Ffordd osgoi wedi cael ei hagor

  • Cyhoeddwyd

Mae ffordd osgoi Porthmadog wedi cael ei hagor yn swyddogol.

Y nod yw lleihau tagfeydd a gwella amseroedd teithio ar yr A487 - sy'n ffordd gyswllt pwysig rhwng y gogledd orllewin a de Cymru.

Bydd y ffordd yn hwyluso'r traffig ym Mhorthmadog, Tremadog a Minffordd.

Cafodd y ffordd ei hagor fore Llun gan Carl Sargeant, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth.

Penderfynodd cygor tref Porthmadog beidio ag anfon cynrychiolydd i'r digwyddiad oherwydd iddynt dderbyn gwahoddiad uniaith Saesneg.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd newydd yn dair milltir o hyd.

Cafodd hynny ei ddisgrifio fel sarhad ar ddiwylliant ac iaith yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro am y llythyr, gan ddweud eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu dyfodol tymor hir yr iaith.

Cafodd y lôn dair milltir o hyd ei chwblhau saith wythnos yn gynt na'r disgwyl ar gost o £35 miliwn.

Dechreuodd y gwaith yn Ionawr 2010.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2009.

Ond cyn hynny, bu ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun.

Er bod 'na wrthwynebwyr i'r cynllun, dywedodd yr arolygwr mai'r ffordd osgoi fyddai'r ateb gorau o ran gwella tagfeydd yng nghanol trefi a phentrefi.