr i'r dyfodol ar ôl amser caled.

"Fi yn teimlo lot yn well am bopeth nawr," meddai.

Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn, mae gan Rhys gyngor i blant eraill sydd efallai yn mynd trwy brofiad tebyg.

"Ma' fe yn galed ar y dechre. Ond wrth fynd trwyddo fe ma' raid i chi jyst cario 'mla'n gyda hyder, a jyst cadw meddwl i chi eich hun bod popeth mynd i fod yn iawn.

"Ar y dechre roedd pawb yn emosiynol ond wrth i ni neud mwy o weithgareddau fel codi arian roedden ni gyd fel bois yn teimlo bo' ni gallu helpu mam a phawb arall oedd yn ei helpu hi."

'Fi mor prowd'

Fe fydd y Nadolig eleni yng nghartref y teulu Morgan yng Ngellifedw dipyn yn haws na'r llynedd.

Mae'r goeden Dolig a'r addurniadau eisoes yn eu lle.

"Mae'n bwysig bod yn agored â'r plant a siarad a thrafod, fel bo' nhw hefyd yn gallu paratoi ar gyfer be' sy'n digwydd a be' sydd i ddod," meddai Meinir.

"Dim ond y bois a fi yw e - tîm bach y Morgans. Fi yn falch iawn ohonyn nhw wastad.

"Ond ma' sut ma'n nhw wedi delio â'r canser, a be' ma'n nhw wedi 'eud i helpu wedi bod ar lefel hollol wahanol. Fi mor prowd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig