Cau uned fân anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda dros dro
- Cyhoeddwyd
Bydd uned fân anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda'n cael ei chau dros dro ddydd Mercher oherwydd prinder staff mewn ysbyty arall.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn bwriadu symud nyrsys o'r adeilad £36m ger Tonypandy i uned ddamweiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant.
Dywedodd y bwrdd nad arian oedd wrth wraidd y penderfyniad ond ei bod yn anodd recriwtio pobl addas.
Dyw hi ddim yn glir pryd bydd yr uned yn Ysbyty Cwm Rhondda yn ailagor.
Cafodd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei agor yn 1999 ac roedd yn disodli Ysbyty Dwyrain Morgannwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.
'Her staffio'
Agorodd Ysbyty Cwm Rhondda'r llynedd.
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "ymateb yn bositif i her staffio meddygol tymor byr" yn yr uned ddamweiniau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a dywedon nhw eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i bobl addas i'w cyflogi.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd: "Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf ynghyd â byrddau iechyd eraill yng Nghymru yn wynebu trafferthion wrth lenwi swyddi meddygol gwag mewn adrannau brys.
"Does a wnelo hyn ddim byd ag arian, ond mae o ganlyniad i ddiffyg ymgeiswyr addas ar gyfer nifer o swyddi sydd angen eu llenwi."
'Llenwi bylchau'
Ychwanegodd y bwrdd eu bod yn defnyddio meddygon yn rheolaidd i "lenwi bylchau" er mwyn cael rhyw fath o ddilyniant, ond nad oedd hyn yn ateb tymor hir.
Dywedon nhw fod nifer o feddygon tramor wedi cael eu penodi oherwydd ymgyrch recriwtio ond bod gofynion mewnfudo yn golygu na fydden nhw'n barod i ddechrau gweithio tan ddechrau'r flwyddyn nesa'.
"O fis Hydref ymlaen bydd gennym ni ddau feddyg arall yn gweithio yn uned ddamweiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg," meddai'r datganiad.
"Yn anffodus, mae hyn yn dod â ni at bwynt ble mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i sicrhau bod ansawdd y gofal yn cael ei gynnal a safonau clinigol yn cael eu cadw."
'Annerbyniol'
Ar sail cyngor staff clinigol, medden nhw, yr ateb tymor byr gorau oedd symud nyrsys profiadol o Ysbyty Cwm Rhondda i'r uned ddamweiniau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Wrth ymateb i'r penderfyniad i gau'r uned yn Ysbyty Cwm Rhondda, dywedodd Eluned Parrott, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Canol De Cymru: "Mae hon yn sefyllfa chwerthinllyd.
"Mae gennym ni adeilad ysbyty sy'n flwydd oed a dim staff i weithio yno ... mae prinder staff yn rhoi cleifion mewn perygl ac mae hynny'n annerbyniol."
Bydd uned fân anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda yn cau am 5:00pm ddydd Mercher.