URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027

Rhanbarthau
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith URC yw cael un tîm proffesiynol yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn bwriadu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri erbyn 2027.

Roedd y corff sy'n gyfrifol am y gamp wedi awgrymu cwtogi nifer y rhanbarthau i ddau - ond bellach mae'r BBC ar ddeall mai'r cynllun yw cael gwared ar un rhanbarth erbyn 2027 - sy'n codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol Caerdydd, Y Dreigiau, Y Gweilch a'r Scarlets.

Mor ddiweddar â mis Awst, roedd URC wedi dweud mai bwrw ymlaen gyda dau ranbarth oedd y dewis gorau allan o bedwar opsiwn posib.

Ond wedi misoedd o drafod, mae'r undeb wedi penderfynu cadw'r pedwar rhanbarth yn y tymor byr - cyn torri un o'r timau proffesiynol erbyn 2027.

Dyw URC heb benderfynu sut yn union y byddai'r broses yma yn gweithio, ond maen nhw'n gobeithio am gydweithrediad cyn edrych ar system dendro.

Y gobaith yw cael tri thîm proffesiynol sy'n cael eu hariannu yn yr un modd, gydag un tîm yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin - ble mae'r Gweilch a'r Scarlets yn chwarae ar hyn o bryd.

Dywedodd URC mewn datganiad eu bod wedi gwneud "cyhoeddiad allweddol am ddyfodol y gêm elît yn dilyn y broses ymgynghori drylwyr, eang ac agored – gyda'r mwyaf o'i math yn hanes chwaraeon Cymru".

"Fe benderfynodd y Bwrdd yn unfrydol bod angen cyflwyno system newydd wrth ystyried rygbi elît yng Nghymru – er mwyn sicrhau mwy o gydweithio ar bob lefel o'r gamp a chreu llwyddiant hirdymor a chynaliadwy.

"Gwnaed y penderfyniad yn dilyn proses drylwyr o ymgysylltu a holi barn. Cafwyd dros 7,000 o ymatebion i'r holiadur a chynhaliwyd dros 31 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phartneriaid a rhanddeiliaid trwy gydol mis Medi."

'Bydd un o'r tri tîm yng Nghaerdydd'

Wrth ymateb i'r newyddion mae rhanbarth Rygbi Caerdydd wedi dweud eu bod wedi "cael sicrwydd" gan URC y bydd "un o'r tri tîm yng Nghaerdydd".

"Rydym yn teimlo rhyddhad ac yn cael ein calonogi gan hyn. Fel clwb rydym yn hyderus yn ein sefyllfa a'n hyfywedd, ond rydym am barhau i ffocysu ar sicrhau bod Rygbi Caerdydd yn aros ym Mharc yr Arfau fel Rygbi Caerdydd."

Dywedodd y Dreigiau eu bod wedi "cyfrannu'n adeiladol at ymgynghoriad URC" a'u bod yn falch bod yr undeb "wedi derbyn bod yn rhaid i rygbi elitaidd aros yng Ngwent".

Ychwanegodd y datganiad fod "cynnal a thyfu'r gêm yn y rhanbarth hwn yn hanfodol i ddyfodol rygbi Cymru, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad i sicrhau bod Gwent yn parhau i chwarae rhan ganolog" yn y gêm.

Roedd dau o'r opsiynau gafodd eu cynnig ym mis Awst yn cynnig cwtogi'r rhanbarthau o bedwar i dri gan gael gwared ag un rhanbarth.

Y dewisiadau eraill oedd haneru nifer y rhanbarthau, neu gadw'r pedwar a newid trefniadau ariannu.

Mae'r BBC yn deall bod rheolwyr y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) yn anfodlon gyda'r cynllun i gwtogi nifer y timau Cymreig yn y gystadleuaeth - sydd hefyd yn cynnwys pedwar tîm o Iwerddon, dau o'r Alban, dau o'r Eidal a phedwar o Dde Affrica.

Roedd yr opsiwn o gadw pedwar rhanbarth yn golygu y byddai dau ohonyn nhw yn cael £6.7m a dau arall yn cael £5.2m, ond fe allai hynny gael ei addasu.

