Newid treth etifeddiant yn 'ddinistriol i fusnesau teuluol'

Mae perchennog Net World Sports yn Wrecsam yn rhybuddio am effaith treth etifeddiant ar fusnesau teuluol
- Cyhoeddwyd
Gallai newidiadau i dreth etifeddiant fod yn "ddinistriol" i fusnesau teuluol, gyda'r potensial i'w gyrru dramor, yn ôl perchennog busnes llwyddiannus yn y gogledd.
Dywedodd Alex Lovén, sylfaenydd Net World Sports yn Wrecsam, y gallai ei gwmni wynebu biliau yn y "degau o filiynau" o dan y newidiadau sy'n dod i rym fis Ebrill nesaf, gan ei wneud yn "anghynaladwy" i redeg busnes.
Yn ôl arbenigwyr treth mae'r newidiadau eisoes yn newid ymddygiad busnesau, gyda rhai cwmnïau'n rhoi'r gorau i gynlluniau ehangu.
Mae'r Trysorlys yn mynnu bod y newidiadau yn deg ac yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan ddadlau bod y nifer fach o ystadau cyfoethog yn elwa ar hyn o bryd.
Beth sy'n newid?
Er taw ffermwyr sydd wedi denu llawer o'r sylw o ran diwygio'r dreth etifeddiant, nid dim ond y byd amaeth fydd yn gweld effaith y newidiadau.
Maent hefyd yn berthnasol i ystod eang o gwmnïau teuluol, llawer ohonynt wedi dibynnu ar ryddhad treth llawn i drosglwyddo busnesau rhwng cenedlaethau heb filiau treth mawr.
O dan y rheolau presennol, mae'r rhan fwyaf o fusnesau sy'n cael eu trosgwlyddo ar ôl marwolaeth yn gymwys i ryddhad treth etifeddiant gwerth 100%. Mae hyn wedi caniatáu i gwmnïau teuluol symud rhwng cenedlaethau heb arwain at filiau treth sylweddol.
O 6 Ebrill, bydd y £1m cyntaf o asedau busnes yn parhau wedi eu heithrio, ond bydd unrhyw beth uwchlaw hynny'n denu treth o 20%.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y newid yn codi cannoedd o filiynau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond mae beirniaid yn rhybuddio y gallai darfu ar gynlluniau olyniaeth a buddsoddiadau hirdymor.
Ar gyfer busnes gwerth £5m, byddai'r drefn bresennol yn caniatáu iddo gael ei etifeddu heb dreth etifeddiant. O fis Ebrill 2026 ymlaen byddai'n golygu bil treth etifeddiant o £800,000.

Dywedodd Alex Lovén (canol) bod angen "cynllunio i amddiffyn y busnes" rhag newidiadau treth
Dywedodd Alex Lovén fod y polisi'n tanseilio cynllunio hirdymor ac uchelgais i dyfu'r busnes.
"Mae'n tynnu'r egni ohonoch chi. Rydych chi'n dechrau ar y gwaelod, yn gweithio'n galed i adeiladu rhywbeth… ac yna mae'r llywodraeth yn dod draw ac yn tynnu'r rug o dan eich traed."
Dywedodd fod maint y dreth etifeddiant sy'n cael ei chyflwyno mor enfawr fel y gallai orfodi busnesau i newid strategaeth.
"Yn sydyn rydych chi'n mynd o gynllunio i dyfu busnes, i gynllunio i amddiffyn y busnes rhag cael ei gymryd oddi wrthych."
Awgrymodd Mr Lovén fod y newidiadau'n mynd yn erbyn galwadau'r llywodraeth am fuddsoddiad:
"Maen nhw'n cwyno am agwedd byrdymor, ond pan ddaw'r diffiniad llwyr o hirdymor – busnesau teuluol – maen nhw'n hapus i'w cymryd oddi wrthych."
'Pam fyddech chi'n trafferthu?'
Rhybuddiodd y gallai entrepreneuriaid adleoli, gan ychwanegu: "Pam fyddech chi'n trafferthu gwneud hyn yn y DU? Rydyn ni'n dechrau troi ein sylw at America oherwydd fyddan nhw ddim yn cymryd popeth oddi wrthych."
Mae Net World Sports yn cyflogi cannoedd o bobl ac yn talu tua £1m mewn ardrethi busnes.
"Ni yw'r buddsoddwr mwyaf i mewn i Wrecsam, ond beth yw'r pwynt os yw llwyddiant yn cael ei gosbi? Ni fydd eich gwlad, eich economi byth yn symud ymlaen."

