Mwy na geiriau mewn geiriadur ar-lein newydd

  • Cyhoeddwyd
GeiriadurFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Geiriadur newydd sy'n cynnwys mwy 'na geiriau gan BBC Cymru a Phrifysgol Bangor

Mae 'na eiriadur newydd ar gael sy'n cynnig llawer mwy 'na geiriau.

BBC Cymru sydd wedi darparu'r Geiriadur Ar-lein newydd.

Mae'r geiriadur y mwyaf cynhwysfawr o'i fath.

Gyda dros 55,000 gair ma' 'na glipiau llafar i ddangos sut y dylid ynganu'r geiriau yn ogystal â gair Cymraeg y dydd gan DJ BBC Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens.

Mae'r adnodd bellach ar gael ar wefannau'r BBC.

Mae'n cynnwys cyfoeth o eiriau gan gynnwys rhai mwy anghyffredin na'i gilydd.

"Dwi'n meddwl ei fod yn adnodd ofnadwy o handi, a dwi'n ei ddefnyddio yn barod," meddai Huw Stephens.

Help llaw

"Gallwch chi roi'r linc ar sgrin eich cyfrifiadur a jyst clicio pan ydych chi'n methu cofio ryw air Cymraeg neu Saesneg.

"Gallwch wneud yn siŵr bod eich sillafu yn gywir yn ogystal.

"Rwy hefyd yn rhoi ychydig o help llaw i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg i ehangu eu geirfa gyda gair y dydd ar wefan y BBC.

"Gallwch ei gyrraedd trwy linc ar y geiriadur ar-lein."

Mae'r geiriadur yn ganlyniad partneriaeth rhwng Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor a BBC Cymru.

"Dechreuon ni gydweithio gyda Chanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor nôl yn 2001 wrth i ni gyhoeddi'r cwrs Cymraeg Catchphrase ar-lein," meddai Gareth Morlais, Uwch Gynhyrchydd bbc.co.uk/cymru.

"Mae hi mor braf cael cydweithio unwaith eto ar y Geiriadur ar-lein newydd yma."

Dywedodd Delyth Prys, Arweinydd Tîm Technolegau Canolfan Bedwyr, eu bod wrth eu bodd fod y geiriadur Cysgeir yn cyrraedd cynulleidfa eang drwy wefan y BBC.

Am gyfieithiad chwim o'r Saesneg i'r Gymraeg, ewch i bbc.co.uk/wales/welshdictionary ac am gyfieithiadau Cymraeg-Saesneg ewch i bbc.co.uk/cymru/geiriadur