Ysgol ardal newydd i sir?
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion wedi cymryd y camau cyntaf i greu Ysgol Ardal newydd yng Ngheredigion.
Mae'r cyngor wedi datgan bod creu Ysgol Ardal yng Nghwrtnewydd yn un opsiwn wrth iddyn nhw drafod dyfodol ysgolion Cwrtnewydd, Llanwenog a Llanwnnen.
Cafodd cyfarfod ar gyfer rhieni a llywodraethwyr ysgolion Llanwenog a Llanwnnen ei gynnal yn Llanbed nos Fawrth i drafod y mater.
Mae'r tair ysgol tua thair milltir i ffwrdd o'i gilydd nepell o Lanbedr Pont Steffan.
'Llenwi'r bwlch'
Cafodd cyfarfodydd rhwng llywodraethwyr yr ysgolion a swyddogion adran addysg y cyngor eu trefnu'r wythnos diwethaf.
Y gred yw bod y cyfarfodydd hyn wedi eu trefnu wedi i brifathro Ysgol Cwrtnewydd, Alwyn Ward, gael ei benodi yn bennaeth Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant.
Ar hyn o bryd mae tua 40 o blant yn mynychu Ysgol Llanwnnen a thua 36 o blant ar gofrestr Ysgol Llanwenog.
Rhif trothwy'r cyngor cyn iddyn nhw gymryd camau i gau ysgolion cynradd yw 20 disgybl.
Dywedodd cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanwenog, Geraint Davies a chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanwnnen, Stephen Cooper, nad oedden nhw am gynnig unrhyw sylwadau ynglŷn â'r mater ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraethwyr Ysgol Cwrtnewydd: "Mae ysgolion Llanwenog, Llanwnnen a Chwrtnewydd wedi cyd-weithio ers tua naw mlynedd bellach, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu'r berthynas honno i'r dyfodol, ym mha bynnag ffurf y cytunir arni."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol gyda'r Cyrff Llywodraethol y tair ysgol i drafod y ffordd ymlaen yn unol â strategaeth Cyngor sir Ceredigion o ddatblygu'r ddarpariaeth Gynradd ar draws y sir.
"Trefnwyd y cyfarfodydd oherwydd bod un o'r penaethiaid wedi derbyn cynnig am swydd arall tu allan y cylch.
"Roedd angen ystyried sut i lenwi'r bwlch erbyn mis Ionawr.
"Trafodwyd sefyllfa'r ardal a chynigwyd Ysgol Ardal fel un opsiwn posib.
"Bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw ariannu'r gwaith yma trwy ffynonellau gwahanol.
"Byddwn yn ymgymryd â chyfres o gyfarfodydd i ymgynghori yn anffurfiol ar yr opsiwn yma dros yr wythnosau nesaf."