Rhybuddiodd Andrew Evans bod cwmnïau'n anwybyddu'r newidiadau fydd yn eu heffeithio
Disgrifiodd Andrew Evans, partner treth yn Geldards, effaith y rheolau treth etifeddiant newydd fel rhywbeth "sy'n newid bywyd" perchnogion.
"Siaradais â chwsmer a oedd wedi cynilo £15m i dyfu eu busnes i gyfeiriad gwahanol. Maen nhw wedi penderfynu, o ganlyniad i'r newidiadau hyn, nad ydyn nhw'n mynd i drafferthu."
Rhybuddiodd Mr Evans nad yw llawer o berchnogion yn ymwybodol o oblygiadau'r newid, a llawer o fusnesau bach a chanolig yn anwybyddu'r effeithiau posib. Anogodd berchnogion busnes i geisio cyngor ac i ysgrifennu ewyllys.
Dywedodd y Trysorlys y gallai'r newidiadau godi £520m y flwyddyn, ond cwestiynodd Andrew Evans a oedd hynny'n werth yr effaith bosibl ar dŵf: "Yn hytrach na gwario arian i dyfu'r busnes, bydd perchnogion yn arbed arian i dalu bil treth.
"Yn bersonol, rwy'n credu bod hynny'n siomedig ac dyw hynny ddim yn cyd-fynd â datganiadau'r Canghellor ei bod o blaid tŵf."
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Rydym yn llywodraeth sy'n gefnogol i fusnesau ac wedi capio Treth Gorfforaeth ar 25%, y gyfradd isaf yn y G7, rydym yn diwygio ardrethi busnes [yn Lloegr], wedi sicrhau cytundebau masnach gyda'r UDA, yr UE ac India, ac wedi gweld cyfraddau llog yn gostwng bum gwaith ers yr etholiad, sydd o fantais i fusnesau ymhob rhan o Brydain.
"Ar hyn o bryd, mae 53% o'r Rhyddhad Eiddo Busnes – gwerth £533m – yn mynd i ond 158 o ystadau. Bydd ein diwygiadau'n sianelu'r cyllid hwnnw i wasanaethau cyhoeddus hanfodol."

Doedd treth etifeddiant ddim yn bryder blaenllaw i gwmni Huw Watkins
Er bod treth etifeddiant yn fater allweddol i berchnogion busnes, mae rhai wedi dilyn opsiynau eraill i leihau goblygiadau treth a sicrhau goroesiad eu busnes.
Mae BIC Innovation, sydd wedi'i leoli ym Mangor, yn gwmni sy'n cynghori busnesau ar arloesi a strategaeth. Mae ei sylfaenwyr wedi gwerthu'r busnes i'w staff.
"Mae'n rhaid i chi werthfawrogi o ble rydych chi wedi dod – eich hanes, eich gwerthoedd – oherwydd mae hynny'n siapio'r diwylliant a'r opsiynau sydd ar gael," meddai'r prif weithredwr Huw Watkins.
"Mae cynllunio ymhell ymlaen llaw a chyfathrebu â gweithwyr yn allweddol."
Dywedodd Mr Watkins fod y penderfyniad wedi'i yrru gan awydd i gadw'r busnes wedi'i wreiddio yng Nghymru a rhoi llais cryfach i staff.
"Roedd y model - sy'n eiddo i'r gweithwyr - yn addas iawn i ni allu seilio'r busnes yng Nghymru a rhoi llais cryfach i'n staff yn natblygiad y busnes," meddai.
Er nad oedd cynllunio treth etifeddiant yn ffactor mawr i BIC Innovation, dywedodd Mr Watkins fod cymhellion treth wedi chwarae rhan oherwydd bod y model sy'n eiddo i'r gweithwyr yn osgoi treth enillion cyfalaf ar gynnyrch y gwerthiant.
Ei gyngor i sylfaenwyr eraill oedd dechrau cynllunio olyniaeth yn gynnar.
"Cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi. Bydd rhai'n apelio mwy na'i gilydd, ond ystyriwch beth sy'n wirioneddol bwysig – boed yn etifeddiaeth, rhoi llais gwell i staff, neu amgylchiadau eraill."