Lansio gwobr er cof am Leah Owen er mwyn rhoi 'cyfleoedd i bobl ifanc'

Leah Owen
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Leah Owen ym mis Ionawr y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cystadleuaeth newydd er cof am y gantores ac hyfforddwraig amlwg Leah Owen yn gyfle i "wella cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r iaith Gymraeg".

Mudiad Dyfodol yr Iaith sy'n lansio'r gystadleuaeth i bobl ifanc er cof amdani a'i chyfraniad i ddiwylliant Cymru.

Bu farw yn 70 oed ym mis Ionawr 2024 yn dilyn salwch.

Dywed ei gŵr, Eifion Lloyd Jones, sy'n un o feirniaid y gystadleuaeth, y buodd Leah yn "weithredol dros y Gymraeg o ddyddiau cynnar ei hymgyrchu a'i chanu, trwy flynyddoedd y cyfansoddi a hyfforddi ei chorau a channoedd o bobl ifanc".

Yn ogystal â bod yn berfformwraig lwyddiannus, fe hyfforddodd Leah Owen lawer iawn o blant, a rhai o'r rheiny nawr yn llwyddiannus iawn eu hunain ym myd cerddoriaeth.

Rhwng 1975 a 2001 recordiodd sawl albwm unigol ei hun i Recordiau Sain.

Er mai ym Môn y cafodd ei magu, roedd hi wedi ymgartrefu ers blynyddoedd yn ardal Prion, Dinbych.

Hi oedd enillydd Medal Syr T H Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010 am ei chyfraniad "amhrisiadwy" i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol yr ardal.

Fe gafodd hefyd ei hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a'r Gymraeg.

Disgrifiad,

Bu'r actores Angharad Llwyd yn rhoi teyrnged i'w mam, Leah Owen, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2024

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Eifion Lloyd Jones: "Bu'r Gymraeg yn genhadaeth oes iddi ym mhob agwedd o'i bywyd a'i chyfraniadau niferus i ddiwylliant Cymru fel cantores, arweinydd nifer o gorau a hyfforddwraig cannoedd o bobl ifanc.

"Ein gobaith ym mudiad Dyfodol i'r Iaith yw y bydd y cystadlaethau yma yn ysgogi pobl ifanc ledled Cymru i feddwl am eu defnydd nhw o'r Gymraeg a sut y gellir gwella cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd beunyddiol.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Gôr NantClwyd am eu rhodd ariannol er cof am Leah sydd wedi rhoi'r cyfle i ninnau fynd ati i sefydlu'r Wobr Goffa."

Leah Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leah Owen ei magu yn Rhosmeirch, Ynys Môn, ac ymgartrefu ym Mhrion, Sir Ddinbych

Mae cystadlaethau ar gyfer oedrannau gwahanol wedi eu lansio.

I ddisgyblion uwchradd blwyddyn 10-11, yr her fydd creu cyflwyniad fideo rhwng tri a phum munud o hyd yn ymdrin â'r testun: "Ble ydw i'n defnyddio'r Gymraeg, a ble arall hoffwn i allu defnyddio'r Gymraeg?"

Ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd Bl12-13 (Safon uwch) a myfyrwyr Coleg Addysg Bellach (hyd at 19 oed) yr her fydd creu cyflwyniad fideo rhwng pump ac wyth munud o hyd yn ymdrin â'r testun: "Beth ydi'r cyfleoedd a'r rhwystrau i mi ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol neu goleg ac yn fy mywyd yn gyffredinol. Sut y gellir gwella'r cyfleoedd hynny?"

Mae modd i ddisgyblion gystadlu fel unigolyn, fel pâr, neu fel triawd. Bydd gwobrau ariannol o £100, £60 a £40 yn y ddwy gystadleuaeth.

Y beirniaid yw Eifion Lloyd Jones, Elaine Edwards a Dr Huw Griffiths, sef aelodau bwrdd Dyfodol i'r Iaith.