Gwrthwynebiad chwyrn

Roedd yna wrthwynebiad chwyrn i gwtogi nifer y rhanbarthau gan dri allan o bedwar rhanbarth.

Undeb Rygbi Cymru biau Caerdydd ers iddyn nhw achub y clwb rhag mynd i'r wal ym mis Ebrill.

Mae'r Gweilch eisoes wedi cyhoeddi cynllun i ailddatblygu maes San Helen tra bod y Scarlets yn dweud bod gan gwmni o America ddiddordeb mewn buddsoddi ynddyn nhw.

Mae'r Dreigiau hefyd wedi dadlau bod rhaid cynnal rygbi o'r safon uchaf yn ardal Gwent.

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jac Morgan y byddai'n rhoi'r gorau i chwarae i ranbarth yng Nghymru, pe byddai'r Gweilch yn dod i ben

Cynhaliodd yr Undeb ymgynghoriad gyda chwaraewyr, cefnogwyr, gwleidyddion a thimau ym mis Medi.

Roedd yna wrthwynebiad mawr i'r cynllun ar gyfer dau ranbarth gyda phosibilrwydd o gamau cyfreithiol neu streic gan chwaraewyr.

Roedd capten tîm Cymru, Jac Morgan, wedi dweud y byddai'n rhoi'r gorau i chwarae i ranbarth yng Nghymru, pe byddai'r Gweilch yn dod i ben.

Maen bosib y bydd cyhoeddiad yr Undeb yn tawelu'r dyfroedd ychydig, er fe allai cwtogi arian arwain at gamau cyfreithiol yn erbyn yr Undeb.

Fe allai'r Undeb ystyried cwtogi timau eto pan fydd eu cytundeb gyda'r Gynghrair Rygbi Unedig yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2027-2028.

Dave ReddinFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave Reddin yn mynnu nad yw ceisio sefydlu cynghrair Eingl Gymreig yn opsiwn ar hyn o bryd

Mae arolygon wedi awgrymu y byddai mwyafrif cefnogwyr rygbi Cymru yn dymuno gweld yr Undeb yn ceisio sefydlu cynghrair Eingl Gymreig.

Ond, mae cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elit yr Undeb, Dave Reddin, yn mynnu nad yw hynny'n opsiwn ar hyn o bryd a bod yr undeb wedi ymrwymo i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Tra bod yna ychydig mwy o eglurder yn dilyn cyhoeddiad yr Undeb, mae yna gwestiynau mawr ynglŷn â dyfodol y gamp yng Nghymru yn y tymor hir.

'Mae unrhyw newid yn anodd'

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn Stadiwm Principality, dywedodd Cadeirydd Bwrdd URC, Richard Collier-Keywood: "Rydym wedi clywed yn glir iawn trwy gydol y broses o ymgynghori a holi barn, bod cymuned rygbi Cymru eisiau ateb hirdymor ac nid ateb hawdd dros dro – ac rydym wedi gwrando ar y sylwadau hynny ac wedi cytuno gyda nhw.

"Ein penderfyniad yw y bydd tri thîm proffesiynol ar gyfer y dynion yn system fwy addas ar gyfer rygbi elît yng Nghymru – yn hytrach na'r model pedwar tîm sydd gennym ar hyn o bryd.

"Bydd dau dîm proffesiynol ar gyfer y menywod yn rhan greiddiol o'r system newydd hon hefyd."

"Mae unrhyw newid yn anodd. Rydym wedi'n hymrwymo'n gytundebol i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar hyn o bryd a byddwn yn parchu hynny.

"Rydym am drafod y ffordd ymlaen gyda rheolwyr y Bencampariaeth a'r clybiau a'u perchnogion. Er y gall dod i gytundeb gymryd ychydig o amser, byddwn yn gweithio'n galed i ddod â hyn i drefn mor fuan ag sy'n bosib.

"Os nad oes modd dod i gytundeb ar sut y bydd y newid hwn yn digwydd, bydd URC wedyn yn cynnal proses dendro deg a thryloyw ar gyfer hawlio'r tair trwydded. Rydym eisoes wedi cadarnhau y byddwn yn parchu holl gytundebau'r chwaraewyr presennol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig