Coleg Cymraeg: Penodi chwe darlithydd yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
MyfyrwyrFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw cynyddu cyfleoedd i ddilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg

Mae chwe darlithydd cyfrwng Cymraeg wedi eu penodi i ddarparu modiwlau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd y Coleg Cymraeg ei sefydlu ym mis Ebrill 2011.

Y nod yw cydweithio â holl brifysgolion Cymru i gynyddu cyfleoedd i ddilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y chwech yw Sara Penrhyn Jones (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu); Huw Lloyd Williams (Gwleidyddiaeth Ryngwladol); Rhun Emlyn (Hanes a Hanes Cymru); Huw Morgan (Sefydliad Mathemateg a Ffiseg); Rhys Dafydd Jones (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) a Hefin Williams (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig).

Dros y pum mlynedd nesaf bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ariannu dros 100 o swyddi darlithio newydd mewn sefydliadau yng Nghymru.

'Cyfoethogi'

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o'r cyfle i chwarae rhan sylweddol yn natblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chael penodi darlithwyr newydd i gyfoethogi'r ddarpariaeth a gynigir gennym drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae Cynllun Staffio'r Coleg yn ein helpu i gynyddu'r modiwlau a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gyfle cyffrous i ni ddatblygu darpariaeth Gymraeg o'r newydd mewn rhai meysydd.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r academyddion newydd hyn i'n plith ac i weld dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y brifysgol yn mynd o nerth i nerth."

Bythefnos yn ôl cyhoeddodd Prifysgol Bangor y byddai naw darlithydd yn cael eu penodi yno i ddarparu modiwlau yn y Gymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.