Buddugoliaeth i beldroedwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen a Reto ZieglerFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Joe Alllen yn herio Reto Ziegler am y bel

Cymru 2-0 Y Swistir

Roedd rheolwr Cymru Garry Speed wedi rhybuddio fod ei chwaraewyr dan bwysau cyn y gêm yn erbyn Y Swistir yn Stadiwm y Liberty, Abertawe.

Ond roedd rhywun wedi anghofio dweud wrth chwaraewyr ifanc Cymru wnaeth sicrhau eu hail fuddugoliaeth dan Speed.

Roedd o'n cyfeirio at y pwysau sy'n dod o ddisgwyliadau ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Montenegro a pherfformiad addawol yn erbyn Lloegr yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2012.

Daeth goliau Cymru yn yr ail hanner ac erbyn hynny roedd Y Swistir lawr i 10 dyn.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru yn codi o waelod grŵp G.

Trosedd

O'r cychwyn roedd cyflymdra Bale yn achosi problemau i'r ymwelwyr ddechreuodd y gêm yn y trydydd safle yn y grŵp.

Roedd Y Swistir hefyd yn fodlon ymosod gan fod cyrraedd y rowndiau terfynol dal yn bosibilrwydd iddynt.

Daeth cyfle gorau Cymru yn yr hanner cyntaf ar ôl 37 munud, yr ymosodwr Morrison yn gorfodi arbediad gwych gan Benaglio.

Deng munud i mewn i'r ail hanner roedd Y Swistir lawr i ddeg dyn ar ôl i Ziegler gael ei anfon o'r cae ar ôl tacl ddrwg yn erbyn Gunter.

Bedwar munud yn ddiweddarach roedd yna drosedd arall yn erbyn Gunter - a'r tro hwn yn y cwrt cosbi.

Sgoriodd Aaron Ramsey o'r smotyn, ei bumed gol i Gymru.

Daeth ail gôl Cymru yn dilyn cic rhydd i'r Swistir.

Tarodd y gic yn erbyn Crofts ac aeth y bêl i Bale, ac roedd hi'n 2-0 ar ôl 73 munud.

Buddugoliaeth felly i Gymru o 2-0 o flaen torf o 12,317 yn Abertawe.

Bydd Cymru yn teithio i Sofia ar gyfer eu gêm olaf yn y grŵp yn Erbyn Bwlgaria ddydd Mawrth.

Cymru: Hennessey, Gunter, Blake, Ashley Williams, Taylor, Bale, Crofts, Ramsey, Allen, Bellamy, Morison.

Eilyddion: Myhill, Matthews, Nyatanga, Vaughan, Edwards, Robson-Kanu, Church.

Y Swistir: Benaglio, Lichtsteiner, Senderos, Klose, Ziegler, Frei, Inler, Shaqiri, Xhaka, Behrami, Derdiyok. Subs: Wolfli, Von Bergen, Degen, Rodriguez, Emeghara, Fernandes, Mehmedi.