Galw am dynhau rheolau beiciau trydan wedi gwrthdrawiad 'erchyll'

Sam BevanFfynhonnell y llun, Sam Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Does dim cof o gwbl gan Sam Bevan o'r hyn ddigwyddodd iddo

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn gafodd ei daro yn anymwybodol gan feic trydan yng Nghasnewydd yn galw am gyflwyno rheolau llymach ar ddefnydd o'r cerbydau.

Mae Sam Bevan, 33, yn byw yn ardal Sain Silian ac yn dweud nad oes ganddo unrhyw gof o'r ddamwain ar 11 Tachwedd - wnaeth ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau ar ei wyneb.

Dywedodd Mr Bevan nad oedd yn deall beth oedd wedi digwydd nes i gymydog ganfod deunydd fideo oedd yn dangos y gwrthdrawiad ac, mae'n ymddangos, y gyrrwr yn ffoi o'r lleoliad.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Deunydd CCTV o Sam Bevan yn cael ei daro gan y beicFfynhonnell y llun, Jason Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd deunydd CCTV ei ganfod o Sam Bevan [dillad gwyn] yn cael ei daro gan y beic trydan

Ar ddydd Mawrth, 11 Tachwedd, fe aeth Sam Bevan allan at ei gar ar ôl rhoi ei swper yn y popty.

Munudau yn ddiweddarach fe ddeffrodd yng nghanol Fairoak Avenue ag yntau ddim yn cofio unrhyw beth am y digwyddiad.

Dim ond yn yr oriau wedi hynny - ar ôl iddo straffaglu adref gyda chrafiadau a thoriadau ar ei wyneb - y sylweddolodd bod rhywbeth o'i le.

"Roedd fy llystad yn gofyn i mi beth oedd dyddiad pen-blwydd fy mab a doeddwn i ddim yn cofio. Roeddwn i ychydig yn drist am hynny," meddai.

Aeth Sam i Ysbyty Grange yng Nghwmbrân, gyda meddygon hefyd wedi'u drysu gyda'i anafiadau.

"Roedden nhw'n dweud wrtha'i na fyddwn i'n gallu gyrru am chwe mis, y byddai'n rhaid i mi gael profion ar fy nghalon a fy ymennydd ac roedd y cyfan yn ormod i mi mae'n rhaid i mi gyfaddef," ychwanegodd.

Sam Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Bevan wedi byw ar y stryd ers 12 mlynedd ac mae'n dweud bod beiciau trydan yn broblem fawr yn yr ardal

Ddeuddydd yn ddiweddarach fe ddaeth dau ddyn i'w gartref i holi am ei les, gan ddweud mai cymdogion oedden nhw, oedd wedi ei helpu ar noson y gwrthdrawiad.

Fe wnaethon nhw esbonio ei fod wedi cael ei daro gan feic trydan.

Ar ôl hynny, daeth deunydd CCTV i'r amlwg oedd yn dangos Sam yn cael ei daro gan feic trydan oedd yn dreifio ar stryd unffordd i'r cyfeiriad anghywir - ar gyflymder ac heb olau.

Tarodd ei gorff yn galed yn erbyn y ffordd ac yna fe adawodd y gyrrwr y lleoliad, gan adael Sam yn gorwedd yn y ffordd am sawl munud.

"Mae pobl wedi dweud wrtha'i ei fod yn erchyll," meddai Sam, sydd i ffwrdd o'i waith am bedair wythnos.

"Dwi wedi ei wylio tua 500 gwaith, ond dydy o ddim yn edrych yn real i mi."

'Gallai wedi bod yn blentyn'

Ychwanegodd Sam y gallai'r digwyddiad wedi bod yn un difrifol iawn.

"Gallai wedi bod yn blentyn, person hen, rhywun â ffrâm lai - roeddwn i'n eithaf lwcus."

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r digwyddiad ac mae Sam yn gobeithio y bydd pobl yn rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu.

Cael ei adael ar y ffordd wedi'r digwyddiad sydd wedi ei wylltio, meddai, "yr amarch a pheidio â bod yn foesol a gweld os ydy rhywun yn iawn".

Mae Sam hefyd yn dweud bod angen gwneud mwy i reoleiddio beiciau trydan.

"Gobeithio y bydd pobl sy'n gweld y ddamwain hon yn ailystyried eu prynu i'w plant," meddai.

Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig