'Lles a diogelwch plant yn gyfrifoldeb i bob un ohonom'

Mae nofel ddiweddaraf Mari Emlyn yn ymdrin â chamdriniaeth rywiol un o'r cymeriadau
- Cyhoeddwyd
Mae lles a diogelwch plant "yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, nid dim ond y sefydliadau", yn ôl awdures sy'n trafod camdriniaeth rywiol yn ei nofel ddiweddaraf.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru, dyweddodd Mari Emlyn ei bod "yn tynnu ar rywfaint o brofiad personol", er yn pwysleisio nad ei stori hi yn union sydd yn y gyfrol 'Paid â Deud'.
Dywedodd yr awdures, actores a sgriptiwr ei bod wedi cael ei cham-drin yn rhywiol pan yn naw oed, ac mae hi'n galw ar bobl i beidio â chadw'n dawel os oes pryder ynghylch lles plentyn.
Ar Ddydd Sul Diogelu – ble mae eglwysi'n pwysleisio pwysigrwydd diogelu plant a phobl fregus – dywedodd: "Os ydyn ni o gwbl yn amau bod yna blentyn yn fregus oherwydd ei gysylltiad ag oedolyn amheus, yna ma' cyfrifoldeb arno ni i gyd i siarad am hyn".
'Edmygu dewrder dioddefwyr'
Dywedodd yr awdures, sy'n wreiddiol o Gaerdydd ond yn byw yn Y Felinheli ers blynyddoedd, mai'r "cam cyntaf ydy'r siarad - yr ail gam ydy bod rhywun yn gweithredu ar leisiau'r dioddefwyr yma ac yn amddiffyn y plant".
Cyfeiriodd at achos "arswydus" y pidoffeil a'r cyn-brifathro Neil Foden, ac ymateb yr awdurdodau er mwyn ceisio atal achosion tebyg yn y dyfodol, gan ddweud bod "rhaid edmygu dewrder" dioddefwyr yr achos.
"Dwi'n falch o weld bod Cyngor Gwynedd, o dan y Prif Weitheredwr cymharol newydd Nia Jeffreys, yn bwriadu ymateb fesul pwynt i'r adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar er mwyn sicrhau nad oes rhywbeth fel hyn byth yn digwydd i blant ein cymunede ni eto," dywedodd.
Ond fe bwysleisiodd bod yn "rhaid inni ystried bod lles a diogelwch plant yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, nid dim ond y sefydliadau".
'Rhaid inni newid y feddylfryd'
A hithau ar un adeg yn Gyfarwyddwr Artistig yng nghanolfan gelfyddydol Galeri, Caernarfon, dywedodd Mari Emlyn ei bod wedi bod ar gwrs hyfforddi diogelu plant.
Esboniodd mai "un o'r rhesymau dydy pobl ddim yn ymateb neu'n gweithredu ar bethe' fel hyn yw dy' nhw ddim yn gwbod at bwy i fynd".
Mae hi'n ofni bod yna "rhyw elfen o deimlo 'o job rhywun arall ydy reportio hyn, ddim fi'" ac yn awgrymu bod "rhaid inni newid y feddylfryd yna".
Ychwanegodd: "Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonan ni, ac os ydan ni ddim yn siŵr at bwy i fynd ma' 'na ddigon o wefannau - Safeguarding Wales, er enghraifft - y gallech chi fynd arno i ffeindio pwy ydy'r sefydliadau neu'r bobl y dylid cysylltu â nhw ar fyrder."

Fe fydd Mari Emlyn yn trafod y nofel mewn digwyddiad yn Jac y Do, Caernarfon, nos Fercher 19 Tachwedd
Dywedodd nad oedd "cenhadaeth" na "bwriad o gwbl o fynd ar hyd y trywydd yma" wrth ddechrau ysgrifennu'r nofel, ond "doth yr elfen yma o gamdriniaeth rywiol i mewn i'r stori" wrth mynd yn ôl i blentyndod y cymeriadau wrth esbonio'u perthynas â'u gilydd.
"Do'n i ddim yn gw'bod ar y pryd ond mae'n debyg o ran yr ystadege cyfredol bod un o bob pedair merch, neu blentyn, yn ca'l profiad o gamdriniaeth rywiol.
"Mae'n ddiddorol felly 'mod i wedi dewis pedair merch a bod un ohonyn nhw yn y nofel yn cael ei cham-drin yn rhywiol.
"Dwi yn tynnu ar rywfaint o brofiad personol er mai nid fy mhrofiad i ydy'r stori yma.
"Ond mae'n siŵr bod be' ddigwyddodd i mi pan ges i fy ngham-drin yn rhywiol yn naw oed... sydd dros hanner can mlynedd yn ôl bellach - mae'n siŵr 'mod i wedi mygu rhwyfaint ar y profiad yna a bod y sgwennu yma, rhywsut neu gilydd, wedi dod â'r stori yn ôl i'r wyneb."

"Dyna be' mae ffuglen yn caniatáu i rywun 'neud," ychwanegodd;
"Mae rhywun wrth gwrs yn defnyddio dychymyg ond mae rhywun hefyd yn tynnu oddi ar rywfaint o brofiad personol.
"Mae o'n gysur mawr i mi 'mod i wedi cael negeseuon gan rai sydd eisoes wedi'i darllen hi yn diolch imi am wneud hynny.
"Rhaid cofio wrth gwrs taw tawelwch sy'n caniatáu i gam-driniaeth barhau."
Hanes iselder teulu O.M. Edwards
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.