Aros tair blynedd i gael ad-dalia
- Cyhoeddwyd
Gallai teuluoedd sydd wedi gorfod talu ffioedd am gartrefi gofal ar gam orfod disgwyl am dair blynedd arall cyn cael gwybod os cawn nhw'u harian yn ôl.
Eisoes mae rhai wedi disgwyl am flynyddoedd ac yn flin nad yw'r mater wedi cael ei ddelio ag ef.
Dywed llywodraeth Cymru fod y nifer o achosion wedi disgyn o 2,450 i 1,995, ond yn ol y gwrthbleidiau nid yw'r llywodraeth yn gwneud digon.
Bwrdd Iechyd Powys sydd bellach yn gyfrifol am ystyried ceisiadau hanesyddol am Gymru gyfan ynghyd a cheisiadau mwy newydd a wnaed ers Awst 2010.
Ond mae'r bwrdd yn ystyried bron 2,000 o achosion ac fe ddywedodd y bwrdd wrth raglen y BBC Politics Show y gallai gymryd hyd at dair blynedd i fynd drwy'r holl geisiadau.
Asesiad
Fe wariodd y teulu Waite o'r Gelli yn y Rhondda £40,000 ar ffioedd i sicrhau y byddai eu mam Beryl yn derbyn gofal nyrsio am 24 awr y dydd mewn cartref nyrsio.
Mae ei meibion yn canmol y gofal a gafodd, ond yn credu y dylai fod y gofal yn rhad ac am ddim, ac wedi bod yn ceisio hawlio'r arian yn ol ers 2006.
Dywedodd Kenneth Waite: "Roedd yn sioc a dweud y gwir ac roedd rhaid i ni werthu cartref fy mam er mwyn ei chadw yn y cartref."
Petai Mrs Waite wedi cael asesiad gan y Gwasanaeth Iechyd, dywed ei chyfreithiwr y byddai wedi cael argymhelliad am ofal iechyd, sy'n golygu y byddai'r GIG wedi talu am ei lle yn y cartref.
Ond am na chafodd asesiad fe benderfynodd yr awdurdod lleol y byddai'n rhaid i'w theulu dalu am ei gofal.
Sylw haeddiannol
Dywedodd llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black AC, nad oedd y llywodraeth wedi rhoi sylw haeddiannol i'r mater fel yr oedden nhw wedi addo.
Dywedodd: "Maen nhw wedi methu ag ystyried y sefyllfa y mae nifer o deuluoedd ar draws Cymru wedi ei brofi, ac wedi methu gosod sustemau mewn lle i ddelio'n gyflym gyda'r ceisiadau sydd yn eitha' hawdd nac i ddelio gyda'r achosion mwy cymhleth mewn amser digonol.
"Rwy'n credu fod rhaid i'r gweinidog (Lesley Griffiths) fynd i'r afael a hyn yn sydyn - yn sicr yn gyflymach na'r tair blynedd yr ydym nawr yn clywed y bydd hi'n cymryd i ddelio gyda hyn."
Dywed llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pryderon, ac mai dyna pam y cafodd Bwrdd Iechyd Addysgol Powys y dasg o sicrhau adolygiad teg a chyson o'r ceisiadau ar ran y GIG yng Nghymru.
Yn ôl llefarydd: "Roedd cyfanswm y ceisiadau yng Nghymru oddeutu 3,500 ac fe ddaeth y nifer yna i lawr i 2,450 yn dilyn scriwtineiddio.
"Mae rhai taliadau eisoes wedi eu gwneud, ac mae'r nifer sy'n aros bellach yn 1,995.
"Rydym yn delio gyda'r ceisiadau yn ol y dyddiad y cawson nhw'u gwneud yn hytrach na dyddiad y gofal dan sylw.
"Credwn y bydd yr holl geisiadau wedi eu clirio ymhen tair blynedd."
Bydd y Politics Show yn cael ei darlledu ar BBC 1 Wales am 11:15am ar ddydd Sul, Hydref 16.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011